Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Mae astudiaeth yn dangos sut mae'r cyfnod clo wedi cynyddu problemau o ran iechyd meddwl ar gyfer plant sy'n agored i niwed

Gwnaeth astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd ddarganfod bod y pandemig wedi cynyddu problemau iechyd meddwl ymhlith plant sy'n agored i niwed, gyda straen ariannol ar rieni yn ffactor mawr.

Yn ystod y pandemig, gwnaeth ymchwilwyr gyfweld â 142 o blant rhwng pump a deg oed a nodwyd gan ysgolion fel rhai “mewn perygl” o gael problemau iechyd meddwl, ac yna gwnaethant gymharu hyn â data cyn y pandemig.

Cynyddodd problemau iechyd meddwl, yn enwedig gorbryder, yn “sylweddol”, yn ôl yr astudiaeth.

Dysgodd yr ymchwilwyr bod cysylltiad cryf rhwng straen ariannol a phroblemau iechyd meddwl ymhlith rhieni, a oedd yna'n gysylltiedig â materion iechyd meddwl yn gwaethygu ymhlith y plant.

Daethant i'r casgliad bod angen cymorth ariannol a chymorth iechyd meddwl ychwanegol ar deuluoedd y mae'r cyfnod clo wedi effeithio'n ddifrifol ar eu hamgylchiadau ariannol.

Cyhoeddir y canfyddiadau yn y Journal of Child Psychology and Psychiatry Advances.

Dywedodd y prif awdur, yr Athro Stephanie Van Goozen o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: "Hyd y gwyddom, hon yw'r astudiaeth gyntaf i dynnu sylw at effaith ddifrifol COVID-19 ar blant a theuluoedd sydd eisoes yn agored i niwed.

“Mae ein dadansoddiad yn dangos sut mae'r straen ariannol a achoswyd gan y pandemig yn gysylltiedig â mwy o broblemau iechyd meddwl i blant drwy ei effaith ar iechyd meddwl rhieni, a sut gall fod yn gyfrifol amdano.

"Mae darllen y canfyddiadau'n peri hofid, yn enwedig ar ôl eu gweld yng nghyd-destun ansicrwydd economaidd parhaus. Mae'n hanfodol bod y teuluoedd hyn yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt – yn ariannol ac yn emosiynol."

Gwnaethant gyfweld â'r plant, ynghyd ag un rhiant, drwy sgwrs fideo rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020. Cymharodd yr ymchwilwyr hyn â data a gasglwyd cyn y pandemig fel rhan o astudiaeth barhaus.

Cymerodd y rhieni a'r plant ran mewn cyfweliadau a holiaduron a ddilyswyd i asesu gwahanol agweddau ar iechyd meddwl plant a rhieni ac i ddeall straen ariannol a'u hamgylchiadau byw.

O'r teuluoedd a gymerodd ran, roedd 57% yn byw mewn tlodi neu adroddwyd eu bod wedi colli cyflogaeth, colli incwm, wedi cael trafferth yn talu biliau, mewn perygl o gael eu gorfodi i adael neu wedi colli llety, yn methu â fforddio digon o fwyd, neu wedi gorfod defnyddio benthyciadau brys neu fanciau bwyd yn ystod y cyfnod clo.

Y prif ganfyddiadau oedd:

  • Lefelau cynyddol o broblemau iechyd meddwl ymhlith plant sydd eisoes yn agored i niwed yn ystod y cyfnod clo (69% o gymharu â 61% cyn y pandemig);
  • Nododd 57% o rieni lefelau uchel o orbryder a nododd 44% lefelau uchel o iselder yn ystod y cyfnod clo;
  • Roedd cynnydd mewn symptomau o orbryder a phanig ymhlith plant, yn ogystal â gorbryder yn yr ysgol, ond ni welwyd newidiadau mewn ymddygiad problemus.

Dywedodd yr Athro van Goozen: "Mae llawer o blant a theuluoedd wedi gweld newid mawr yn eu bywydau, mewn addysg, cyflogaeth, gweithgaredd corfforol a chyswllt cymdeithasol. Mae rhieni wedi gorfod cydbwyso ymrwymiadau gwaith – neu golli eu gwaith – â delio â'u plant gartref ac mae hyn heb os wedi achosi straen sylweddol.

“Yn gyffredinol, ni fydd cynlluniau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd i gefnogi plant yn ddigonol ar gyfer y rhai sy’n fwy agored i niwed, sy’n byw mewn tlodi ac sydd â rhieni â phroblemau iechyd meddwl. Bydd angen dull parhaus ac amlweddog ar blant sy'n agored i niwed er mwyn cefnogi eu hadferiad.”

Dywedodd yr Athro Stephan Collishaw, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson Prifysgol Caerdydd, sy'n canolbwyntio ar ymchwil er mwyn helpu i leihau gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc: “Mae’r astudiaeth yn dangos effeithiau anghymesur pandemig COVID-19 ar deuluoedd sydd eisoes yn agored i niwed.

“Mae angen rhoi cymorth i deuluoedd yr effeithir arnynt fwyaf gan COVID-19 ar frys, ac wrth i'r pandemig ddod i ben mae angen i ni ganolbwyntio ar ganlyniadau addysg ac iechyd meddwl tymor hwy plant.”

Ariannwyd yr ymchwil, a gynhaliwyd yng Nghymru, gan Ymchwil ac Arloesedd y DU fel rhan o’i ymateb i COVID-19.

ADHD logo from NCMH

Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer astudio ADHD

13 Hydref 2023

Volunteers needed for ADHD study

Trophy clipart

Enillwyr cystadleuaeth arlunio

27 Medi 2023

Y tymor diwethaf, heriwyd y plant i dynnu llun i gynrychioli eu hoff weithgaredd o’u sesiwn NDAU. Cymerwch olwg ar y ceisiadau buddugol.

An illustration of a speech bubble surrounded by figures of people

Mwy o anawsterau iechyd meddwl mewn plant a theuluoedd sy’n agored i niwed yn ystod y cyfnod clo - podlediad

12 Mai 2021

Gwrandewch ar bodlediad lle rydyn ni'n trafod effaith cyfnodau clo ar iechyd meddwl plant sy'n agored i niwed.

Photograph of child sat on the floor doing an activity with a psychologist

New relationships, new funding, and a new approach towards assessing young children

17 Medi 2020

Read a profile of the Unit and Stephanie van Goozen by our alumni team.