Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau: Dr Ian Humphreys

Dr Ian Humphreys working with children from St Brides Major Primary School in Bridgend.
Dr Ian Humphreys working with children from St Brides Major Primary School in Bridgend.

Mae labordy Ian yn defnyddio modelau in vivo o heintiau firysol ynghyd â samplau clinigol i’n helpu i ddeall y dulliau sy’n rheoleiddio imiwnedd gwrthfirysol.

Yr Ymchwil

Dulliau imiwnedd sy’n hwyluso parhad firws

Mae agwedd bwysig ar waith ymchwil Ian yn y labordy hyd yma wedi ymchwilio i’r dulliau imiwnedd sy’n gadael i firysau barhau o fewn meinweoedd mwcosaidd a nodi sut maen nhw’n atal ymatebolrwydd imiwnedd gwrthfirysol.

Rheoleiddio pathogenesis firysol

At hynny, mae gwaith ymchwil Ian yn astudio’r modd y bydd ymatebion cynnar seitocinau’n dylanwadu ar ymatebion imiwnedd gwrthfirysol.

Yr Ymgysylltu

Y cynulleidfaoedd allweddol

Plant ysgolion cynradd ac uwchradd; y cyhoedd; elusennau sy’n ymwneud ag ymchwil i CMV megis CMV Action.

Y mathau o ymgysylltu

Ysbrydoli, hysbysu ac addysgu eraill, meithrin y gallu i ddewis yn ddoeth a/neu ddylanwadu ar eraill.

Mae gan Ian dros 16 mlynedd o brofiad o ymgysylltu â’r cyhoedd ynglŷn ag ymchwil. Mae cynghorau ymchwil megis Cyngor yr Ymchwil Feddygol ac Ymddiriedolaeth Wellcome wedi rhoi grantiau mawr a bychain iddo ar gyfer ei waith. Plant ysgolion uwchradd a chynradd yw prif gynulleidfa Ian. Mae Ian yn cynnal cyfres o weithgareddau yn yr ysgolion cynradd megis dadansoddi celloedd imiwnedd trwy chwyddwydr, amryw arbrofion a defnyddio Lego i addysgu pobl o bob oedran am syniadau imiwnolegol cymhleth mewn modd syml.

Mae Ian yn cydlynu adran imiwnoleg achlysur tra llwyddiannus ‘Sciences in Health’ gan hyrwyddo ymchwil fiofeddygol ymhlith dros 900 o ddisgyblion blwyddyn 12. Bydd y disgyblion sy’n cymryd rhan ynddo yn cael blas ar waith labordy gan ddysgu am ddefnyddio sustem ein himiwnedd i drin clefydau a’r amryw ddulliau technolegol arloesol sydd ar waith yno.

"Mae’r labordy’n cynnal ymchwil sylfaenol. Wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, cewch chi gyfle i gyflwyno’ch ymchwil ar ffurf y gall pawb ei deall fel y bydd pobl yn sylweddoli’n hawdd pam mae’n bwysig."

Dr Ian Humphreys

Yr ymwneud

Y cynulleidfaoedd allweddol

Pobl nad ydyn nhw’n ymwneud â gwyddoniaeth (Cynnwys Aelodau Rhwydwaith y Bobl).

Y mathau o ymwneud

Hel ymhlith y cynulleidfaoedd hynny sylwadau, medrau, gwybodaeth a phrofiad y bydd modd eu defnyddio i lunio ymchwil a chryfhau ei heffaith.

Mae Ian yn ymgysylltu’n rheolaidd â Chyfadran Leyg Sefydliad yr Ymchwil i Sustemau Imiwnedd ac iddi aelodau o sawl cefndir (ac eithrio gwyddoniaeth) megis rhai sydd wedi dod trwy gancr ac athronwyr, hyd yn oed.

Y Cymhelliant

Ysgogir Ian gan ymchwil a fydd yn diwallu anghenion cleifion ac yn gwella iechyd y gymdeithas. Mae’n hanfodol ymgysylltu â nifer o fudd-ddalwyr allweddol i ariannu ymchwil newydd a gofalu bod yr ymchwil bresennol o les i gleifion.

Mae Ian yn cydnabod ei bod yn fwyfwy pwysig i’r brifysgol a chyrff noddi y dylai ymchwilwyr ddangos sut y byddan nhw’n cyrraedd cynulleidfaoedd nad ydyn nhw’n academaidd ac yn profi effaith yr ymchwil.

“Mwynhewch yr ymgysylltu - mae brwdfrydedd mor heintus â’r firysau rydyn ni’n eu hastudio.”

Dr Ian Humphreys

Y Datblygu Proffesiynol

Yn ein labordy, mae Ian yn teimlo ein bod ni’n dysgu llawer iawn trwy ymgysylltu â’r cyhoedd ac mae hynny’n ein helpu i bennu trywydd ein hymchwil.

Yn ôl Ian, “Un o brif fanteision ymgysylltu â’r cyhoedd yw bod modd cryfhau effaith ein hymchwil i’r eithaf trwy gyfleu natur ein gwaith yn y cyfryngau ac yn bersonol. Gallwn ni helpu pobl i ddeall pa ymchwil rydyn ni’n ei chynnal a pham."

Y Dysgu

Mae Ian yn credu bod ymgysylltu â’r cyhoedd yn gwneud ichi gwestiynu eich syniadau a’ch strategaethau o ran y rhaglen ymchwil sy’n mynd yn ei blaen ac sydd i’w datblygu.

“Mae’r labordy’n cynnal ymchwil sylfaenol. Wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, cewch chi gyfle i gyflwyno’ch ymchwil ar ffurf y gall pawb ei deall fel y bydd pobl yn sylweddoli’n hawdd pam mae’n bwysig. O safbwynt ymchwilydd sylfaenol, bydd hynny’n gofalu na fyddwch chi byth yn colli golwg ar y ‘darlun mawr’ a sut y gall eich ymchwil esblygu mor effeithlon ag y bo modd er lles pobl.”

Dyma fersiwn fyrrach o'r astudiaeth achos lawn.

Darllenwch yr astudiaeth achos lawn

Dr Ian Humphreys - public engagement case study

View Dr Ian Humphrey's public engagement case study.

Cysylltwch ag Ian am ei brofiadau

Yr Athro Ian Humphreys

Yr Athro Ian Humphreys

Athro Pathogenesis Feirysol a Chyd-gyfarwyddwr Arweiniol y Sefydliad Ymchwil ar Imiwnedd Systemau

Email
humphreysir@caerdydd.ac.uk
Telephone
02920 687012