Cymdeithas Niwrowyddoniaeth Ôl-raddedig Caerdydd
Gyda chymorth Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI), mae Cymdeithas Niwrowyddoniaeth Ôl-raddedig Caerdydd (PCNS) yn cynnal caffis a digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd yn benodol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol sydd â diddordeb mewn niwrowyddoniaeth.
Mae'r caffis niwrowyddoniaeth poblogaidd, sy'n cynnwys pizza, gwin a bwyd bys a bawd, yn caniatáu i niwrowyddonwyr o ystod eang o gefndiroedd, yn ogystal ag ôl-raddedigion o ddisgyblaethau eraill, ddod ynghyd i fwynhau a dadlau am agweddau cyfoes neu ddadleuol o niwrowyddoniaeth.
Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys caffis gwyddoniaeth, dangos ffilmiau a digwyddiadau cymdeithasol, i alluogi niwrowyddonwyr i gwrdd mewn lleoliad anffurfiol a chael hwyl.
Sbotolau ar...
Mae ein cyfres siarad yn canolbwyntio ar astudiaethau achos addysgol ac yn rhoi'r cyfle i'r rhai sy'n bresennol gwrdd a chlywed yn uniongyrchol gan gleifion sy'n dioddef o salwch meddwl a niwrolegol penodol. Mae cleifion yn dod gyda chlinigwr sy'n gallu rhoi cipolwg ar y wyddoniaeth y tu ôl i'r cyflwr.
Caffi Gwyddoniaeth
Mae’r caffis yn cwmpasu ystod eang o bynciau ymchwil niwrowyddoniaeth, gan gynnwys: 'Cof ar waith neu gof ar goll?', 'Deall Awtistiaeth' a 'Gwyddoniaeth yn y Cyfryngau', gyda siaradwyr o gefndiroedd gwahanol yn rhoi cipolwg ar agweddau moesegol, cymdeithasol ac athronyddol niwrowyddoniaeth, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o'r ddisgyblaeth bwysig hon.
Yn dilyn ein caffi gwyddoniaeth ar thema Calan Gaeaf, 'Paranormal Psychology', rydym yn cynllunio ein digwyddiad nesaf yn agored i staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Bydd rhagor o wybodaeth i'w ddilyn.
Ymholiadau
Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ar y gweill, ymholiadau cyffredinol neu ymaelodi am ddim, ebostiwch:
Y tîm Cymdeithas Niwrowyddoniaeth Ôl-raddedig Caerdydd
Ymunwch â PCNS a dysgwch mwy am y gymdeithas