Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI
Rydym yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am Gymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol (FLF) gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) gyda Phrifysgol Caerdydd fel sefydliad lletyol.
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer y cynllun hwn ar hyn o bryd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda manylion o'r broses ymgeisio mewnol os bydd UKRI yn agor rowndiau yn y dyfodol.
Mae cynllun FLF UKRI, sy'n derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr o'r DU ac ymgeiswyr rhyngwladol, yn cynnig pecyn cymorth cynhwysfawr a hyblyg ar unrhyw faes y mae UKRI yn ei gefnogi, gan gynnwys cyflogau'r Cymrodyr a'r holl gostau ymchwil, staff a hyfforddiant rhesymol eraill. Bydd buddsoddiad o hyd at £1.5 miliwn (80% fEC) dros bedair blynedd, a’r gallu i estyn y cyfnod i hyd at saith mlynedd, yn galluogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac arloeswyr i elwa ar gefnogaeth ragorol i ddatblygu eu gyrfaoedd. Byddant hefyd yn gallu mynd i’r afael â heriau anodd a newydd mewn rhaglenni ymchwil uchelgeisiol.
Mae’r cymrodoriaethau hyn yn gyfleoedd gwych i academyddion ac arloeswyr ar ddechrau eu gyrfa sydd yn y broses o bontio neu sefydlu eu hannibyniaeth. Dylai unigolion ddefnyddio'r canllawiau ynghylch cymhwysedd a manyleb yr unigolyn yn nogfen yr alwad i bennu eu haddasrwydd ar gyfer y cynllun, gan gyfeirio at amcanion y rhaglen.
Mae’r cymrodoriaethau yn cefnogi ymgeiswyr o yrfaoedd amrywiol, gan gynnwys y rhai sy’n dychwelyd ar ôl cael seibiant gyrfaol neu sydd wedi bod yn treulio amser mewn rolau eraill. Ar ben hynny, mae UKRI yn awyddus i gael ceisiadau gan y rheiny sydd am weithio’n rhan-amser neu rannu swyddi er mwyn cyfuno’r cymrodoriaethau â chyfrifoldebau personol.
Mae hwn yn un cynllun ar draws cylch gorchwyl UKRI i gyd, heb unrhyw gyllidebau wedi’u neilltuo ar gyfer meysydd penodol a dim rhwystrau rhag ymchwil ryngddisgyblaethol neu draws-sector.
Mae manylion llawn yr alwad a'r cynllun ar wefan UKRI.
Datganiadau o ddiddordeb
Agorwyd galwad fewnol Prifysgol Caerdydd ar gyfer Rownd 6 o gynllun Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI ar 11 Mai 2020. I fynegi diddordeb mewn cyflwyno cais gyda Phrifysgol Caerdydd fel eich sefydliad lletyol, ebostiwch risresearchdevelopment@caerdydd.ac.uk gyda'r manylion canlynol:
- eich enw llawn
- eich disgyblaeth
- Ysgol letyol ddisgwyliedig.
Bydd cefnogaeth sylweddol y sefydliad yn rhan gritigol o'r cymrodoriaethau hyn. Yn hyn o beth, mae gan Brifysgol Caerdydd broses fewnol ar gyfer asesu datganiadau o ddiddordeb yn y cynllun hwn. Mae'r cam cyntaf yn cynnwys eich Ysgol letyol arfaethedig yn adolygu eich datganiad o ddiddordeb. Unwaith y byddwn yn derbyn y wybodaeth y gofynnwyd amdani uchod, byddwn yn creu cysylltiad rhyngoch chi â'r Ysgol ac yn rhoi'r wybodaeth fydd ei hangen arnoch i gyflwyno cais i'r cynllun.
22 Mehefin 2020 yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn datganiadau o ddiddordeb wedi'u cymeradwyo gan yr Ysgol er mwyn i'r Coleg eu hadolygu. Rydym yn argymell yn gryf eich bod chi'n cysylltu â ni cyn gynted â phosibl er mwyn cydymffurfio â therfynau amser mewnol Ysgolion, fydd yn gynt na hyn.
Paneli asesu Coleg
Ar ôl i’r Ysgol gytuno ar gymorth i ariannu cyflogau, bydd hi’n ofynnol bod pob cais y mae Ysgol eisiau ei gefnogi yn cael cadarnhad ar lefel Coleg.
