Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd
Nod y rhaglen hon yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o dalent.
Mae'n cynnwys pedwar prif faes:
- darlithoedd cyhoeddus;
- Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd - yn Fyw!
- Profiad gwaith yn y labordy
- Life Sciences Challenge (Her y Gwyddorau Bywyd)
Darlithoedd cyhoeddus
Mae’r Gyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n denu cynulleidfa amrywiol gan gynnwys y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw ceisio trin a thrafod meysydd sy’n peri pryder mewn gofal iechyd a chyhoeddi ymchwil newydd am faterion iechyd i'r cyhoedd.
Cynhelir y darlithoedd rhwng mis Hydref a mis Ebrill ar ffurf gweminarau Zoom ar-lein rhad ac am ddim. Mae croeso i bawb – gan gynnwys disgyblion ysgol uwchradd sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal iechyd.
Rydym wedi penderfynu cyflwyno ein Cyfres Darlithoedd Cyhoeddus fel digwyddiadau ar-lein rhithwir. Defnyddiwch y dolenni isod i gofrestru ar gyfer gweminarau Zoom a byddwch yn cael manylion am sut i ymuno â ni.
Cyfres o Darlithoedd Cyhoeddus 2024/2025
Dyddiad ac amser | Teitl | Siaradwr |
---|---|---|
Dydd Iau 17 Hydref 2024 19:00 | Beth allwn ni ei ddysgu o glefydau prin? | Dr Elaine Dunlop, Prifysgol Caerdydd (ar y cyd â Pharc Geneteg Cymru) |
Dydd Iau 14 Tachwedd 2024 19:00 | Brechlynnau yn erbyn y pâs: canrif o wyddoniaeth dda a drwg | Dr David Miles, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain |
Dydd Iau Ionawr 16 2025 19:00 | Meddygaeth ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio: lle mae celf a gwyddoniaeth yn cwrdd â’i gilydd | Dr Lucy Pollock, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gwlad yr Haf |
Dydd Iau 6 Chwefror 2025 19:00 | Mathau o Amnesia: Rhai go iawn ac wedi'i efelychu | Yr Athro John Aggleton, Prifysgol Caerdydd |
Dydd Iau 20 Mawrth 2025 19:00 | Cyd-ddatblygu cymorth iechyd meddwl digidol gyda phobl ifanc | Dr Rhys Bevan-Jones, Prifysgol Caerdydd |
Dydd Iau 10 Ebrill 2025 19:00 | Defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn meddygaeth, a’r goblygiadau o wneud hynny | Dr Athanasios Hassoulas a'r Athro Marcus Coffey, Prifysgol Caerdydd |
Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd - yn Fyw!
Mae ‘Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd – yn Fyw!’ wedi bod yn croesawu disgyblion i Ysgol Meddygaeth Caerdydd ers dros 25 mlynedd. Cynhelir y digwyddiad yn ysbyty addysgu mwyaf Cymru yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Mae ar gyfer myfyrwyr ym Mlwyddyn 12 sy’n astudio gwyddoniaeth a mathemateg Safon Uwch ac mae’n rhoi cyfle iddynt ddysgu rhagor am y darganfyddiadau gwyddonol diweddaraf a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n digwydd ym maes gofal iechyd.
Dyddiadau 2025
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Gwyddoniaeth mewn Iechyd yn Fyw 2025 yn cael ei gynnal ar 12 Mawrth 2025. Bydd cofrestru yn agor ym mis Hydref 2024.
Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw: Pen-blwydd yn 25 oed
Fideo o Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd - YN FYW 2019.
Profiad gwaith yn y labordy
Rhaglen o gynlluniau yw hon i ysbrydoli myfyrwyr blwyddyn 12 sydd â diddordeb mewn gwneud gradd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth neu feddygaeth. Mae’r rhaglen wedi’i chydlynu ac yn parhau i esblygu.
Bydd y myfyrwyr yn cael cyflwyniad cyffredinol i'r wythnos, gan gynnwys amlinelliad o natur y gwaith a wneir yn y labordai ymchwil.
Yn ystod gweddill yr wythnos, bydd myfyrwyr yn cael ystod o brofiadau yn gweithio mewn timau gyda nifer o ymchwilwyr gwahanol a'u grwpiau ymchwil.
Rhoddir cyfleoedd i'r myfyrwyr brofi technolegau arloesol, fel bioleg foleciwlaidd, cytometreg llif, dilyniannau DNA, micro-bigiad wy, firoleg, sbectromedreg màs, grisialograffaeth pelydr-x, ffarmacoleg ac imiwnoleg celloedd, gyda grwpiau ymchwil ar draws yr Ysgol.
Yn hollbwysig, caiff myfyrwyr y cyfle i gwrdd â myfyrwyr PhD a chymrodorion ôl-ddoethurol, a bydd llawer ohonynt ar ddechrau eu gyrfaoedd. Ar y prynhawn olaf, bydd y myfyrwyr yn dod at ei gilydd i ddisgrifio'r hyn maent wedi'i ddysgu yn ystod yr wythnos, a rhoddir gwybodaeth hefyd am broses ymgeisio UCAS.
Ffurflen gais
Life Sciences Challenge (Her y Gwyddorau Bywyd)
Cystadleuaeth rhwng ysgolion ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 sy’n cynnwys cwis. Fe’i dylunnir a’i chyflwyno gan fyfyrwyr doethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd (Ymchwilwyr Ôl-Ddoethurol a Chymrodorion Iau).
Mae'r rhain yn unigolion sy’n frwdfrydig ynghylch gwyddoniaeth, ac sydd wedi dewis ymrwymo eu bywydau i ymchwil wyddonol. Maent am rannu'r brwdfrydedd hwn ynghylch ceisio deall y byd naturiol â disgyblion yng Nghymru.
Drwy roi cyfle i ddisgyblion gwrdd â gwyddonwyr ifanc sy'n gweithio'n lleol, rydym yn gobeithio eu hysbrydoli i ystyried y posibilrwydd o ddilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth.
Bydd rhai o'r cwestiynau'n dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol, ond efallai y bydd rhai eraill yn gofyn am wybodaeth a geir drwy ddarllen/ymchwilio ymhellach.
Yn bwysicach byth, bydd rhai cwestiynau'n profi gallu disgyblion i ddadansoddi data a chymhwyso rhesymeg a gwybodaeth i ddelio â chysyniadau anghyfarwydd. Bydd y cwestiynau'n ymwneud yn bennaf â Bioleg a Chemeg, ond gallant gynnwys agweddau ar Ffiseg a Daeareg pan fo hyn yn ymwneud â deall y byd naturiol.
Sut i gystadlu
I gystadlu fel tîm (neu sawl tîm) yn y rownd ar-lein rhagarweiniol, ebostiwch medicengagement@caerdydd.ac.uk. Diwedd mis Ionawr 2023 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r gweithgareddau hyn cysylltwch â: