Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth i rieni

Os hoffech chi atgyfeirio'ch plentyn i'r NDAU, bydd angen i chi drafod hyn gyda’i ysgol yn gyntaf, gan y bydd yr ysgol yn gwneud yr atgyfeiriad atom ni. Mae asesiadau yn NDAU fel arfer yn cymryd dwy sesiwn o rhwng dwy a thair awr, a thelir eich costau teithio (hyd at £25 y sesiwn).

Deall ein hymchwil

Cynhelir yr NDAU gan grŵp o wyddonwyr sydd â diddordeb mewn deall y problemau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol y mae plant ifanc yn eu profi, ac mewn goresgyn yr anawsterau hyn lle bo hynny'n bosibl. I wneud hyn, rydym yn gweithio gyda'ch plentyn i fesur sgiliau gwahanol sy'n bwysig ar gyfer dysgu ac ymddygiad, fel cof tymor byr a deall emosiynau. Bydd y wybodaeth a gasglwn am eich plentyn yn cael ei bwydo yn ôl i'r ysgol, a fydd wedyn yn ei thrafod gyda chi.

Un nod yr astudiaeth hon yw darparu gwybodaeth y gellir ei defnyddio gan weithwyr proffesiynol er mwyn helpu i lywio’r cymorth y gallai plant ei dderbyn. Ail nod yw adeiladu darlun o ganfyddiadau'r ymchwil o'r gwahanol alluoedd ac anawsterau sydd gan blant, a fydd yn helpu i nodi dulliau newydd ar gyfer gwella ymddygiad a dysgu.

Byddwch chi a’ch plentyn yn rhydd i dynnu yn ôl o'r astudiaeth unrhyw bryd, heb roi rheswm. Ni fyddai hyn yn effeithio ar safon y cymorth y mae eich plentyn yn ei dderbyn. Gallwn ddileu'r holl ddata a gasglwyd hyd at yr amser y gwnaethoch dynnu'n ôl ar eich cais.

Cyfrinachedd a diogelwch

Mae’r holl ymchwil sy’n cynnwys plant yn cael ei hadolygu gan grŵp annibynnol o bobl, a elwir yn Bwyllgor Moeseg Ymchwil. Mae'r astudiaeth hon wedi'i hystyried yn ofalus a'i chymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol Seicoleg.

Trinnir yr holl wybodaeth bersonol a gesglir yn ystod yr astudiaeth yn gyfrinachol. Cedwir yr holl wybodaeth yn ddiogel ac ar ffurf anhysbys sy'n atal defnyddwyr anawdurdodedig ac unrhyw un o'r tu allan i'r tîm ymchwil rhag ei chysylltu ag unrhyw wybodaeth sy'n adnabod y plentyn neu'r teulu. Rydym yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018 mewn perthynas â chasglu, cadw, prosesu a datgelu gwybodaeth bersonol, ac rydym wedi ymrwymo i gynnal egwyddorion diogelu data craidd y Ddeddf.

Gwneir recordiad fideo o sesiynau asesu eich plentyn at ddibenion ymchwil, diogelwch a hyfforddiant. Yn benodol, gellir defnyddio'r fideo i ddangos agweddau pwysig ar ddatblygiad plant i ymchwilwyr newydd. Gellir ond adnabod y recordiad fideo hwn gan ddefnyddio rhif adnabod ymchwil, felly ni fydd enw eich plentyn yn gysylltiedig â’r fideo. Bydd y fideo hwn o dan oruchwyliaeth tîm ymchwil yr Athro van Goozen, ac ni chaiff ei drosglwyddo i unigolion anawdurdodedig.

Cewch ragor o wybodaeth ar ein taflen wybodaeth i rieni.

Os oes gennych bryder am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth hon, cysylltwch â Chadeirydd Pwyllgor Rheoli'r NDAU, yr Athro Stephanie van Goozen.

Yr Athro Stephanie van Goozen

Yr Athro Stephanie van Goozen

Professor

Email
vangoozens@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0)29 2087 4630