Hwyl Calan Gaeaf
17 Hydref 2018
Mae Prifysgol Caerdydd yn agor ei drysau er mwyn dathlu deucanmlwyddiant nofel gothig anfarwol Frankenstein gyda chyfres o ddigwyddiadau bwganllyd cyn Calan Gaeaf.
Mae Frankenfest Caerdyddyn gasgliad o bedwar digwyddiad rhad ac am ddim yn ystod y deg diwrnod cyn Calan Gaeaf 2018, sef 200 o flynyddoedd ers cyhoeddi’r nofel arloesol.
Yn Noson Stormus o Straeon Bwganllyd: Fantasmagoriana and the Villa Diodati, bydd Dr Maximiliaan van Woudenberg (Prifysgol Caergrawnt) yn ystyried y straeon a ysbrydolodd Frankenstein yn rhannol yn haf 1817, pan ddarllenodd y Shelleys a Byron nhw yn y Swistir. Trefnir ar y cyd â Chanolfan Ymchwil Olygyddol a Rhyngdestunol a chynhelir Noson Stormus o Straeon Bwganllyd ddydd Llun 22 Hydref (Casgliadau Arbennig, 5.30-7pm).
Bydd Am Natur Ryfedd sydd i Wybodaeth, yn ystyried agweddau rhyngddisgyblaethol newydd at un o nofelau gothig enwoca’r byd.Bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd Dr James Castell (Saesneg), Barbara Hughes-Moore (y Gyfraith) a’r Athro Keir Waddington (Hanes) yn ystyried y nofel o safbwyntiau y dyniaethau, y gyfraith a llenyddiaeth amgylcheddol, a hanes meddygaeth ddydd Mercher 24 Hydref (Casgliadau Arbennig, 5pm–7pm).
Bydd Noson Mary Shelley, sy’n rhan o dymor BookTalk Caerdydd 2018, yn cynnwys dangosiad o’r ffilm fywgraffyddol ynghyd â thrafodaeth fywiog am sut mae bywydau a chariadon yr awdur yn cael eu portreadu. Bydd Dr Anna Mercer (Prifysgol Caerdydd/Tŷ Keats), sy’n gyfarwydd iawn â llawysgrifau’r teulu Shelley drwy ei gwaith, yn rhannu ei hymatebion i ffilm Haifaa al-Mansoor 2017 yn y digwyddiad arbennig nos Lun 29 Hydref (Optometreg, 6–9pm).
Ar Galan Gaeaf ei hun, bydd dathliadau’n dechrau’n gynnar, gyda sesiwn o ddarllen hoff rannau’r llyfr a FrankenQuiz arbennig yn Fy Nghreadigaeth Arswydus. Caiff y rhai fydd yn cymryd rhan drafod eu hoff ddarnau o’r llyfr cyn cael cwis ynglŷn â Frankenstein. Caiff y tîm buddugol wobrau angenfilaidd. Bydd y digwyddiad hwn ddydd Mercher 31 Hydref (Casgliadau Arbennig, 4–7pm), gan gloi FrankenFest Caerdydd. Cysylltwch â’r trefnwyr i gael gwybodaeth ymlaen llaw am gyflwyno darnau i’w darllen.
Mae’r gyfres yn rhan o fenter Frankenreads, sy’n ddathliad rhyngwladol o ddeuganfed pen-blwydd Frankenstein Mary Shelley ar gyfer Calan Gaeaf 2018. Trefnir gan Gymdeithas Keats-Shelley America gyda chefnogaeth dros 400 o bartneriaid.
Meddai’r Athro Diwylliannau Print a Digidol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Anthony Mandal: “O ddangosiad ffilm fywgraffyddol Mary Shelley 2017 i ddarlleniadau Calan Gaeaf a’n FrankenQuiz arswydus, rydym yn gobeithio y bydd Frankenfest Caerdydd yn cynnig cyfleoedd unigryw a chyffrous i ystyried y nofel gothig fu’n chwarae rôl ffurfiannol yn natblygiad y genre ffuglen wyddonol. Ar ben hynny, byddwn yn dod i ddeall athrylith yr awdur ar ddechrau ei gyrfa’n well. Wrth roi’r rhaglen o ddigwyddiadau at ei gilydd, rydym wedi ceisio cyfuno ymchwil newydd arloesol gydag adloniant ysgafn, gan adlewyrchu poblogrwydd parhaol Frankenstein ymysg ymchwilwyr a ffans fel ei gilydd.”
Mae’r digwyddiad diweddaraf hwn yn dilyn cynhadledd ryngwladol ddiweddar yn Bologna a drefnwyd ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd a’r Brifysgol Agored, lle daeth ysgolheigion astudiaethau gothig a rhamantaidd at ei gilydd. Roedd yr ysgolheigion hyn yn cynnwys pobl ar ddechrau eu gyrfa a rhai sy’n arwain y maes.
Mae cynnal FrankenFest Caerdydd yn bosibl o ganlyniad i gydweithio â Seminar Caerdydd am Ramantiaeth a’r Ddeunawfed Ganrif, Casgliadau Arbennig y Brifysgol a phartneriaid eraill. Argymhellir i chi gadw lle ymlaen llaw