Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Find out what a day at the Neurodevelopment Research Unit (NDAU) looks like

Mae'r Uned Asesu Niwroddatblygiad (NDAU) yn ymchwilio i'r prosesau emosiynol, gwybyddol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â phroblemau datblygiadol mewn plant.

Rydym wedi ein lleoli yn y Ganolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol yn yr Ysgol Seicoleg, ac ariennir ein gwaith gan Sefydliad Waterloo.

Ein nod

Nid yw plant sydd â phroblemau emosiynol neu ymddygiadol yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn gynnar yn eu bywydau. Pan maent o’r diwedd yn cael y gefnogaeth, efallai nad yw wedi’i thargedu’n briodol tuag at eu hanghenion unigol.

Prif nod yr Uned Asesu Niwroddatblygiad yw casglu data asesu eang ar blant ysgol gynradd, rhwng pedair a saith oed, sydd ag amrywiaeth o broblemau datblygiadol. Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall y seiliau gwybyddol ac emosiynol-gymdeithasol sy'n gorgyffwrdd ar gyfer proffiliau gwahanol o blant sydd â phroblemau niwroddatblygiadol.

Caiff canlyniadau’r asesiad eu bwydo’n ôl i ysgol y plentyn er mwyn llywio a gwella ei chefnogaeth barhaus i’r plentyn. Bydd y data a gasglwn, mewn amser, yn llywio ein dealltwriaeth o'r mecanweithiau niwroseicolegol a biolegol sy'n sail i wahanol broblemau niwroddatblygiadol. Mae'r NDAU yn darparu fforwm ar gyfer cysylltu rhwng ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn deall anhwylderau emosiwn, gwybyddiaeth ac ymddygiad mewn plant, a'r grwpiau proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant sydd â’r anawsterau hyn.

Mae gennym ddiddordeb mewn deall yr anawsterau emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol y gallai rhai plant ifanc eu profi. Gall plant rhwng pedair a saith oed gael eu cyfeirio at yr NDAU gan eu hathrawon ysgol, a allai fod eisiau gwybod mwy am unrhyw anawsterau sydd gan blentyn o bosib ar draws ystod o sgiliau a galluoedd sy'n bwysig ar gyfer dysgu ac ymddygiad.

Bydd pob plentyn a'i riant yn ymweld â ni yma yn yr NDAU i gael asesiad a chaiff canlyniadau'r asesiad eu bwydo'n ôl i'r ysgol gyda'r nod o lunio'r cymorth y mae'r ysgol yn ei ddarparu.

Clinical Psychology at Cardiff University

Gwybodaeth i rieni

Os hoffech chi atgyfeirio'ch plentyn i'r NDAU, bydd angen i chi drafod hyn gyda’i ysgol yn gyntaf.

Info for teachers

Gwybodaeth i athrawon

Nod yr NDAU yw asesu plant rhwng pedair a saith oed nad oes ganddynt ddiagnosis sy'n bodoli eisoes, fel anhwylder sbectrwm awtistiaeth.

Visiting for Assessment NDAU

Ymweld â ni i gael asesiad

Bydd plant sy'n ymweld â ni yn cymryd rhan mewn cyfres o gemau, posau a gweithgareddau yn ein hystafell ymchwil a ddyluniwyd yn arbennig.

Cysylltu â ni

Os hoffech wybod mwy neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â ni.

Uned Asesu Niwroddatblygu