Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau

Mae ystod eang o elusennau, llinellau cymorth a chanolfannau cymorth sy'n gallu darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor am bob agwedd ar rianta a bywyd teuluol.

Elusennau

Elusen

Beth maen nhw’n ei wneud

Barnardo’s Cymru

Rhedeg nifer o brosiectau wedi’u hanelu at gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Gweithredu dros Blant

Amddiffyn a chefnogi plant a phobl ifanc, gan ddarparu gofal a chymorth ymarferol ac emosiynol.

Gingerbread Wales

Yr elusen sy'n cefnogi teuluoedd un rhiant i fyw bywydau diogel, hapus a boddhaus.

NSPCC Cymru

P'un a ydych chi'n gweithio gartref gyda'ch plant neu'n cefnogi plant sydd â gorbryder oherwydd y coronafeirws, mae gan yr NSPCC awgrymiadau a chyngor.

Young Minds

Darparu offer i bobl ifanc i ofalu am eu hiechyd meddwl, grymuso oedolion i fod y cymorth gorau y gallant fod i'r bobl ifanc yn eu bywydau, a rhoi lle a hyder i bobl ifanc gael eu lleisiau wedi'u clywed a newid y byd.

Samariaid Cymru

Gwasanaeth llinell gymorth yw’r Samariaid sydd ar gael 24/7, ac mae'n ymwneud â gweithio gyda phobl i greu lle diogel lle gallant siarad am yr hyn sy'n digwydd a sut maent yn teimlo a lle gellir eu helpu i ddod o hyd i'w ffordd eu hunain ymlaen.

I Can

Elusen sy'n gweithio i blant sydd ag anawsterau iaith a lleferydd.

SNAP Cymru

Gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol am ddim i helpu i gael yr addysg iawn i blant a phobl ifanc sydd â phob math o anghenion addysgol arbennig (AAA) ac anableddau.

Llinellau cymorth

Llinell gymorth

Beth maen nhw’n ei wneud

Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L

Cymorth emosiynol a gwybodaeth / deunydd darllen ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.

Llinell wybodaeth Mind

Yn darparu gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio.

Llinell gymorth Young Minds i rieni

Darparu offer i bobl ifanc i ofalu am eu hiechyd meddwl, grymuso oedolion i fod y cymorth gorau y gallant fod i'r bobl ifanc yn eu bywydau, a rhoi lle a hyder i bobl ifanc gael eu lleisiau wedi'u clywed a newid y byd.

Llinell gymorth SNAP Cymru

Yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau, neu a allai fod â’r rhain.

Cymorth rhianta ac i deuluoedd

Sefydliad cefnogi

Beth maen nhw’n ei wneud

Family Lives

Cymorth rhianta ac i deuluoedd

Triple P – rhaglen rhianta cadarnhaol

Rhaglen rianta yw Triple P, ond nid yw’n dweud wrthych sut i fod yn rhiant. Mae'n debycach i flwch offer o syniadau. Rydych yn dewis y strategaethau sydd eu hangen arnoch. Rydych yn dewis y ffordd yr ydych am eu defnyddio. Mae'n ymwneud â gwneud i Triple P weithio i chi.

Re:minds

Cefnogi teuluoedd y mae eu plant / pobl ifanc ag awtistiaeth, ADHD a/neu faterion iechyd meddwl.

Home-Start Cymru

Mae gwirfoddolwyr Home-Start yn helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc i ddelio â’r hyn y mae bywyd yn ei daflu atynt.

Canolfan Addysg Cyfathrebu Awtistiaeth am Oes (ACE)

Darparu gwasanaeth i unigolion sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD) ac anhwylderau cysylltiedig.

Cymorth Awtistiaeth i Rieni Cwm Rhondda (R.A.P.S)Darparu cymorth, gwybodaeth a gweithgareddau hwyliog lle y gall plant ag ASD fod yn pwy ydyn nhw, gwneud ffrindiau newydd a phrofi gweithgareddau newydd, a lle gall brodyr a chwiorydd gwrdd hefyd.
Cefnogi plant wrth bontio i’r ysgol uwchraddCanllaw byr sy'n rhoi awgrymiadau i rieni a gofalwyr gefnogi eu plentyn wrth baratoi a phontio i'r ysgol uwchradd.
Adnoddau ar gyfer Gofalwyr a rhieni gan Y Prosiect GwydnwchAdnoddau a ddatblygwyd gan y Prosiect Gwydnwch i Ofalwyr a Rhieni am bynciau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a lles. Mae hyn yn cynnwys cyngor a gwybodaeth am gefnogi plant a phobl ifanc, ond hefyd cyngor ar gyfer eu hiechyd meddwl a'u lles eu hunain.

Cymorth i blant a phobl ifanc

Sefydliad cefnofiBeth mae nhw'n ei wneud
EyetoEyeGwasanaeth cwnsela cyfrinachol ac am ddim i blant a phobl ifanc ar draws RCT
Amber projectDarparu cymorth a chefnogarth i bobl ifanc (14-25 oed) sydd â phrofiad o hunan-niwed. Yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.

Fideos, llyfrau, podlediadau a gweithgareddau

Adnodd

Am beth mae'n ymwneud

Nip in the Bud

Mae Nip in the Bud yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl i gynhyrchu ffilmiau byr a thaflenni ffeithiau i helpu rhieni, athrawon ysgolion cynradd, a phobl eraill sy'n gofalu am blant ac yn gweithio gyda nhw i gydnabod cyflyrau iechyd meddwl posibl.

Llyfrau’r Blynyddoedd Rhyfeddol

Deunyddiau sy'n datblygu cydberthnasau cadarnhaol rhwng rhieni, athrawon a phlant ac yn cynorthwyo wrth atal a thrin problemau ymddygiad a hyrwyddo cymhwysedd cymdeithasol, emosiynol ac academaidd.

Words for Life

Yn darparu gweithgareddau a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc i wella eu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu gartref.

BookTrust

Mae eu gwaith yng Nghymru yn helpu plant i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd, ac yn helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi eu plant i ddarllen a dysgu.

TeachStarter - Cof mewn plantMae'r blog hwn yn cynnig gweithgareddau a gemau i ddatblygu cof gweithio mewn plant.

Y Gymdeithas ar gyfer Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (blogiau/podlediadau)

Blogiau a phodlediadau ar amrywiaeth o bynciau. Mae podlediadau’n cynnwys cyfweliadau â rhai o brif chwaraewyr y byd ym maes iechyd meddwl plant a'r glasoed.

Pam mae adnabod ADHD yn gynnar yn allweddol i helpu'ch plentyn

Adroddiad ITV ar bwysigrwydd adnabod ADHD yn gynnar. Mae'n cynnwys cyfweliad fideo gydag efeilliaid a gafodd ddiagnosis o ADHD a stori eu teulu.

Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc - Adnoddau fideo

Fideos gan ymchwilwyr o Ganolfan Wolfson yn rhoi darlithoedd a sgyrsiau byr yn ymwneud â'u hymchwil iechyd meddwl ieuenctid mewn mannau dysgu, cynadleddau a digwyddiadau cyhoeddus.

Cymorth COVID

Adnodd

Beth ydyw

COVIBOOK (Mindheart)

Llyfr byr i gefnogi a thawelu meddwl plant am COVID-19. Mae'n wahoddiad i deuluoedd drafod yr amrywiaeth lawn o emosiynau sy'n codi o'r sefyllfa bresennol.

DO-IT (adnoddau ysgol ar ôl COVID)

Adnoddau ysgol ar ôl COVID-19 ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn siop un stop sy'n darparu gwybodaeth ddiduedd o ansawdd yn rhad ac am ddim ar ystod eang o faterion sy’n ymwneud â gofal plant, plant, cymorth i deuluoedd a theuluoedd, ynghyd â gwasanaeth cyfeirio lle bo hynny'n berthnasol. Bydd gan eich awdurdod lleol Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: