Cymrodoriaethau Ôl-ddoethuriaeth yr Academi Brydeinig
Rydym yn gwahodd ymchwilwyr i fynegi diddordeb mewn Cymrodoriaethau Ôl-ddoethuriaeth yr Academi Brydeinig gyda Phrifysgol Caerdydd fel sefydliad lletyol.
Mae’r Academi Brydeinig yn cynnig Cymrodoriaethau tair blynedd o hyd ar gyfer ymchwilwyr ym meysydd y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol sydd ar ddechrau eu gyrfa, sy’n cynnig cyfleoedd datblygu gyrfa gwych. Mae hyd at 45 o gymrodoriaethau yn cael eu cynnig bob blwyddyn ar hyn o bryd.
Mae cymrodoriaethau ôl-ddoethuriaeth yr Academi Brydeinig yn cynnig cyfleoedd i ymchwilwyr rhagorol ar ddechrau eu gyrfa i wella eu profiad ymchwilio ac addysgu mewn amgylchedd prifysgol a fydd yn datblygu eu curriculum vitae a gwella eu rhagolygon o gael swydd ddarlithio parhaol erbyn diwedd y Gymrodoriaeth. Mae’r pwyslais sylfaenol ar gwblhau darn o waith ymchwil y gellir ei gyhoeddi gan fanteisio ar aelodaeth lawn o gymuned academaidd o ysgolheigion sefydledig sy’n gweithio mewn meysydd tebyg i gynnig cymorth.
Pwy sy’n gymwys
Rhaid i ymgeiswyr:
- fod yn ddinesydd Prydeinig neu’n wladolyn AEE; neu’n
- unrhyw un, o unrhyw genedl sydd â doethuriaeth yn y DU; neu’n
- rhywun sy’n gallu dangos ‘cysylltiad blaenorol â chymuned academaidd y DU’ drwy, er enghraifft, gael eich cyflogi dros dro (am o leiaf blwyddyn) gan brifysgol yn y DU.
Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr statws dechrau gyrfa - sy’n cael ei ddiffinio fel rhywun sydd o fewn tair blynedd ers ennill dyfarniad doethuriaeth. Ar gyfer 2022, rhaid i ymgeiswyr naill ai:
- feddu, neu ddisgwyl meddu ar ddoethuriaeth a gaiff ei dyfarnu yn dilyn arholiad llafar a gynhelir rhwng Ebrill 2020 ac Ebrill 2023 (statws gyrfa cynnar; disgwyliedig); neu
- fod â rheswm dilys dros eithriad o ddiweddarwch eu statws ôl-ddoethurol (e.e. gohirio eu gyrfa academaidd ar gyfer cyfnod mamolaeth, ymrwymiadau teuluol, salwch ac ati).
Ni ddylai ymgeiswyr fod, neu wedi bod mewn swydd academaidd barhaol.
Dim ond os bydd yr Academi Brydeinig wedi cynghori cyn-ymgeiswyr aflwyddiannus yn swyddogol y byddant yn gymwys i gyflwyno cais arall i’r cynllun hwn.
Ewch i wefan yr Academi Brydeinig am ragor o fanylion am y meini prawf o ran pwy sy’n gymwys.
Cyflwyno eich datganiad o ddiddordeb
Disgwylir i’r alwad nesaf am geisiadau gau ym mis Hydref 2022.
I fynegi diddordeb yn y cynllun hwn, ac i ymuno â neu weld ein gweithdai i ymgeiswyr yn y Gwanwyn (Mai) a’r Haf (Gorffennaf) 2022, neu i gofrestru ar gyfer sesiynau holi ac ateb, risresearchdevelopment@caerdydd.ac.uk gan roi’r manylion canlynol:
- Eich enw llawn
- Eich disgyblaeth a’r ysgol a fyddai yn eich derbyn
Byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r ysgol a fyddai’n eich derbyn os nad ydych mewn cysylltiad â nhw eisoes.
Fel ymgeisydd, rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr ysgol a fyddai yn eich derbyn wedi trafod eich bwriad i wneud cais ymhell cyn cyflwyno eich cais. Argymhellir yn gryf eich bod yn mynegi eich diddordeb yn y cynllun hwn cyn gynted ag y bo modd, ac erbyn diwedd mis Awst 2022 fan bellaf, er mwyn cydymffurfio â dyddiadau cau mewnol yr ysgolion. Ym misoedd Awst/Medi mae’r dyddiadau cau fel arfer.
Sylwer bod Prifysgol Caerdydd yn gweithredu proses gadarn o flaenoriaethu ac adolygu gan gymheiriaid ar gyfer pob cais er mwyn sicrhau bod y rhai o’r safon uchaf yn cael eu cyflwyno i’r Academi Brydeinig.
Ymholiadau
Os oes gennych ymholiadau cyffredinol, ac er mwyn cofrestru ar gyfer y gweithdy i ymgeiswyr, cysylltwch â:
Research Development team, Research and Innovation Services
Leverhulme Trust general enquiries