Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu ar leoliad

Physiotherapy student learning to apply techniques to a patient.
You will be expected to adhere to the professional appearance and uniform policy.

Byddwch chi’n gweithio mewn amgylcheddau sy’n adlewyrchu’r ymarfer ffisiotherapi sydd ohoni, fel ysbytai, meddygfeydd teulu, cartrefi cleifion, cartrefi gofal ac amgylcheddau chwaraeon proffesiynol.

Bydd cyfle i bob myfyriwr fynd ar leoliadau ym meysydd craidd ffisiotherapi h.y. cyhyrysgerbydol, niwrogyhyrol, cardioanadlol a chymuned,

Mae dysgu ar leoliad yn dechrau ym mis Chwefror neu Fawrth yr ail flwyddyn o dan oruchwyliaeth ffisiotherapydd cymwys, felly byddwch chi’n teimlo eich bod yn barod i drin cleifion.

Fodd bynnag, er y byddwch chi’n mwynhau’r profiad, yn aml gall lleoliadau clinigol fod yn brofiad corfforol, meddyliol ac emosiynol anodd. Mae staff clinigol ac academaidd yn cydweithio i gynorthwyo a chefnogi myfyrwyr gydag unrhyw heriau maent yn eu hwynebu.

Strwythur

HydMi fyddwch ar leoliad am 4 wythnos, fel arfer o 8.30yb i 16.30yh, dydd Llun i ddydd Gwener.
Nifer y myfyrwyrMewn rhai amgylchiadau efallai mai chi fydd yr unig fyfyriwr, ond yn yr ysbytai mwy efallai bydd grŵp bach o fyfyrwyr yn ymgymryd â gwahanol fathau o leoliadau.
LleoliadAmrywiaeth helaeth o amgylcheddau clinigol; mewn lleoliadau lle nad yw myfyrwyr yn gallu teithio i’r lleoliad ac oddi yno bob dydd gellir trefnu llety gan dîm clinigol y rhaglen..
Arddull addysguGall fod yn drafodaeth un i un gyda’r addysgwr clinigol, hyfforddiant yn y gwasanaeth gyda staff clinigol eraill, neu gall fod yn seiliedig ar sesiwn driniaeth.

Proffesiynoldeb ar eich lleoliad

Mae cyflwyniad proffesiynol yn hollbwysig er mwyn bodloni gofynion iechyd a diogelwch, rheoli heintiau cymaint â phosibl ac annog hyder y claf.

Bydd disgwyl i chi lynu at y polisi ymddangosiad a gwisg broffesiynol. Mae hyn yn cynnwys clymu gwallt hir yn ôl, cadw ewinedd yn fyr (heb farnis), peidio â gwisgo unrhyw beth islaw’r penelin, dim gemwaith (gan gynnwys tyllau yn y corff) a pharchu urddas myfyrwyr eraill ar bob adeg.

Ar eich lleoliad, byddwch yn cael eich asesu ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau clinigol yn ogystal â’r proffesiynoldeb (ymddangosiad, ac ymddygiad, tasgau rheoli sylfaenol, iechyd a diogelwch, agwedd a chyfathrebu).

Cyn i mi fynd ar fy lleoliad cyntaf ro’n i’n poeni dipyn gan fod y sefyllfa gyfan yn teimlo’n anghyfarwydd iawn ac ro’n i’n poeni y buaswn i’n teimlo allan o fy nyfnder. Ond ar ôl cwrdd â fy addysgwr clinigol, fe wnaeth hi dawelu fy meddwl i ar unwaith gan egluro beth oedd yn ofynnol ohona’ i ac y byddant i ddechrau yn rhoi cyfle i mi arsylwi am ychydig ddyddiau er mwyn rhoi syniad i mi o’u dull trin nhw. Mae fy wythnos gyntaf wedi bod yn brofiad anhygoel ac er nad ydw i erioed wedi teimlo mor flinedig, rydw i eisoes yn edrych ymlaen yn eiddgar am yr heriau a fydd yn fy wynebu’r wythnos nesaf!

Helen, BSc Ffisiotherapi, Ail Flwyddyn

Asesu

Mae’r rhaglen yn anelu at asesu yng nghyd-destun gofynion ffisiotherapydd cymwys.

Mae asesu myfyrwyr yn cynnwys amrywiaeth eang o dasgau, ac yn ymgorffori asesiadau ffurfiannol (yn bennaf i’ch helpu i ddatblygu) ac asesiadau crynodol (mae’r marciau yn cyfrannu at eich marc diwedd blwyddyn/dosbarth gradd).

Mae’r math o asesiad yn eang er mwyn cymryd i ystyriaeth gwahanol arddulliau dysgu, ond hefyd i bennu a oes gennych chi’r wybodaeth, yr agwedd a’r sgiliau angenrheidiol i ennill gradd mewn ffisiotherapi.

Cynhelir pob asesiad drwy gydol y flwyddyn academaidd ar adegau strategol er mwyn osgoi llwyth asesu trwm ar ddiwedd bob blwyddyn academaidd, ond hefyd er mwyn i fyfyrwyr gael adborth ar un asesiad a dysgu o hwnnw cyn symud ymlaen i’r nesaf. Caiff gweithgareddau dysgu ac addysgu eu cynllunio’n benodol er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer asesu.

Gall myfyrwyr sydd ag anabledd neu ddyslecsia gael cymorth ar gyfer eu dysgu, addysgu ac asesu.