Ymchwil byd-eang
Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, canfuwyd bod 90% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn fyd-eang, gan ein gwneud yn 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ein hymchwil. Mae ein hymchwil gydweithredol gyda phartneriaid academaidd ar draws y byd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
O'n prosiect Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang sy'n archwilio gwytnwch systemau cyflenwi dŵr daear yn Nigeria i'n model arloesol o waredu gwastraff niwclear, gyda chefnogaeth y Comisiwn Ewropeaidd, rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau byd-eang o ddifrif.
Rydym yn denu'r academyddion ac ymchwilwyr o'r radd flaenaf o bob cwr o'r byd, gan wella'r profiad dysgu i fyfyrwyr a dod â phersbectif byd-eang i'n hymchwil.
Astudiaethau achos
Rydym ni’n defnyddio ein gwybodaeth i ddatblygu ymchwil arloesol fydd yn cael effaith ar y byd.