Ewch i’r prif gynnwys

Llythyr agored gan yr Is-Ganghellor a’r Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr - 02/10/20

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Annwyl rieni a gofalwyr,

Rydym yn gwerthfawrogi bod anfon eich plentyn i'r Brifysgol yn garreg filltir bwysig ym mywydau plant a rhieni fel ei gilydd. Rydym yn sylweddoli bod gwneud hynny, cyn y flwyddyn academaidd hon, wedi dod â phryderon a cymhlethdodau ychwanegol i lawer ohonoch. Felly, rydym yn ysgrifennu atoch heddiw i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd gyda ni ers i fyfyrwyr ddechrau cyrraedd Caerdydd, ac egluro'r mesurau diogelwch yr ydym wedi bod yn gweithio arnynt dros yr haf i'w rhoi ar waith cyn i’r myfyrwyr ddychwelyd.

Canllawiau Llywodraeth Cymru a chyfyngiadau lleol

Fel y bydd llawer ohonoch eisoes yn ei wybod, ddydd Sul 27 Medi ymunodd Caerdydd ag ardaloedd eraill o dde Cymru drwy gael eu rhoi o dan gyfyngiadau ychwanegol oherwydd y coronafeirws. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau pellach ar gyfer y sector Addysg Uwch yn benodol, ac roedd rhan helaeth o’r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar yr elfen fwy cymdeithasol o fod yn fyfyriwr. Wrth wneud y cyhoeddiad, eglurodd Llywodraeth Cymru fod teithio at ddibenion addysgol (neu waith) yn rheswm dilys (neu'n 'esgus rhesymol') dros ddod i mewn ac allan o Gaerdydd neu ardaloedd eraill lle mae’r cyfyngiadau ar waith.

Mesurau diogelwch

Fe wnaethom ymateb yn gyflym i'r cyhoeddiad hwn, gan ddiweddaru  ein myfyrwyr ynghylch y goblygiadau. Fe wnaethom hefyd eu hatgoffa am y mesurau diogelwch oedd eisoes ar waith gennym yn ogystal â'r gefnogaeth sydd ar gael ar eu cyfer lle bo angen.

Mae'r cyfyngiadau sydd bellach ar waith yng Nghaerdydd wedi'u cynllunio i ddiogelu iechyd pobl ac atal y feirws rhag lledaenu. Fel rhan o'r gymuned leol, rydym yn cydnabod y rôl y mae'n rhaid i ni ei chwarae wrth gefnogi'r mesurau newydd.

Fodd bynnag, mae ein Prifysgol ar agor o hyd – ac mae'r cyfyngiadau'n caniatáu i sawl rhan bwysig o fywyd myfyrwyr barhau, gan gymryd y cedwir at y canllawiau yr ydym ni, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’u cyflwyno.

Mae cyfleusterau gan gynnwys ein llyfrgelloedd, safleoedd arlwyo a chyfleusterau chwaraeon ar gael a gall myfyrwyr eu defnyddio. Maent wedi’u trefnu yn y fath fodd fel eu bod yn caniatáu ar gyfer cadw pellter cymdeithasol a'r mesurau eraill sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws yr ydym yn gyfarwydd â nhw erbyn hyn.

Cyn i'n myfyrwyr gyrraedd, fe wnaethom roi ystod o fesurau diogelwch ar waith i gefnogi trefniadau addysgu ar y campws ochr y ochr â chadw ein myfyrwyr, ein staff a'r gymuned ehangach yn ddiogel. Roeddem yn cytuno â’r Gweinidog Addysg ddydd Mercher pan ddywedodd unwaith eto bod dysgu mewn ffordd gyfunol yn bwysig os ydym am roi profiad mor normal â phosibl i fyfyrwyr yn y brifysgol.

Rydym wedi trefnu i grwpiau bach gael eu haddysgu wyneb yn wyneb, ac mae mwy o lanhau a diheintio dwylo yn caniatáu i'n staff addysgu a'n myfyrwyr dynnu eu gorchuddion wyneb os ydynt yn siarad.

Mae ein mannau addysgu:

Rydym yn cydnabod bod llawer o'n myfyrwyr yn ymddwyn mewn ffordd eithriadol o gyfrifol. Maent yn mynd ati o ddifrif i gadw at y mesurau ac rydym yn eu cymeradwyo am hynny. Caiff hyn ei grynhoi ar-lein yma ac yn y fideo hwn – mae'r mesurau'n cynnwys:

