Ewch i’r prif gynnwys

Cyfeirio plentyn

Mae'r NDAU yn rhedeg uned ymchwil ar gyfer plant rhwng pedair a saith oed sy'n profi anawsterau mewn agweddau ar emosiwn, gwybyddiaeth ac ymddygiad.

Yn dilyn atgyfeiriad gan ei ysgol, bydd eich plentyn fel arfer yn ymweld â'r uned am un sesiwn asesu yn y bore ac un yn y prynhawn, sy'n para tua dwy i dair awr yr un. Yn ystod y sesiynau, bydd eich plentyn yn cwblhau asesiadau ar draws amrywiaeth o sgiliau craidd, megis sylw, cof, iaith a chydnabod emosiynau.

Un nod yr astudiaeth hon yw darparu gwybodaeth y gellir ei defnyddio gan weithwyr proffesiynol er mwyn helpu i lywio'r cymorth y gallai eich plentyn ei dderbyn. Ail nod yw adeiladu darlun o ganfyddiadau'r ymchwil o'r gwahanol alluoedd ac anawsterau sydd gan blant, a fydd yn helpu i nodi dulliau newydd ar gyfer gwella ymddygiad a dysgu.

Defnyddir y wybodaeth a gesglir i wneud y canlynol:

  • creu adroddiad cryno ar gyfer ysgol eich plentyn
  • llywio ymyriadau neu ofynion asesu yn y dyfodol ar gyfer y disgybl
  • datblygu ein dealltwriaeth o achosion anawsterau datblygu penodol yn ystod plentyndod
  • arwain y gwaith o ddatblygu ymyriadau newydd i helpu i oresgyn y problemau hyn.

Mae cymeradwyaeth foesegol yr astudiaeth ond yn caniatáu inni anfon adroddiad i ysgol eich plentyn fel yr atgyfeiriwr dros dro. Gall y cyfrif technegol hwn o'r canlyniadau fod yn ddefnyddiol wrth helpu'ch plentyn yn amgylchedd yr ysgol. Rydym yn argymell i'r atgyfeiriwr ei fod yn cwrdd â chi i drafod canlyniadau'r adroddiad hwn.

Bydd yr adroddiad y mae ysgol eich plentyn yn ei dderbyn yn cynnwys trosolwg o ganlyniadau asesiad eich plentyn. Byddwn yn cysylltu â chi i’ch hysbysu pan fyddwn wedi anfon yr adroddiad, er mwyn ichi allu trefnu cyfarfod gydag ysgol eich plentyn i drafod yr adroddiad a sut y gallai ei ddefnyddio i arwain ei chymorth i'ch plentyn.

Dadansoddir canlyniadau gwyddonol yr astudiaeth a'u hastudio gan y tîm ymchwil, ac aelodau o'r tîm ymchwil yn unig fydd â mynediad at y data. Adroddir ar y canlyniadau hyn mewn papurau gwyddonol a'u cyhoeddi mewn cyfnodolion, a gellir eu cyflwyno mewn cynadleddau. Ni fydd modd eich adnabod chi a'ch plentyn yn bersonol yn ein disgrifiad o'n canfyddiadau.

Rhagor o wybodaeth

Uned Asesu Niwroddatblygu