Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Anturiaethau Mathemateg

Mae'n bleser gennym eich gwahodd i Ddiwrnod Mathamateg Ddiwydiannol yn adeilad Sbarc/Spark, calon campws arloesi Prifysgol Caerdydd.

Dyddiad ac amser: 9.30-13.30 ar 30 Tachwedd 2023.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am yr ymchwil effeithiol sy'n digwydd yn ein Hysgol ac mewn rhwydweithio ag academyddion, myfyrwyr a chwmnïau, yna cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen Eventbrite isod. Bydd modd cofrestru tan 23 Tachwedd. Ein nod yw cael tua 100 o gyfranogwyr o'r byd academaidd a diwydiant. Gellir gweld rhaglen lawn y digwyddiad isod.

Edrychwn ymlaen yn fawr at eich gweld ar y 30 Tachwedd. Dywedwch wrthym os ydych chi eisiau cyfieithydd Cymraeg.

Cofrestrwch nawr

Atodlen

9:30–10:00

Cofrestru a ll uniaeth

10:00–10:20

Croeso a chyflwyniad

Dr Jonathan Thompson, Pennaeth yr Ysgol

Dr Katerina Kaouri, Cyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu

10:20–11:20

Enghreifftiau o gydweithio llwyddiannus gyda'r Ysgol Mathemateg

Trish Chalk

Cynorthwyo Cyfarwyddwr ABCi a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Mewnwelediad a Chynllunio

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Kevin Parry

Prif Swyddog Data, Dŵr Cymru Welsh Water

Dŵr Cymru Welsh Water ac Ysgol Fathemateg Prifysgol Caerdydd

Dr Yuri Staraselski

Prif Swyddog Technegol, Crimtan

Modelu Ystadegol ar gyfer Gwella Effeithlonrwydd Hysbysebu Ar-lein:
Astudiaeth achos o gydweithio defnyddiol.

Trafodaeth banel a sesiwn Holi ac Ateb

Cymedrolwyd gan yr Athro Paul Harper

11:20–11:40

Lluniaeth a rhwydweithio

11:40–12:20

12:20-12:30

Ymchwil mathemateg gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd

Yr Athro Tim Phillips, Pennaeth y grŵp Mathemateg Gymhwysol a Chyfrifiadurol

Yr Athro Maggie Chen, Pennaeth y grŵp Mathemateg Ariannol

Yr Athro Jon Gillard, Pennaeth y Grŵp Ystadegau

Cadeirydd: Yr Athro Owen Jones

Sgyrsiau mellt ar ymchwil effeithiol

Yr Athro Rhyd Lewis, yr Athro Owen Jones, Dr Geraint Palmer a Dr Katerina Kaouri

12:30–13:30

Cinio, rhwydweithio ac arddangosfa o bosteri

10:00-10:45, Abacws 0.04, (11-15 oed), gêm

Lois Mullins

Dewch i chwarae gêm fwrdd Mathemateg newydd a ddatblygwyd gan griw Mathemateg Caerdydd

11:00-11:45, Abacws 0.04, (oed 9-15), gêm

Michela Corradini

Ydy gwneud y cam cyntaf yn bwysig? Mathemateg sydd â'r ateb.

11:00-11:45, Abacws 0.34, (11-16 oed), gêm

Layla Sadeghi Namaghi

Strategaethau mathemategol cŵl mewn gemau dau chwaraewr gyda phawb yn ennill, a neb yn colli.

12:00-12:45, Abacws 0.04, (4-8 oed), gweithdy

Dr Yasemin Sengul Tezel

Pwy sydd ddim yn hoffi celf a chrefft? Beth am wneud gwrthrychau tri dimensiwn a'u lliwio.

12:00-12:45, Abacws 0.01, (11-99 oed), cyflwyniad

Dr Katerina Kaouri

Dysgwch am fathemateg hediadau uwchsonig a gwrando ar lawer o ffrwydradau sonig mawr.

13:00-13:45, Abacws 0.01, (11-99 oed), cyflwyniad

Dr Thomas Woolley

Sut ydych chi'n goroesi mewn apocalyps sombi? Gall modelau mathemategol ddod i'r adwy.

13:00-13:45, Abacws 0.04, (11-99 oed), cyflwyniad

Dr Geraint Palmer

Sut mae data'n cael ei gasglu, ei ddadansoddi a'i ddelweddu, yn y gorffennol a heddiw? Ble fyddwn ni yn y dyfodol gydag Al?

14:00-14:45, Abacws 0.34, (11-18 oed), cytlwyniad rhyngweithiol

Dr Thomas Barker

Wedi eich hysbrydoli gan y fideos a ddangosir yn y cyntedd? Plymiwch yn ddyfnach i'r mathemateg sydd y tu ôl i fideos ac animeiddiadau.

14:00-14:45, Abacws 0.01, (11-99 oed), cyflwyniad

Dr Rhyd Lewis

Yn aml mae papurau newydd, gwleidyddion a chwmnïau hysbysebu yn defnyddio ystadegau mewn ffyrdd camarweiniol. Sut gallwch chi sylwi ar hyn?

15:00-15:45, Abacws 0.34, (oedrannau 3+), gweithdy

Dr Rhyd Lewis

Darlunio, lliwio a datod: o'r "her pedwar lliw" i'r gêm "datod"!

15:00-15:20, Abacws, 0.01, (11-18 oed), fideo a chyflwyniad

Stylianos Koutsoullis

Pwy a ŵyr fod ewclid a rap yn mynd law yn llaw?

15.25-15.45, Abacws, 0.01 (15-99 oed), cyflwyniad

Dr Katerina Kaouri

Sut y gall modelau mathemategol ragweld a ydym yn cael ein heintio gan feirysau yn yr aer mewn ystafell?

16:00-16:45, Abacws 0.01, (10-99 oed), cyflwyniad theatrig

Menywod mewn Mathemateg a Chymdeithas Cyfrifiadureg

Hoffech chi ddod i adnabod mathemategwyr benywaidd enwog a'u llwyddiannau?

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Thîm Ymgysylltu’r Ysgol Mathemateg:

mathsengagement@caerdydd.ac.uk