Ewch i’r prif gynnwys

Cof

Memory
Asesiad cof yn digwydd yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS).

Gwneir asesiadau cof gan ddefnyddio dau ddull: Cof gweithio geiriol a chof gweithio gweledol-gofodol.

Cof gweithredol geiriol

Mae cof gweithredol geiriol yn cyfeirio at y gallu i gadw a thrin gwybodaeth lafar am gyfnodau byr.

Pam mae cof gweithredol geiriol yn bwysig?

Mae cof gweithredol yn darparu man gwaith meddyliol sy'n bwysig i lawer o weithgareddau ym mywyd o ddydd i ddydd. Nid yw profiadau blaenorol y plentyn yn dylanwadu'n gryf ar gof gweithredol (e.e. addysg cyn ysgol) ac mae'n ddangosydd o botensial dysgu plentyn.

Sut ydym yn mesur cof gweithredol geiriol?

Rydym yn mesur cof gweithredol gweledol-gofodol gan ddefnyddio'r dasg Galw Digidau i Gof o Chwith o'r Asesiad Cof Gweithredol Awtomataidd (AWMA). Yn y dasg Galw Digidau i Gof o Chwith, mae'r plentyn yn clywed cyfres o ddigidau ac yn ceisio galw i gof bob dilyniant mewn trefn o chwith. Darllenir y rhifau’n uchel i’r plentyn. Er enghraifft, pe bai'r plentyn yn clywed y dilyniant rhif '3, 9, 2', ateb cywir mewn trefn o chwith fyddai '2, 9, 3'. Bydd hyd y dilyniant rhif hwn yn cynyddu trwy gydol y dasg, gan gynyddu'r galw ar gof gweithredol geiriol.

Cof gweithredol gweledol-gofodol

Cyfeirir cof gweithredol gweledol-gofodol at y gallu i storio a thrin delweddau a gwybodaeth am leoliadau am gyfnodau byr o amser.

Pam mae cof gweithredol gweledol-gofodol yn bwysig?

Mae cof gweithredol yn darparu man gwaith meddyliol sy'n bwysig i lawer o weithgareddau ym mywyd o ddydd i ddydd. Nid yw profiadau blaenorol y plentyn yn dylanwadu'n gryf ar gof gweithredol (e.e. addysg cyn ysgol) ac mae'n ddangosydd o botensial dysgu plentyn.

Sut ydym yn mesur cof gweithredol gweledol-gofodol?

Rydym yn mesur cof gweithredol gweledol-gofodol gan ddefnyddio'r dasg Mister Xo'r Asesiad Cof Gweithredol Awtomataidd (AWMA). Yn y dasgMister X, mae'r plentyn yn edrych ar lun o ddau ffigur Mister X. Gofynnir i'r plentyn nodi a yw'r ddau Mister Xyn dal y bêl yn yr ‘un’ llaw neu mewn llaw ‘wahanol’. Wedyn, gofynnir iddo gofio lleoliad y bêl yr oedd yr Mister X gyda'r het las yn ei dal. Mae nifer y parau Mister X yn cynyddu trwy gydol y dasg, gan gynyddu'r galw ar gof gweithredol gweledol-gofodol.