Wales Centre For Evidence Based Care
Hyrwyddo arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy ddatblygu a gwerthuso systemau sy'n rhagorol yn rhyngwladol ar gyfer arfarnu tystiolaeth, cyfieithu a defnyddio.

Mae Canolfan Gofal seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC) yn Ganolfan Ragoriaeth JBI.
Nod y Ganolfan yw cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i weithredu arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a darparu'r gofal gorau posibl i gleifion drwy becynnau hyfforddi.
Ym mis Ebrill 2021 fe'n comisiynwyd gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru i gynhyrchu adolygiadau cyflym yn ateb cwestiynau'n ymwneud â gofal iechyd a ddarparwyd gan randdeiliaid yn ymwneud â Covid-19. Y tîm craidd ar gyfer y prosiect hwn yw Dr Judith Carrier, Deborah Edwards, Dr Judit Csontos a Liz Gillen.
Gallwch lawrlwytho a gweld yr adroddiadau yr ydym wedi'u cyhoeddi yma.
Cyflwynwyd y gwaith hwn yn sesiynau briffio Llywodraeth Cymru ac yn Symposiwm cyntaf Tystiolaeth ar Waith WCEC.
Cysylltwch â Chyd-Gyfarwyddwyr

Dr Clare Bennett
Darllenydd: Cyfieithu Gwybodaeth a Gwella Iechyd
- bennettcl3@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 225 10818