Ar gyfer Rownd 6, bydd datganiadau diddordeb wedi’u cymeradwyo gan Ysgolion, a ddylai gynnwys digon o wybodaeth er mwyn i ansawdd ac addasrwydd y cynnig gael ei asesu, yn cael eu hadolygu gan banel asesu ar lefel Coleg ym mis Mehefin/Gorffennaf 2020. Wedyn bydd y panel asesu yn gwneud argymhellion i’r Rhag Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil, Arloesedd a Menter a fydd yn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch pa geisiadau a gaiff eu cefnogi yn seiliedig ar ansawdd yr unigolion, pa mor gystadleuol ydynt a sut mae eu diddordebau ymchwil yn cyd-fynd â meysydd blaenoriaeth y Brifysgol ar gyfer twf mewn gallu ymchwil.
Ar ôl i ddatganiad o ddiddordeb fynd drwy’r broses gymeradwyo fewnol orfodol hon, wedyn gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno drafft o’u cais llawn i’w Coleg ym mis Medi 2020, cyn cyflwyno cais amlinellol gorfodol i UKRI.
Cynigion amlinellol gorfodol a llawn UKRI
Er mwyn i UKRI weld faint o alw sydd a llywio’r gwaith o ddatblygu’r panel, rhaid i’r sefydliadau lletyol gyflwyno cais amlinellol ar gyfer pob un o’r ceisiadau y maent yn bwriadu ei gefnogi cyn cyflwyno’r ceisiadau llawn. Mae cam Cynnig Amlinellol UKRI yn orfodol a hebddo ni fydd UKRI yn ystyried ceisiadau llawn. Ni roddir adborth ar y cynnwys ac nid cam brysbennu yw hwn.
Dydd Mawrth 2 Mehefin 2020 yw dyddiad cau UKRI ar gyfer cyflwyno cynigion amlinellol gorfodol Rownd 5. Ar gyfer Rownd 6, mae'n debygol y bydd y dyddiad cau ddiwedd mis Tachwedd/ddechrau mis Rhagfyr 2020 (i'w gadarnhau).
Wedyn rhaid cyflwyno ceisiadau llawn drwy Je-S. Bydd cymheiriaid arbenigol yn adolygu’r cais llawn, ac yna llunnir rhestr fer a chynhelir cyfweliadau gan banel amlddisgyblaethol o uwch-benderfynwyr sydd â hanes blaenorol o wneud penderfyniadau ar draws meysydd a disgyblaethau.
Dydd Mawrth 30 Mehefin 2020 yw dyddiad cau UKRI i gyflwyno cynigion llawn ar gyfer Rownd 5. Ar gyfer Rownd 6, mae'n debygol y bydd y dyddiad cau ym mis Ionawr 2021 (i'w gadarnhau).
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn yr holl arferion a gweithgareddau, gan sefydlu diwylliant cynhwysol heb arwahanu sy'n seiliedig ar werthoedd urddas, cwrteisi a pharch. Rydym yn cydnabod gyda balchder bod amrywiaeth a gwahaniaeth yn hanfodol er lles a datblygiad y Brifysgol yn y dyfodol. O fewn addysg uwch, mae nifer o grwpiau yn cael eu tangynrychioli o fewn y gymuned academaidd ac mae ceisiadau felly yn cael eu croesawu gan ymgeiswyr sy’n uniaethu â bod yn rhan o grwp â dangynrychiolir.
Amserlen Rownd 6
Cam galw
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Galw am ddatganiadau o ddiddordeb | 11 Mai 2020 |
Gweithdy datganiadau o ddiddordeb | I’w gadarnhau |
Cam datgan diddordeb
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Ysgolion yn cyflwyno datganiadau o ddiddordeb i baneli coleg (drwy RIS) 2020 | 22 Mehefin 2020 |
Colegau'n adolygu datganiadau o ddiddordeb | 23 Mehefin - 3 Gorffennaf 2020 |
Panel Adolygu Datganiadau o Ddiddordeb Colegau | Wythnos sy'n dechrau 6 Gorffennaf 2020 |
Panel Adolygu Datganiadau o Ddiddordeb y Brifysgol | Wythnos sy'n dechrau 13 Gorffennaf 2020 |
Rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau ynghylch datganiadau o ddiddordeb | Wythnos sy'n dechrau 20 Gorffennaf 2020 |
Cam gwneud cais llawn
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Gweithdy gwneud cais llawn | I’w gadarnhau |
Cais llawn wedi’i gyflwyno i Banel y Brifysgol | 28 Medi 2020 |
Y Brifysgol yn gwneud adolygiad o’r ceisiadau llawn | 29 Medi - 9 Hydref 2020 |
Rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniad/adborth ynghylch y cais llawn | Wythnos yn dechrau 12 Hydref 2020 |
Cyflwyno cynnig amlinellol i UKRI | Ddiwedd mis Tachwedd/ddechrau mis Rhagfyr 2020 (UKRI i'w gadarnhau) |
Cyflwyno cais llawn i UKRI | Ionawr 2021 (i'w gadarnhau gan UKRI) |
Cysylltu
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, dylai unigolion gysylltu â: