Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth i athrawon

Nod yr NDAU yw asesu plant rhwng pedair a saith oed nad oes ganddynt ddiagnosis sy'n bodoli eisoes, fel anhwylder sbectrwm awtistiaeth, ac sydd â heriau yn un neu fwy o'r meysydd canlynol:

  • sylw
  • ymddygiad
  • emosiwn
  • cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol
  • cof
  • hunanreoleiddio.

Y broses atgyfeirio ac asesu

Er mwyn atgyfeirio plentyn yn eich ysgol i'r NDAU:

  1. Gwahoddwch rieni'r plentyn i edrych ar y wefan hon, neu roi copi o'r daflen wybodaeth i rieni iddynt.
  2. Trafodwch gyda'r teulu a oes ganddynt ddiddordeb mewn cymryd rhan.
  3. Os ydynt, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth a dogfennau atgyfeirio.

Ar ôl i ni dderbyn y dogfennau atgyfeirio, byddwn yn cysylltu â'r teulu er mwyn trefnu'r apwyntiad. Byddwn wedyn yn eich hysbysu o fanylion yr apwyntiad.

Byddwn yn anfon adroddiad atoch o ganlyniadau asesiad y plentyn chwech i wyth wythnos ar ôl dyddiad yr apwyntiad terfynol. Wedyn, dylech gwrdd â rhieni neu ofalwyr y plentyn i archwilio a dehongli canlyniadau’r plentyn yng nghyd-destun ehangach eich gwerthusiadau eich hun o gryfderau a heriau’r plentyn.

Uned Asesu Niwroddatblygu