Ewch i’r prif gynnwys

Deon y Gymraeg y Brifysgol

Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd
Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd

Ymgeiswyr mewnol yn unig

Mae cyfle wedi codi i arwain ar ddatblygu a chyflawni blaenoriaeth strategol allweddol i’r Brifysgol, sef strategaeth y Gymraeg a’i gwaith cysylltiedig.

Yn atebol i’r Dirprwy Is-ganghellor, bydd Deon y Gymraeg yn gweithio’n agos gyda Rheolwr yr Academi Gymraeg a Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg, yn ogystal â’r Uwch Gynghorydd Cydymffurfiaeth a Swyddog yr Iaith Gymraeg sy’n rhan o Ysgrifenyddiaeth y Brifysgol. Bydd Deon y Gymraeg yn rhoi arweiniad i bob rhan o’r Brifysgol, er mwyn sicrhau un dull cyson o gyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi’n rhan o Strategaeth y Gymraeg y Brifysgol.

Bydd Deon y Gymraeg yn cydweithio â staff o bob rhan o’r Brifysgol, gan sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o’n diwylliant a’n gweithgarwch.

Y rôl

Gall unrhyw aelod o’r staff academaidd sydd â’r profiad a’r sgiliau priodol, ac sy’n gallu darparu arweinyddiaeth academaidd bwrpasol ar gyfer datblygu a chyflawni’r flaenoriaeth strategol allweddol hon wneud cais am y rôl hon.

Dylai fod gan ymgeiswyr hanes cryf o gefnogi’r Gymraeg, a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys dealltwriaeth ymarferol o bolisïau a gweithdrefnau cyfredol cysylltiedig. Mae angen bod yn rhagweithiol a gweithio’n dda yn rhan o dîm yn y rôl hon, a dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad amlwg o arweinyddiaeth academaidd gyda'r gallu i feddwl yn strategol a meithrin gweledigaeth a rennir.
Rôl 0.6 gyfwerth ag amser llawn a thymor sefydlog am dair blynedd yw hon, gyda’r posibilrwydd o estyniad am 3 blynedd arall. Bydd deiliad y swydd yn cael lwfans blynyddol di-bensiwn o £4,500. Y dyddiad cychwyn fydd 01 Tachwedd 2024.

Darllenwch y swydd-ddisgrifiad llawn/manyleb yr unigolyn:

Deon y Gymraeg y Brifysgol

University Dean for the Welsh Language

Sut i wneud cais

I wneud cais, amgaewch CV byr (dim mwy na phum ochr A4) a llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr A4) yn rhoi sylw i'r canlynol o dan benawdau clir:

  • eich gweledigaeth ar gyfer y rôl yn y tair blynedd nesaf, gan gynnwys synnwyr clir o flaenoriaethau/amcanion a chynlluniau er mwyn eu cyflawni
  • sut byddech chi’n meithrin cysylltiadau gwaith effeithiol ym mhob rhan o’r Brifysgol, a hynny er mwyn cefnogi amcanion y rôl
  • sut mae eich sgiliau, eich arbenigedd a’ch profiad, yn ogystal â'ch rhinweddau personol, yn eich paratoi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn y rôl
  • y nodweddion personol sy’n eich gwneud yn addas ar gyfer y rôl

Dylid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig erbyn 5yh ddydd Mercher 15 Mai i Rhian Perridge, Rheolwr AD, by emailing  PerridgeR@caerdydd.ac.uk.

Bydd dyddiad y cyfweliadau panel (gan gynnwys cyflwyniadau byr) yn cael ei gadarnhau cyn gynted â phosibl.