Ewch i’r prif gynnwys

Damcaniaethau Gwleidyddol

Mae damcaniaethau gwleidyddol yn ymwneud â syniadau hanfodol sy’n sail i’r byd gwleidyddol.

Rydym yn defnyddio damcaniaethau canonaidd ac arloesol i ofyn cwestiynau mawr am gyfiawnder a’r gymdeithas wleidyddol, ac i amlygu rhagdybiaethau cudd ynghylch gweithredodd a chredoau gwleidyddol.

Mae ein gwaith yn drawsddisgyblaethol ac yn gynhwysol. Mae ein haelodau yn gweithio ar draddodiadau o Ogledd yr Iwerydd ac o’r tu allan i Ewrop, gan gynnwys athroniaeth Ewropeaidd fodern, delfrydiaeth Brydeinig, ryddfrydiaeth Rawlaidd a Kantiaidd, damcaniaeth wleidyddol ryngwladol, damcaniaethau cyfiawnder, yn ogystal â damcaniaeth dadwladychu ac ôl-drefedigaethol, damcaniaethau o Dde’r Byd, ac o safbwynt brodorol, Affricanaidd, a Thaoaidd.

Rydym yn cynnig man cefnogol a chroesawgar i ymchwilwyr ddatblygu a sefydlu syniadau, ac rydym yn aml yn cynnal seminarau gan ymchwilwyr cenedlaethol a rhyngwladol sydd ar flaen y gad yn eu meysydd.