Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi Cymrodoriaethau newydd Arweinwyr y Dyfodol

4 Rhagfyr 2023

Dr Hana D’Souza, Dr Cynthia Sandor, Dr Renata Jurkowska

A hwythau’n rhan o garfan o 75 o'r arweinyddion ymchwil mwyaf addawol, byddan nhw’n elwa o £101 miliwn i fynd i'r afael â phroblemau byd-eang o bwys a masnacheiddio eu datblygiadau arloesol yn y DU.

Yn sgil Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI caiff prifysgolion a busnesau ddatblygu eu hymchwilwyr a’u harloeswyr mwyaf talentog ar ddechrau eu gyrfa a denu pobl newydd i'w sefydliadau, gan gynnwys o wledydd dramor.

Bydd Dr Hana D'Souza, Dr Renata Jurkowska a Dr Cynthia Sandor yn ymuno â chymuned gynyddol o FLFs yn y Brifysgol, gan ddod â’r cyfanswm i 13 o gymrodyr gwych yn y tri choleg. Mae’r cymrodorion wedi elwa o gefnogaeth wedi’i theilwra drwy gydol y broses ymgeisio a arweiniodd at gynigion ymchwil uchel eu safon a welir yn y gwobrau UKRI eleni.

Yn bartner yn Rhwydwaith Datblygu'r FLF, mae'r Brifysgol yn weithredol wrth gefnogi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil ledled y DU.

Dr Hana D'Souza, yr Ysgol Seicoleg, yw Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Gwyddor Datblygiad Dynol ac mae'n arwain Labordy Babanod Caerdydd. Mae hi'n astudio datblygiad gallu echddygol a chanolbwyntio, a sut mae anawsterau gyda'r rhain yn effeithio ar ddysgu, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar fabanod a phlant bach â chyflyrau niwroddatblygiadol megis syndrom Down, syndrom X brau, a syndrom Williams.

Meddai, “Mae teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant yn poeni bod yr anawsterau y mae llawer o blant ifanc yn eu cael wrth ganolbwyntio eu sylw a symud eu cyrff yn effeithio ar y ffordd y maent yn dysgu. Mae'r anawsterau hyn yn gyffredin mewn datblygiad cynnar ar draws ystod o gyflyrau niwroddatblygiadol. Nod fy FLF (Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol) yw integreiddio technoleg flaengar a fframweithiau datblygiadol cyfredol i ddeall y cyfleoedd dysgu bob dydd ym mlynyddoedd cyntaf hollbwysig bywyd. Rwy’n gobeithio ail-lunio ein harferion ymchwil a chymorth blynyddoedd cynnar, gyda’r nod hirdymor o wneud y mwyaf o gyfleoedd dysgu bob dydd plant niwroamrywiol ifanc.

Er mwyn trawsnewid cymdeithas yn wirioneddol, gwyddom fod angen inni gydweithio, ar draws disgyblaethau ac ar draws sectorau. Dyma pam roeddwn i mor awyddus i wneud cais am FLF. Bydd cwmpas a hyblygrwydd y dyfarniad hefyd yn rhoi’r cyfle i mi hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, gyda phwyslais ar ragoriaeth wyddonol o fewn diwylliant ymchwil cadarnhaol.”

Mae Dr Cynthia Sandor yn Arweinydd sy’n Dod i’r Amlwg gyda Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (UK DRI). Yng Nghanolfan Caerdydd UK DRI, nod ymchwil Dr Sandor yw defnyddio strategaethau cyfrifiadurol i ddeall Parkinson’s yn well, trwy ddatblygu dulliau dysgu peirianyddol i ddeall a rhagfynegi cyflwyniad clinigol a datblygiad y clefyd. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae ei hymchwil wedi ceisio esbonio'r mecanweithiau moleciwlaidd sy'n sail i ddifrifoldeb a dilyniant clefyd Parkinson. (CP).

Dyma a ddywedodd hi: “Mae fy nhîm a minnau’n datblygu dulliau ystadegol a dysgu peirianyddol i ddadansoddi gwahanol fathau o ddata a setiau data clinigol, i ragfynegi a deall cyflwyniad clinigol a chynnydd clefyd Parkinson mewn unigolion yr effeithir arnynt.

Nod fy FLF yw deall rôl celloedd T mewn Clefyd Parkinson. Mae'n ddamcaniaeth gymharol newydd y gall celloedd T chwarae rhan allweddol yn natblygiad y clefyd. Gallai deall sut mae celloedd T yn cyfrannu at Glefyd Parkinson fod yn hanfodol wrth ddatblygu triniaethau ataliol ar gyfer clefyd nad oes modd ei wella ar hyn o bryd. Mae fy ymagwedd yn unigryw oherwydd fy mod yn canolbwyntio ar y celloedd T hyn mewn cleifion Clefyd Parkinson presennol, ond hefyd mewn unigolion sydd mewn perygl o gael Clefyd Parkinson. Yn benodol, fy nod yw astudio'r rhai ag anhwylder cwsg o'r enw anhwylder ymddygiad cwsg REM, sy'n debygol o ddatblygu Clefyd Parkinson yn ystod y deng mlynedd nesaf. Byddwn yn manteisio ar y datblygiadau mewn technolegau platfform un gell ac yn defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael mewn carfannau clinigol a banciau bio.”

