Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil byd-eang

Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, canfuwyd bod 90% o'n hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn fyd-eang, gan ein gwneud yn 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ein hymchwil.

Mae ein hymchwil gydweithredol gyda phartneriaid academaidd ar draws y byd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau byd-eang o ddifrif.

Rydym yn denu'r academyddion ac ymchwilwyr o'r radd flaenaf o bob cwr o'r byd, gan wella'r profiad dysgu i fyfyrwyr a dod â phersbectif byd-eang i'n hymchwil.

Newyddion diweddaraf

Delwedd 3D o organeb amlgellog macrosgopig.

Astudiaeth yn canfod bod organebau hynafol wedi cloi gwenwyn yn eu celloedd i oroesi newidiadau amgylcheddol peryglus

1 Gorffennaf 2025

Mae ymchwilwyr wedi canfod lefelau annisgwyl o arsenig mewn ffosiliau o ffurfiau cymhleth ar fywyd cynharaf y Ddaear

Infograffig am dechnoleg Global Real-time Early Assessment of Tsunamis

Mae technoleg newydd yn defnyddio tonnau sain tanddwr i greu rhybuddion cyflymach a mwy dibynadwy mewn amser real yn achos tswnami

18 Mehefin 2025

Mae system dan arweiniad y Brifysgol yn destun profion yn barod i'w rhoi ar waith mewn canolfannau rhybuddio yn achos tswnami

The European Research Council logo

Mae Cyngor Ymchwil Ewrop yn cefnogi prosiect dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ar Ddyfodol Naturiol Hinsawdd y Ddaear

18 Mehefin 2025

Mae’r Athro Stephen Barker ymhlith 281 o enillwyr cystadleuaeth y Grantiau Uwch nodedig

Gweld yr holl newyddion ymchwil

Astudiaethau achos

Diogelu cymunedau a gwarchod amgylcheddau

Gan weithio ochr yn ochr â chwmnïau mwyngloddio ledled y byd, mae'r Athro Wolfgang Maier wedi helpu i atal adleoli cymunedau lleol, ac mae hefyd wedi helpu i ddiogelu tir sy'n ddiwylliannol sensitif, ac wedi sicrhau arbedion cost enfawr ar yr un pryd.

Carmen Georges Bizet

Trawsnewid perfformiadau o ‘Carmen’ ar lwyfannau’r byd

Mae ymchwil yr Athro Clair Rowden wedi creu ffyrdd newydd o feddwl am un o'r operâu a berfformir amlaf ledled y byd, Carmen.

families leave Paris

Edrych eto ar y ffordd mae pobl yn cofio’r Ail Ryfel Byd yn Ffrainc

Mae profiadau pobl unigol yn ganolog i ddealltwriaeth newydd o'r cyfnod hollbwysig hwn mewn hanes.

Kenyan court

Dylanwadu ar ddiwygio etholiadol yn Kenya

Roedd ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn allweddol i wrthdroi canlyniad etholiad yn Kenya a gosododd gynsail ar gyfer gwell atebolrwydd, tegwch a datrysiad heddychlon i anghydfodau gwleidyddol lefel uchel.

Proboscis monkey

Diogelu rhywogaethau arbennig sydd mewn perygl yn Borneo

Arweiniodd arbenigedd ym maes mapio cynefinoedd at fesurau cadwraeth newydd ar gyfer y mwnci trwynol a rhywogaethau allweddol eraill

DNA

Datblygu Cronfa Ddata Mwtaniad Genynnau Dynol yn adnodd rhyngwladol ar gyfer adnabod clefydau yn well

Daeth y gronfa ddata yn ystorfa unedig ganolog ar gyfer amrywiadau genetig sy'n gysylltiedig â chlefydau celloedd llinach, gyda dros 9,000 o gofnodion newydd bob blwyddyn yn cael eu gwneud gan dîm Prifysgol Caerdydd.

Changing EU directives

Gwella effeithlonrwydd ynni gwasanaethau adeiladu yn y DU ac yn Ewrop

Mae ein hymchwilwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi treialu a gweithredu ffordd fwy effeithiol o fonitro adeiladau a’u gwasanaethau i nodi perfformiad ynni gwael, cynyddu effeithlonrwydd a lleihau allyriadau carbon. performance, increase efficiency and reduce carbon emissions.