Ewch i’r prif gynnwys

Ysbyty rhyngweithiol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o feddygon

3 Awst 2023

Grŵp o fyfyrwyr ysgol haf
Grŵp o fyfyrwyr ysgol haf Seren

Cafod 53 o ddysgwyr blwyddyn 12 o bob cwr o Gymru’r cyfle i gael profiad uniongyrchol o yrfa feddygol yn “Ysbyty Gobaith”.

Cawsant brofiad o sut fath o beth yw bod yn fyfyriwr meddygol yng Nghaerdydd gan gymryd rhan mewn gweithdai Dysgu ar Sail Achosion a Sgiliau Cyfathrebu yn seiliedig ar gynnwys addysg gynnar myfyrwyr meddygol.

Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi sefydlu partneriaeth gyda rhaglen Seren Llywodraeth Cymru gan greu Ysgol Haf breswyl deuddydd o hyd sydd yn rhad ac am ddim ar gyfer dysgwyr o Gymru sy’n ystyried astudio meddygaeth.

Uchafbwynt yr Ysgol Haf oedd Ysbyty Gobaith, ble bu actorion yn cyflwyno ‘symtomau’ amrywiol er mwyn galluogi’r dysgwyr i asesu a thrin eu ‘claf’. Cawsant gefnogaeth gan fyfyrwyr meddygol presennol a staff Sgiliau Clinigol, a oedd yn rhoi arweiniad ar sut i gymryd hanes claf a pha brosesau meddygol allai fod angen arnynt.

Menter gan Lywodraeth Cymru yw Seren i helpu myfyrwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn a chael mynediad i brifysgolion blaenllaw yng Nghymru, y DU a thramor. Mae tua 22,000 o ddysgwyr rhwng blynyddoedd 8 i 13 yn cymryd rhan yn rhaglen Seren ar hyn o bryd. Yn 2022, aeth hanner y dysgwyr ymlaen i astudio pwnc STEM, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg mewn prifysgol.

Dywedodd Dr Naomi Stanton, Meddyg Teulu ac Uwch Ddarlithydd Clinigol a Chyfarwyddwr Derbyn ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Roeddem wrth ein boddau i gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect hwn. Mae’r pandemig wedi golygu bod dysgwyr wedi treulio sawl blwyddyn yn dysgu o bell, felly mae’r math hwn o ddysgu trochol mor werthfawr. Roedd yr “ysbyty” yn galluogi’r dysgwyr blwyddyn 12 i ddysgu’n ymarferol, gan wella eu sgiliau cyfathrebu a’u hyder, sy’n rhannau annatod o hyfforddiant meddygol a mwy.

Roedd siarad gyda myfyrwyr meddygol a phrofi bywyd myfyriwr hefyd yn rhoi cipolwg iddynt ar fywyd prifysgol a gyrfa mewn iechyd. Mae annog a chefnogi nod pobl ifanc i gael gyrfa mewn gofal iechyd yn hollbwysig ar gyfer gweithlu gofal iechyd Cymru yn y dyfodol a’n bod

yn cynnig pob cyfle y gallwn i sicrhau eu llwyddiant.” Dywedodd Dr Jamie Read, Deon Addysg Feddygol:

“Roedd yr ysgol haf hon yn cynnig cyfle arbennig i gynyddu’r nifer o ddysgwyr o Gymru sy’n mynd ymlaen i astudio meddygaeth. Mewn cyfnod ble mae arnom angen mwy o ddoctoriaid nag erioed, gobeithiwn bod y profiadau y mae’r myfyrwyr hyn yn eu cael yn eu hannog i hyfforddi a gweithio fel doctoriaid yng Nghymru”

Ychwanegodd Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg:

“Mae Seren yn gynllun gwych sydd wedi cael llwyddiant arbennig wrth helpu ein pobl ifanc mwyaf medrus i gael lle yn rhai o brifysgolion gorau’r byd, beth bynnag fo’u cefndiroedd.”

“Dyma enghraifft dda o sut all ein rhaglen Seren gydweithio gyda phrifysgolion blaenllaw Cymru i gynnig profiad rhad ac am ddim i helpu magu’r genhedlaeth nesaf o feddygon.”

Rhannu’r stori hon