“Her amlddisgyblaethol yw hon, lle mae cydweithio ag amrywiaeth eang o ymchwilwyr yn hollbwysig, a dyna pam y penderfynais wneud cais am FLF, gan ei bod yn gymrodoriaeth ddelfrydol ar gyfer integreiddio disgyblaethau megis geneteg, dadansoddiad un-gell, imiwnoleg, niwropatholeg, clinigau, deallusrwydd artiffisial, a mwy.”

Mae Dr Renata Jurkowska, Ysgol y Biowyddorau yn fiolegydd moleciwlaidd sy’n ymddiddori mewn epigeneteg, bôn-gelloedd, a bioleg yr ysgyfaint. Mae ei chymrodoriaeth hi yn canolbwyntio ar ffibrosis idiopathig yr ysgyfaint (IPF), sy’n glefyd dinistriol, lle mae cleifion yn datblygu diffyg anadl cynyddol oherwydd creithiau anghildroadwy ar eu hysgyfaint. Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl rhagweld pwy fydd yn datblygu IPF, a pha gleifion fydd yn cael ffurf ddifrifol y clefyd.

Meddai: “Mae afiechydon yr ysgyfaint yn effeithio ar nifer syfrdanol o 540 miliwn o gleifion sy'n aros am driniaethau meddygol. Rydw i am drawsnewid sut mae cleifion yn cael diagnosis ac yn cael eu trin drwy dargedu clefydau’r ysgyfaint o’r cychwyn cyntaf. Rwy’n gobeithio darganfod meddyginiaethau newydd ar gyfer clefydau’r ysgyfaint nad oes modd eu gwella ar hyn o bryd er mwyn i gleifion allu adfywio eu hysgyfaint ac anadlu’n normal. Mae hyn yn rhywbeth y mae nifer fawr o bobl yn ei gymryd yn ganiataol, ond maen nhw'n brwydro gyda hyn bob munud o’r dydd."

Ychwanegodd Dr Jurkowska, “Nid oes unrhyw driniaethau effeithiol ar hyn o bryd ac mae dioddefwyr yn goroesi am dair blynedd ar gyfartaledd.  Er mwyn datblygu therapïau iachaol, sydd eu hangen ar frys, mae angen inni ddeall beth sy'n llywio datblygiad clefydau. Bydd fy nghymrodoriaeth yn ymchwilio i reoleiddio epigenetig i sbarduno IPF. Mae'r addasiadau epigenetig hyn yn grwpiau cemegol yn ein cod genetig sy'n rheoli ein genynnau. Maen nhw'n cael eu newid gan amlygiadau amgylcheddol sy'n achosi afiechyd a gallant hefyd gael eu haddasu i wella afiechyd. Bydd fy ymchwil yn cynnig y ddealltwriaeth gyntaf o sut mae signalau epigenetig yn sbarduno datblygiad clefyd yr ysgyfaint, gan gyflymu'r broses o ddarganfod a dilysu therapiwteg epigenetig a biomarcwyr ar gyfer ffibrosis yr ysgyfaint a chlefydau cronig eraill yr ysgyfaint.

Bydd yr ymchwil uchelgeisiol hwn yn mynd i’r afael â phroblem gymhleth, na ellir ei gwireddu gyda chyllid grant arall. Byddwn yn gallu deall yr wyddoniaeth sylfaenol a dod yn nes at nodi ffyrdd gwell o ganfod y broblem a chynnig ymyrraeth i gleifion.”

Dyma a ddywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter:

“Llongyfarchiadau i Cynthia, Hana, a Renata ar eu llwyddiant gyda’r cynllun cymrodoriaeth hynod gystadleuol hwn. Mae'r Cymrodoriaethau'n gyfle gwych i wneud cyfraniadau gwerthfawr i wybodaeth, amlygrwydd ymchwil ac arweinyddiaeth ymchwil.

Bydd y cyllid hirdymor a ddarperir gan y cymrodoriaethau yn helpu Cynthia, Hana, a Renata i gyflwyno ymchwil arloesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y cyflyrau y maent yn eu hastudio. Rwy’n eu croesawu i’n cymuned gynyddol a ffyniannus o Gymrodyr Arweinwyr y Dyfodol UKRI.

Dyma a ddywedodd yr Athro Fonesig Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI:

“Mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI yn rhoi cymorth a hyfforddiant tymor hir i ymchwilwyr ac arloeswyr, gan roi’r rhyddid iddynt archwilio syniadau newydd ac anturus, a datblygu gyrfaoedd deinamig sy’n chwalu’r ffiniau rhwng y sector a’r disgyblaethau. 

Mae’r cymrodorion a gyhoeddwyd heddiw yn destament i’r ffordd y mae’r cynllun hwn yn grymuso ymchwilwyr ac arloeswyr dawnus i ddatblygu’r system ymchwil ac arloesi amrywiol a chyd-gysylltiedig sydd ei hangen arnom er mwyn cau’r blwch rhwng darganfod a ffyniant ledled y DU. " 

Mae'r cynllun yn helpu prifysgolion a busnesau yn y DU i recriwtio, datblygu a chadw ymchwilwyr ac arloeswyr gorau'r byd, waeth beth fo'u cefndir. Gall ymchwilwyr wneud cais am gyllid hirdymor sylweddol i gefnogi eu hymchwil neu eu harloesedd a datblygu eu gyrfaoedd, a bydd pob cymrodoriaeth yn para rhwng pedair a saith mlynedd.

Rhannu’r stori hon