Ewch i’r prif gynnwys

Gweinidog Prifysgolion y DU yn ymweld ag ICS

25 Ionawr 2019

Chris Skidmore

Bu Chris Skidmore, Gweinidog Gwyddoniaeth a Phrifysgolion y DU ar ymweliad yn ddiweddar â Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd (ICS) i weld y datblygiadau diweddaraf mewn arloesedd wafferi Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS).

Mae'r Sefydliad yn cynnig ystod o atebion CS i gwmnïau sy'n gweithio i ddatblygu technolegau'r 21ain ganrif.

Cafodd y Gweinidog y cyfle i weld Ystafell Lân yr ICS sydd newydd gael ei hadnewyddu a sut mae’n cynorthwyo busnesau ar draws de Cymru yn rhan o CS Connected - clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd.

Mae'r Ystafell Lân, sydd wedi cael buddsoddiad £600,000 i’w huwchraddio, bellach yn cynnwys offer newydd i greu wafferi 6 modfedd. Mae wedi cael £3.3m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) a Llywodraeth Cymru drwy Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd.

Bydd ICS yn gweld gwelliannau pellach, gan gynnwys gofod labordy arloesol a gallu cynyddol i gynhyrchu wafferi 8 modfedd, pan fydd yn symud i'r Cyfleuster Ymchwil Trosiadol newydd ar Heol Maendy - rhan o Gampws Arloesedd Caerdydd.

Dywedodd Chris Skidmore AS: "Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn sail i gydgysylltedd ym mhob man, gan gynnwys popeth o ffonau clyfar i ‘fyw’n gysylltiedig’, gan ddefnyddio technoleg i’n galluogi i fyw ein bywydau yn fwy hwylus a deallus yn y dyfodol.

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wrth wraidd y diwydiant newydd enfawr hwn, sy'n werth bron i $34 biliwn (£26.2 biliwn) ledled y byd. Mae'r sector hwn yn hanfodol ar gyfer datblygu ein diwydiant yn y dyfodol a thrwy ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern rydyn ni'n buddsoddi mewn ymchwil i gynnal enw da'r DU fel lle gwych ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd.

Chris Skidmore AS

Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: "Roedd y daith yn gyfle i ni arddangos yr Ystafell Lân ac i’r Gweinidog weld y cyfleusterau arloesol sy'n helpu ein hymchwilwyr a'n diwydiant i gydweithio i drosi'r wyddoniaeth yn amgylchedd cynhyrchu masnachol. Mae llawer o ddatblygiadau yn ein bywydau bob dydd yn dibynnu ar dechnoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae cyllid EPSRC yn caniatáu i Brifysgol Caerdydd a'i gwmnïau partner barhau i ddatblygu technoleg sy'n galluogi datblygiadau newydd, fel cerbydau hunanyrru a chyfathrebu 5G."

Cynhaliwyd ymweliad Gweinidogol y DU wrth i Weinidog Economi Cymru, Ken Skates, groesawu cymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd am gynllun blaengar a arweinir gan Gymru fydd yn amlygu pwysigrwydd y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Bydd y cynllun yn datgloi €1.75bn (£1.54bn) o gyllid ar gyfer gweithgareddau ymchwil, ac yn denu hyd at €6bn (£5.29bn) ar ffurf buddsoddiadau preifat. Yn y pen draw, bydd hyn yn helpu i gyflwyno arloesiadau technolegol i’r farchnad.

Bydd y DU yn cael hyd at €48 miliwn (£42.3m) o dan y cynllun. Mae partner Prifysgol Caerdydd, sef IQE, Newport Wafer Fab a SPTS Technologies - sydd i gyd o fewn tafliad carreg i’r M4 yn ne Cymru - ymhlith y rhai o Gymru sy’n cymryd rhan, yn ogystal ag ICS Cyf. ym Manceinion.

Meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae clwstwr lled-ddargludyddion Cymru a’i gyfraniad at lawer o’r technolegau sydd mor gyffredin yn ein bywydau beunyddiol cyfoes, wir yn destun balchder. Rwyf wrth fy modd bod Cymru yn dal yr awenau ar ran y DU ac yn cydlynu’r prosiect hwn fydd yn sbarduno ymchwil hanfodol a gweithgarwch arloesol ar draws Ewrop.”

https://www.youtube.com/watch?v=y6mhj9Ghydg

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.