Ewch i’r prif gynnwys

Mae hanes 66 miliwn o flynyddoedd o garbon deuocsid yn dangos bod yr hinsawdd yn hynod o ensitif i nwyon tŷ gwydr

7 Chwefror 2024

Delwedd haniaethol o fwg gwyn, llwyd a du yn chwyrlïo o gwmpas ac ynghlwm wrth ei gilydd
Cafoddyr astudiaeth, sy'n olrhain sut mae CO2 a'r hinsawdd wedi esblygu dros 66 miliwn o flynyddoedd, ei llunio dros saith mlynedd gan gonsortiwm o fwy nag 80 o ymchwilwyr o 16 gwlad

Y tro diwethaf i garbon deuocsid atmosfferig gyrraedd yn gyson y lefelau a achosir gan bobl heddiw oedd 14 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ôl ymchwilwyr.

Mae eu hastudiaeth, a luniwyd gan gonsortiwm rhyngwladol o fwy na 80 o ymchwilwyr, gan gynnwys arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ymdrin â chofnodion daearegol dros y 66 miliwn o flynyddoedd diwethaf, gan roi crynodiadau heddiw yng nghyd-destun amser dwfn.

Mae eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn Science, yn dangos bod yr hinsawdd hirdymor yn hynod o sensitif i CO2 a bod effeithiau rhaeadru sydd wedi esblygu hwyrach dros lawer o filenia.

Dywed yr awduron y bydd cynnydd yn y tymheredd, dros gyfnodau hir, yn deillio hwyrach o brosesau’r Ddaear sydd wedi’u cydblethu â’i gilydd ac sy’n mynd y tu hwnt i’r effaith tŷ gwydr uniongyrchol yn sgil CO2 yn yr awyr. Ymhlith y rhain y mae llenni iâ pegynol sy’n ymdoddi gan y byddai hyn yn lleihau gallu'r Ddaear i adlewyrchu ynni'r haul; newidiadau yn y planhigion sy’n gorchuddio’r Ddaear; a newidiadau mewn cymylau ac aerosolau atmosfferig a allai godi neu ostwng y tymheredd.

Defnyddiodd y tîm gyhoeddiadau sy’n bodoli eisoes i gyfrifo cromlin CO2 newydd o 66 miliwn o flynyddoedd yn unol â thymereddau   arwyneb cyfartalog byd-eang sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n bodoli eisoes, a hynny er mwyn disgrifio proses y maen nhw’n ei galw’n “Sensitifrwydd System y Ddaear.”

Yn ôl y mesur hwn, dywed y tîm y rhagwelir y bydd dyblu CO2 yn cynhesu'r blaned rhwng 5 a 8 gradd celsius  . Mae sensitifrwydd system y Ddaear yn disgrifio newidiadau yn yr hinsawdd dros gannoedd o filoedd o flynyddoedd, nid y degawdau a'r canrifoedd sy'n uniongyrchol berthnasol i fodau dynol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Caroline Lear, un o gyd-awduron yr adroddiad o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd:   “Mae crynodiadau CO2 yn yr atmosffer wedi amrywio’n naturiol yn y gorffennol. Er bod y newidiadau hyn yn llawer arafach na'r newidiadau modern a achosir gan losgi tanwyddau ffosil, gallwn ni eu defnyddio i ddeall sut mae ein planed yn ymateb i newidiadau mewn CO2.

Mae ein canfyddiadau’n dweud wrthon ni y byddwn ni’n parhau i weld effeithiau ein hallyriadau am filoedd o flynyddoedd, a hynny wrth i’r blaned barhau i gynhesu ac wrth i lefelau’r môr barhau i godi. Cael gwared yn raddol ar danwydd ffosiliau yw’r unig opsiwn sydd gennym i leihau’r niwed hwn, ac nid yw’r angen erioed wedi bod mor daer.

Yr Athro Carrie Lear Reader in Earth Sciences

“Mae ein canfyddiadau’n dweud wrthon ni y byddwn ni’n parhau i weld effeithiau ein hallyriadau am filoedd o flynyddoedd, a hynny wrth i’r blaned barhau i gynhesu ac wrth i lefelau’r môr barhau i godi. Cael gwared yn raddol ar danwydd ffosiliau yw’r unig opsiwn sydd gennym i leihau’r niwed hwn, ac nid yw’r angen erioed wedi bod mor daer.”

Mae'r asesiad newydd yn dangos mai’r tro diwethaf i CO2 fod yn gyson uwch na heddiw oedd tua 16 miliwn o flynyddoedd yn ôl, sef tua 480 rhan yn y filiwn (ppm) – sef yr uned a ddefnyddir i adrodd ar grynodiadau CO2.

Erbyn 14 miliwn o flynyddoedd yn ôl roedd wedi suddo i lefelau heddiw a achosir gan bobl, sef 420 ppm.

Parhaodd y dirywiad, ac erbyn tua 2.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl, cyrhaeddodd CO2 tua 270 neu 280ppm gan gychwyn cyfres o oesau iâ. Roedd wedi cyrraedd y ffigur hwn, neu’n is na hynny, pan ddaeth bodau dynol modern i fodolaeth tua 400,000 o flynyddoedd yn ôl, gan barhau yno hyd nes i effeithiau hylosgi tanwydd ffosiliau’n eang gan bobl ddechrau cael effaith tua 250 o flynyddoedd yn ôl.

Dyma a ychwanegodd Dr Sindia   Sosdian, un arall o gyd-awduron yr adroddiad ac Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd: “Bydd yr adolygiad newydd hwn yn arbennig o ddefnyddiol i fodelwyr yr hinsawdd sydd eisiau rhagweld sut beth fydd newidiadau yn yr hinsawdd yn y dyfodol a deall sut y bydd System y Ddaear yn ymateb yn wyneb lefelau CO2 heddiw nad yw eu tebyg wedi bod yn ddaearegol o’r blaen.”

Nid yw'r astudiaeth, sy'n cwmpasu'r cyfnod Cainosöig fel y'i gelwir, yn diwygio'n sylweddol y berthynas a dderbynnir yn gyffredinol rhwng CO2 a thymheredd, ond mae'n cryfhau ein dealltwriaeth o gyfnodau amser penodol ac yn mireinio’r ffordd rydyn ni’n mesur cyfnodau eraill.

Mae data'r prosiect ar gael mewn cronfa ddata agored sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Bellach, nod y consortiwm yw olrhain sut mae CO2 a'r hinsawdd wedi esblygu dros yr aeon Ffanerosöig ar ei hyd, o 540 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd y presennol  , i ddeall yn well y cysylltiadau rhwng yr hinsawdd ac esblygiad bywyd ar y Ddaear.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.