  • Gofyn i fyfyrwyr a staff sy'n dod ar y campws ymrwymo i ymrwymiad cymunedol newydd gan y Brifysgol gyfan
  • Gofyn i fyfyrwyr gymryd rhan yn ein gwasanaeth sgrinio (profi) mewnol ein hunain (COVID-19) ar gyfer myfyrwyr a staff asymptomatig ar y campws . Mae’n gwbl weithredol a bydd yn prosesu dros 4,000 o brofion yr wythnos cyn bo hir
  • Ei gwneud yn ofynnol i bawb yn adeiladau'r Brifysgol wisgo gorchudd wyneb (gydag eithriadau cyfyngedig)
  • Cynnal asesiad risg penodol ar gyfer COVID-19 yn ein hadeiladau, gan ategu ein Hasesiad Risg Sefydliadol cyffredinol
  • Monitro’r systemau a’r gosodiadau awyru yn ein holl adeiladau er mwyn sicrhau eu bod yn ailgylchu aer ffres yn unig (yn hytrach nag aer wedi'i ailgylchu)
  • Cyflwyno lefel uwch o wasanaeth porthora yn ystod y dydd sy'n cynnwys glanhau mannau cyffwrdd, toiledau/cyfleusterau tai bach yn rheolaidd, ac ailgyflenwi golchwyr/diheintyddion dwylo.

Gweithio ar y cyd

Nid yw'r mesurau diogelwch yn dod i ben pan fydd ein myfyrwyr yn gadael ein campws. Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi gwneud ymdrech sylweddol i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn gallu mynd ati i fyw ein bywydau mewn ffordd ddiogel. Maent wedi lansio cynllun cam wrth gam i ailagor Caerdydd yn raddol fel un o'r dinasoedd mwyaf diogel yn y DU. Mae llawer o siopau a bwytai ar agor o hyd ond gallai rhai ohonynt gau ychydig yn gynharach nag arfer.

Rydym yn cydweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Gwasanaeth Olrhain, Canfod a Diogelu (TTP) i wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn gallu defnyddio cyfleusterau Profi’r GIG. Rydym hefyd yn disgwyl i Safle Profi Lleol y GIG gael ei sefydlu ar ein campws yn ystod yr wythnos nesaf ar gyfer ein staff, myfyrwyr a’r gymuned leol. Gyda'r partneriaid hyn, mae’r data epidemioleg diweddaraf (nifer, lleoliad a chysylltiadau rhwng achosion) ar gael ar ein cyfer, gan olygu ein bod yn gallu cymryd camau prydlon os bydd achosion yn codi ymhlith ein staff neu ein myfyrwyr. Bydd ein gwasanaeth sgrinio yn rhoi system amhrisiadwy o rybuddio’n gynnar fydd yn hunan-ynysu achosion posibl cyn cael prawf gan y GIG i gadarnhau’r naill ffordd neu’r llall.

Gofynnir i fyfyrwyr a staff ein hysbysu os ydynt yn hunan-ynysu am fod o fewn cysylltiad agos â rhywun sydd â symptomau neu wedi cael prawf positif yn ein gwasanaeth sgrinio neu mewn Prawf GIG.

Mae gan y Brifysgol ystod o fesurau cymorth ar waith i gefnogi aelwydydd myfyrwyr sy’n gorfod hunan-ynysu. Bydd y Gwasanaeth TTP yn cadw mewn cysylltiad yn ddyddiol â’r rhai sy’n hunan-ynysu drwy negeseuon testun a dros y ffôn i wneud yn siŵr eu bod yn cadw’n iawn. Bydd ein Hysgolion Academaidd mewn cysylltiad hefyd i wneud yn siŵr bod modd parhau i astudio o bell neu a oes angen dod i gysylltiad wyneb yn wyneb mewn ffyrdd eraill.

Bydd ein Gwasanaeth Cefnogi a Lles Myfyrwyr yn cysylltu â'r rhai sy'n hunan-ynysu neu'n profi'n bositif, ac rydym yn cynnig ystod lawn o wasanaethau cefnogi o bell. Ar ben hynny, bydd cefnogaeth gan gymheiriaid ar gael gan ein Tîm Bywyd Preswyl a Mentoriaid Cymheiriaid Academaidd. Os oes gan fyfyriwr unrhyw bryderon, dylech ei annog i fanteisio ar y gefnogaeth hon, yn ogystal â chysylltu â'u Tiwtor Personol, aelod o dîm eu rhaglen neu Swyddfa'r Ysgol.

Mae Caerdydd yn ddinas brysur a bywiog, felly mae’n gallu cynnig ystod eang o opsiynau cludo bwyd i fyfyrwyr. Caiff hyn ei ategu gan wasanaeth cludo’r Brifysgol.

Yn olaf, rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o fanylion yn y llythyr hwn, ond roedd y ddau ohonom yn awyddus i'r neges hon roi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi, a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gennych.  Gyda lwc, bydd yn eich sicrhau ein bod wedi rhoi mecanweithiau ac addasiadau ar waith i gynnal campws diogel a chaniatáu i'n myfyrwyr barhau i ymgymryd â’u hastudiaethau.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan               Claire Morgan

Is-Ganghellor               Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr