Ewch i’r prif gynnwys

Llysgenhadon MEDIC

Fitzalan Dec Testicular Cancer workshop
O’r chwith i’r dde: Llysgenhadon Meddygaeth Jomcy John, Lawrence Pugh a Jack Wellington yn cyflwyno gweithdy ar ganser y ceilliau i ddisgyblion blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Fitzalan.

Ers 2017, rydym wedi bod yn cynnal cynllun Llysgenhadon MEDIC ar gyfer ein myfyrwyr a'n cynfyfyrwyr meddygol sydd eisiau ymgysylltu â phlant ysgol.

Bellach mae gennym garfan o dros 150 o lysgenhadon, sy'n cynnwys myfyrwyr o bob blwyddyn, sy'n rhannu brwdfrydedd dros feddygaeth ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feddygon a gweithwyr gofal iechyd.

Mae ein tîm ymgysylltu yn meithrin cysylltiadau ag ysgolion a cholegau ledled Cymru er mwyn trefnu sawl cyfle i lysgenhadon MEDIC ymgysylltu â nhw.

Mae sawl ysgol uwchradd a chynradd yng Nghymru eisoes wedi cael ymweliad gan Lysgenhadon. These include:

  • y corff dynol
  • gwaed, perfeddion a gôr
  • y galon a'r system gylchredol
  • yr ymennydd
  • canser y ceilliau/archwilio eich corff i fechgyn a merched
  • ffeiriau a chyflwyniadau gyrfaoedd
  • bywyd fel myfyriwr meddygol/meddyg.

Beth yw'r manteision i ysgolion ac athrawon?

  • cymorth ynghylch cyflwyno'r cwricwlwm
  • dysgu gwell wedi'i ategu gan enghreifftiau o 'ysgol profiad'
  • ysbrydoli athrawon a disgyblion – codi dyheadau gyrfaol
  • partneriaeth hirdymor ag Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Gofyn am ymweliad gan lysgennad

Rydym bob amser wrth ein bodd yn clywed gan ysgolion o bob rhan o Gymru, felly os hoffech chi ymweliad gan ein Llysgenhadon, cwblhewch y ffurflen gais.

Ffurflen gais ar-lein

Rydyn ni'n hapus i roi unrhyw weithdy neu gyflwyniad pwrpasol, ac fe wnawn ni ein gorau i fodloni eich cais lle bynnag y bo'n bosibl.

Rhagor o wybodaeth

Os oes diddordeb gennych mewn ymgysylltu â ni, neu os hoffech gael gwybod rhagor am ein gweithgareddau ymgysylltu, cysylltwch â:

Ymgysylltu Meddygaeth