Ewch i’r prif gynnwys

“Angenfilod fyddwn ni”

21 Medi 2018

Dathlu deucanmlwyddiant Frankenstein drwy gynnal digwyddiadau cyhoeddus a chydweithio rhyngwladol

“Mae’n wir, angenfilod fyddwn ni, wedi ein cau allan rhag gweddill y byd; ond o’r herwydd, byddwn ni wedi’n clymu’n dynnach at ein gilydd.” 

200 mlynedd ar ôl cyhoeddi’r nofel gothig bwysig a fu’n ysbrydoliaeth i ffuglen wyddonol heddiw, mae Prifysgol Caerdydd yn nodi pen-blwydd Frankenstein gan Mary Shelley gyda chynhadledd ryngwladol flaenllaw ac ystod o ddigwyddiadau cyhoeddus yn rhad ac am ddim.

Yr hydref hwn mae Anthony Mandal, Athro Diwylliannau Print a Digidol, wedi trefnu’r gynhadledd ryngwladol flaenllaw Mary Shelley’s Frankenstein, 1818–2018: Circuits and Circulation, a wnaed yn bosibl gan European Romanticisms in Association.

Wedi’i drefnu ar y cyd gan yr Ysgol yng Nghaerdydd, y Brifysgol Agored a Phrifysgol Bologna, llwyddodd y gynhadledd ryngddisgyblaethol i ddod ag ysgolheigion blaenllaw ynghyd i rannu ymchwil arloesol ar Frankenstein a’r rhwydweithiau dylanwad ehangach a fu’n gyfrifol am ffurfio themâu ac agweddau’r nofel.

Mae BookTalk Caerdydd yn ymuno â dathliadau Frankenstein eleni. Mae clwb llyfrau unigryw’r Brifysgol yn hyrwyddo’r awdur a’r llyfr arwyddocaol gyda dangosiad Calan Gaeaf rhad ac am ddim o ffilm fywgraffyddol Mary Shelley ar 29 Hydref

(argymhellir i chi gadw lle ymlaen llaw ). I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan Cardiff BookTalk, neu dilynwch ar Facebook neu Twitter.

Mae academyddion a myfyrwyr o’r Ysgol hefyd yn cymryd rhan yn nigwyddiadau Frankenreads yn y brifddinas; rhan o fenter fyd-eang sydd wedi’i threfnu gan Keats-Shelley Association of America.

Yn rhan o’r diddordeb yn Frankenstein yn ystod y flwyddyn hon o ddathlu pen-blwydd, mae rhaglen materion crefyddol BBC Radio 4 Beyond Belief ymysg nifer i gydnabod arwyddocâd gwaith Shelley.

Yn y rhaglen arbennig hon sy’n canolbwyntio ar y nofel, bu’r panel o arbenigwyr, gan gynnwys Dr Jamie Castell, yn tynnu sylw at themâu megis y crëwr a’r cread, trafferthion yr alltud a gwyddoniaeth heb foesau.

Mae rhagflaenydd y ffuglen wyddonol, Frankenstein, yn enwog fel nofel gothig bwysig sy’n deillio o’r symudiad Rhamantaidd. Mae gwaith enwog Mary Shelley yn adrodd hanes dyn sy’n gwthio ffiniau gwyddoniaeth yn rhy bell, y crëwr sy’n arwain at ei gwymp ei hun. Mae’n adrodd stori’r gwyddonydd ifanc, Victor Frankenstein, sy’n creu creadur deallus, y ‘meirw ar dir y byw’ sydd wedi’i greu gan rannau o gyrff dynol ac anifeiliaid, mewn arbrawf anuniongred sy’n mynd o chwith i’r creadur a’r crëwr.

Dyma un o’r nofelau cynharaf mewn ffuglen wyddonol, sy’n adlewyrchu ansicrwydd a thrafodaethau’r Cyfnod Rhamantaidd, gan gynnwys y chwilio am iwtopia a phwysigrwydd canfyddiadau gwyddonol newydd. Techneg newydd o ysgogi’r cyhyrau trwy gerrynt electronig a arweiniodd at greadigaeth y creadur, gan achosi i’r meirw ymddangos yn fyw.

Roedd Mary Wollstonecraft Shelley, nofelydd, dramodydd ac awdur teithio, yn ferch i’r radicaliaid blaenllaw a’r athronwyr William Godwin a Mary Wollstonecraft. A hithau’n fwyaf adnabyddus am Frankenstein: or The Modern Prometheus, fe ysgrifennodd nifer o nofelau eraill, gan gynnwys nofel bellach am bosibiliadau’r dyfodol o dan y teitl The Last Man.

Mae’r Ysgol Saesneg, sydd ag arbenigedd cryf mewn Rhamantiaeth a’r Ddeunawfed ganrif, yn gartref i blatfform arloesol Cyfres o Seminarau Rhamantiaeth Caerdydd a’r Ddeunawfed-Ganrif (CRECS), sy’n ceisio sbarduno ymchwil a thrafodaethau i lenyddiaeth ac astudiaethau diwylliannol rhwng 1680 a 1840 o fewn y sefydliad a thu hwnt.

Rhannu’r stori hon