Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Anturiaethau Mathemateg

Maths Adventures pic

18 Chwefror 2023, 10:00-17:00, Abacws, Prifysgol Caerdydd

Mae Ysgol Mathemateg Caerdydd yn trefnu Diwrnod Anturiaethau Mathemateg ar 18 Chwefror 2023.

Fe’i cynhelir yn adeilad Abacws, yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd. Mae'r Diwrnod Anturiaethau yn cynnwys gweithgareddau ymarferol a gweithdai a chyflwyniadau difyr i blant, teuluoedd a'r cyhoedd. Nod y digwyddiad yw hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o rôl Mathemateg mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fathemategwyr a gwyddonwyr.

Cofrestrwch nawr

Gweithgareddau

Bydd gweithgareddau ar y diwrnod yn cynnwys:

10:00-16:00, Cyntedd Abacws (pob oedran)

Meistri Gwyddbwyll, Chess Mate, Gemau Bwrdd Mathemategol, Bysgio Mathemateg.

10:00-10:45, Abacws 0.01 (11-99 oed), arddangosiadau

Dr Usama Kadri

Gwyliwch Ninja Turtle yn cipio gem werdd cyn achub y byd a darganfod pam mae rhai gwrthrychau'n disgyn ac eraill yn esgyn.

11:00-11:45, Abacws 0.01, (pob oedran), cyflwyniad

Dr Thomas Woolley

O rythm i gyfansoddiadau, mae mathemateg yn ein helpu i ddeall sut mae cerddoriaeth yn cael ei chreu ac yn datblygu.

10:00-10:45, Abacws 0.04, (11-15 oed), gêm

Lois Mullins

Dewch i chwarae gêm fwrdd Mathemateg newydd a ddatblygwyd gan griw Mathemateg Caerdydd

11:00-11:45, Abacws 0.04, (oed 9-15), gêm

Michela Corradini

Ydy gwneud y cam cyntaf yn bwysig? Mathemateg sydd â'r ateb.

11:00-11:45, Abacws 0.34, (11-16 oed), gêm

Layla Sadeghi Namaghi

Strategaethau mathemategol cŵl mewn gemau dau chwaraewr gyda phawb yn ennill, a neb yn colli.

12:00-12:45, Abacws 0.04, (4-8 oed), gweithdy

Dr Yasemin Sengul Tezel

Pwy sydd ddim yn hoffi celf a chrefft? Beth am wneud gwrthrychau tri dimensiwn a'u lliwio.

12:00-12:45, Abacws 0.01, (11-99 oed), cyflwyniad

Dr Katerina Kaouri

Dysgwch am fathemateg hediadau uwchsonig a gwrando ar lawer o ffrwydradau sonig mawr.

13:00-13:45, Abacws 0.01, (11-99 oed), cyflwyniad

Dr Thomas Woolley

Sut ydych chi'n goroesi mewn apocalyps sombi? Gall modelau mathemategol ddod i'r adwy.

13:00-13:45, Abacws 0.04, (11-99 oed), cyflwyniad

Dr Geraint Palmer

Sut mae data'n cael ei gasglu, ei ddadansoddi a'i ddelweddu, yn y gorffennol a heddiw? Ble fyddwn ni yn y dyfodol gydag Al?

14:00-14:45, Abacws 0.34, (11-18 oed), cytlwyniad rhyngweithiol

Dr Thomas Barker

Wedi eich hysbrydoli gan y fideos a ddangosir yn y cyntedd? Plymiwch yn ddyfnach i'r mathemateg sydd y tu ôl i fideos ac animeiddiadau.

14:00-14:45, Abacws 0.01, (11-99 oed), cyflwyniad

Dr Rhyd Lewis

Yn aml mae papurau newydd, gwleidyddion a chwmnïau hysbysebu yn defnyddio ystadegau mewn ffyrdd camarweiniol. Sut gallwch chi sylwi ar hyn?

15:00-15:45, Abacws 0.34, (oedrannau 3+), gweithdy

Dr Rhyd Lewis

Darlunio, lliwio a datod: o'r "her pedwar lliw" i'r gêm "datod"!

15:00-15:20, Abacws, 0.01, (11-18 oed), fideo a chyflwyniad

Stylianos Koutsoullis

Pwy a ŵyr fod ewclid a rap yn mynd law yn llaw?

15.25-15.45, Abacws, 0.01 (15-99 oed), cyflwyniad

Dr Katerina Kaouri

Sut y gall modelau mathemategol ragweld a ydym yn cael ein heintio gan feirysau yn yr aer mewn ystafell?

16:00-16:45, Abacws 0.01, (10-99 oed), cyflwyniad theatrig

Menywod mewn Mathemateg a Chymdeithas Cyfrifiadureg

Hoffech chi ddod i adnabod mathemategwyr benywaidd enwog a'u llwyddiannau?

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Thîm Ymgysylltu’r Ysgol Mathemateg:

mathsengagement@caerdydd.ac.uk