Ewch i’r prif gynnwys

Asesu myfyrwyr ffisiotherapi

Physiotherapist works with patient on cardiorespiratory equipment
Optimeiddio iechyd trwy weithgarwch, ffyrdd o fyw a thechnoleg

Mae’r rhaglen yn anelu at asesu yng nghyd-destun gofynion ffisiotherapydd cymwys.

Mae asesu myfyrwyr yn cynnwys amrywiaeth eang o dasgau, ac yn ymgorffori asesiadau ffurfiannol (yn bennaf i’ch helpu i ddatblygu) ac asesiadau crynodol (mae’r marciau yn cyfrannu at eich marc diwedd blwyddyn/dosbarth gradd).

Mae’r math o asesiad yn eang er mwyn cymryd i ystyriaeth gwahanol arddulliau dysgu, ond hefyd i bennu a oes gennych chi’r wybodaeth, yr agwedd a’r sgiliau angenrheidiol i ennill gradd mewn ffisiotherapi.

Cynhelir pob asesiad drwy gydol y flwyddyn academaidd ar adegau strategol er mwyn osgoi llwyth asesu trwm ar ddiwedd bob blwyddyn academaidd, ond hefyd er mwyn i fyfyrwyr gael adborth ar un asesiad a dysgu o hwnnw cyn symud ymlaen i’r nesaf. Caiff gweithgareddau dysgu ac addysgu eu cynllunio’n benodol er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer asesu.

Gall myfyrwyr sydd ag anabledd neu ddyslecsia gael cymorth ar gyfer eu dysgu, addysgu ac asesu.