Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein haddysgu a'n hymchwil.

Ar hyn o bryd mae gennym gwobr efydd Athena SWAN sy'n cydnabod ein hymrwymiad i hybu gyrfaoedd menywod ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM).

Mae pob aelod o’n staff addysgu yn cael hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth ddechrau eu rôl, ond mae cyrsiau pwrpasol yn cael eu trefnu gydag Adnoddau Dynol ar gyfer aelodau staff penodol ee tiwtoriaid derbyn myfyrwyr ac uwch-staff. Ein nod yw sicrhau bod yr holl staff addysgu'n ymwybodol o faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn eu deall yn llawn.

Rydym yn mynd ati i ofyn am farn myfyrwyr drwy baneli myfyrwyr a staff, ac rydym yn cynnal arolygon dienw i nodi meysydd i'w gwella, gan gynnwys materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella profiad myfyrwyr ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi'n llawn drwy eu hastudiaethau. Defnyddir y safbwyntiau a geir i baratoi camau i fynd i'r afael â meysydd i'w gwella.

Mae cyfres o ar gael i'r rhai sydd angen hyblygrwydd yn eu dull astudio. Gellir gwneud y cyrsiau hyn yn rhan-amser a byddant yn cynnwys elfen dysgu o bell.

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o'r prifysgolion gorau am gefnogi myfyrwyr a staff LHDT+, ac rydym yr unig brifysgol yng Nghymru sydd ar restr 100 cyflogwr gorau Stonewall 2015.