Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad yn rhybuddio bod dynoliaeth yn wynebu moment hollbwysig, wrth i ni weld cynnydd yn y siawns o fygythiadau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â throbwyntiau yn system y Ddaear

7 Chwefror 2024

A replica globe of planet Earth balances on the corner of a white pl
The Global Tipping Points Report is the most comprehensive assessment of tipping points ever conducted and was produced by an international team of more than 200 researchers

Yn ôl adroddiad newydd, mae cynnydd yn y siawns o fygythiadau sy’n gysylltiedig â throbwyntiau yn system y Ddaear – sy’n digwydd pan fydd newidiadau bach yn ysgogi, yn aml, drawsnewidiadau anwrthdroadwy a chyflym – yn golygu bod dynoliaeth ar drywydd trychinebus.

Ar sail asesiad o 26 o drobwyntiau negyddol yn system y Ddaear, mae’r adroddiad yn datgan nad yw ‘busnes fel arfer’ yn bosibl bellach – gyda newidiadau’n digwydd yn gyflym ym myd natur ac mewn cymdeithasau’n barod, a rhagor i ddod.

Cafodd yr Adroddiad ar Drobwyntiau Byd-eang, sef yr asesiad mwyaf cynhwysfawr o drobwyntiau a gynhaliwyd erioed, ei baratoi gan dîm rhyngwladol o fwy na 200 o ymchwilwyr, gan gynnwys arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd, a’i gydlynu gan Brifysgol Caerwysg mewn partneriaeth â Bezos Earth Fund.

Yn ôl yr awduron, mae’r broses llywodraethu byd-eang bresennol yn anaddas ar gyfer maint un o’r heriau, sef defnyddio llai a llai ar danwyddau ffosil a datblygu atebion di-garbon, ac maen nhw’n gwneud chwe argymhelliad ar gyfer newid cyfeiriad yn gyflym:

  • Lleihau allyriadau sy’n deillio o danwyddau ffosil a’r defnydd o dir nawr, gan gael gwared â nhw ymhell cyn 2050
  • Cryfhau prosesau addasu a llywodraethu ‘colled a difrod’, gan gydnabod yr anghydraddoldeb o fewn cenhedloedd a rhyngddyn nhw
  • Cynnwys trobwyntiau yn y Cyfrif Stoc Byd-eang, sef gwerthusiad y byd o sefyllfa’r hinsawdd, a’r cyfraniadau a bennwyd yn genedlaethol, sy’n mesur ymdrechion pob gwlad i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd
  • Cydlynu ymdrechion ym maes polisi i achosi trobwyntiau cadarnhaol
  • Galw uwchgynhadledd fyd-eang frys ar drobwyntiau
  • Galw am Adroddiad Arbennig ar drobwyntiau gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd er mwyn dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth, y mae’r tîm ymchwil yn ei gefnogi

Dywedodd yr Athro Caroline Lear, un o gyd-awduron yr adroddiad o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Yn ôl ein hymchwil, cafodd hyd yn oed newidiadau naturiol bach mewn crynodiadau nwyon tŷ gwydr effaith domino yn y gorffennol, gan newid rhannau gwahanol o’n planed, boed lefel y môr neu ecosystemau cyfan.

“Os na fyddwn ni’n cymryd camau gweithredu mwy sylweddol, rydyn ni’n disgwyl gweld effaith domino debyg, a hynny oherwydd bod llosgi tanwyddau ffosil yn achosi newidiadau llawer cyflymach mewn crynodiadau nwyon tŷ gwydr.”

Mae cynhesu byd-eang bellach ar y cwrs iawn i groesi’r trothwy o 1.5°C, ac mae’r adroddiad yn nodi bod hyn yn debygol o achosi o leiaf bum trobwynt yn system y Ddaear – gan gynnwys cwymp llenni iâ mawr a marwolaeth riffiau cwrel dŵr cynnes yn eang.

Wrth i nifer y trobwyntiau yn system y Ddaear luosi, mae yna risg y byddwn ni’n colli capasiti ledled y byd i dyfu’r prif gnydau, a fydd yn gatastroffig. Os na fyddwn ni’n gweithredu ar frys i stopio’r argyfwng hinsoddol ac ecolegol, bydd cymdeithasau’n cael eu llethu wrth i’r byd naturiol ymddatod – dyna yw rhybudd yr awduron.

Mae’r adroddiad hefyd yn trin a thrafod camau gweithredu amgen a brys yn fyd-eang a allai harneisio trobwyntiau cadarnhaol a llywio’r hynt i ddyfodol ffyniannus a chynaliadwy.

Mae’n disgrifio sut mae gwneud hyn ac yn dweud y gallai polisïau beiddgar a chydlynol achosi trobwyntiau cadarnhaol ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys y sectorau ynni, trafnidiaeth a bwyd.

Ychwanegodd yr Athro Lear: “Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys neges o obaith – gallai polisïau teg sy’n ystyriol o’r hinsawdd ddechrau cadwyn o ddigwyddiadau sy’n ein helpu i osgoi effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd wrth helpu cymdeithasau ar draws y blaned.”

Yn ôl yr awduron, byddai llu o drobwyntiau cadarnhaol yn achub miliynau o fywydau, yn achub biliynau o bobl rhag caledi, yn arbed triliynau o ddoleri mewn difrod sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd ac yn dechrau adfer y byd naturiol y mae pob un ohonon ni’n dibynnu arno.

Ychwanegodd Stephen Barker, un o gyd-awduron eraill yr adroddiad o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Nid yw pob trobwynt yn ddrwg. Gallai gwneud penderfyniadau doeth nawr ein rhoi ar ben ffordd.

“Er enghraifft, bydd creu strategaethau cenedlaethol ar gyfer cynhyrchu a storio ynni solar yn annog buddsoddi i wella capasiti ac, yn y pen draw, yn lleihau costau, gan arwain at fwy o ffynonellau o ynni adnewyddadwy.

“Allwn ni ddim aros i dechnolegau newydd ddod i’r amlwg ym maes menter breifat yn unig. Mae angen i ni ddeddfu, a hynny â rhagofal a chyfrifoldeb.”

Mae rhannau o’r Adroddiad ar Drobwyntiau Byd-eang wedi’u cyhoeddi mewn rhifyn arbennig o gyfnodolyn Earth System Dynamics.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.