Campws Arloesedd

Rydym yn adeiladu cyfleusterau o'r radd flaenaf er mwyn helpu i sbarduno arloesedd.
Mae'r Campws Arloesedd gwerth yn ymgorffori System Arloesedd Caerdydd – gweledigaeth rymus ar gyfer twf economaidd yng Nghymru. Mae'r Campws yn ehangu ein hôl-troed yng nghanol Caerdydd, ac yn trawsnewid hen iard rheilffordd segur yn lle ar gyfer cydweithio â byd diwydiant.
Bydd Campws Arloesedd Caerdydd (CIC) yn cynnig cyfleusterau arloesol fydd yn helpu ymchwilwyr, myfyrwyr a’r diwydiant i gydweithio er mwyn creu mentrau sy'n creu cynhyrchion, cwmnïau deillio, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol.
Adeilad Hadyn Ellis oedd y datblygiad cyntaf a gwblhawyd. Mae'n dwyn ynghyd, am y tro cyntaf erioed, arbenigwyr mewn cyflyrau fel sgitsoffrenia, clefyd Alzheimer ac ymchwil bôn-gelloedd canser. Ar ôl hynny, adeiladwyd Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd, un o gyfleusterau blaenllaw Ewrop ym maes ymchwil delweddu’r ymennydd.
Bydd y Campws newydd sbon ym Mharc Maendy yn cynnwys dau adeilad newydd sy'n gyrru arloesedd. sbarc fydd parc ymchwil y gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd a fydd hefyd yn cynnwys y Ganolfan Arloesedd - gofod creadigol ar gyfer dechrau busnes, cwmnïau deillio a phartneriaethau. Bydd y llall yn gartref i ddau sefydliad ymchwil gwyddonol blaenllaw - Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd.
Cyflwyno'r campws
Mae Prifysgol Caerdydd wedi dod ynghyd â Bouygues UK Limited, cwmni adeiladu blaenllaw sy'n hen law ar adfywio ardaloedd trefol, i greu'r adeiladau newydd.
Mae Bouygues UK wedi gweithio ar brosiectau tebyg, trawiadol, gan gynnwys adeiladu datblygiadau o bwys ym maes addysg uwch ar draws Cymru, y DU ac yn fyd-eang. Bydd y gwaith adeiladu’n helpu i greu swyddi ym maes rheoli adeiladwaith, swyddi technegol a masnachol, yn ogystal â phrentisiaethau ar gyfer llawer o bobl leol.
Ewch i flog y Cartref Arloesedd i gael diweddariadau rheolaidd am y gwaith adeiladu a straeon arloesedd o bob rhan o’r Brifysgol.
Cysylltwch
I gael gwybod rhagor am weithio gyda ni yn y Cartref Arloesedd neu unrhyw ymholiadau penodol am brosiect y campws, ebostiwch: