Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd byd-eang ym maes gofal iechyd

Mae astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor fel rhan o’ch profiad yn y brifysgol yn ffordd wych o ehangu’ch profiad academaidd, o ymgolli mewn diwylliant arall ac o ddysgu sgiliau y gallai cyflogwyr eu gwerthfawrogi.

Mae gennym gysylltiadau â sefydliadau eraill a gallwn gynnig cyfle i gael lleoliad gofal iechyd dramor neu groesawu myfyrwyr gofal iechyd rhyngwladol o wahanol rannau o’r byd.

Darllenwch ein straeon o bedwar ban y byd:

Croesawu myfyrwyr o dramor

Mae gennym gysylltiadau â sefydliadau eraill ac rydym yn croesawu myfyrwyr gofal iechyd rhyngwladol o bob cwr o'r byd.

Ein myfyrwyr ar draws y byd

Bydd profiad rhyngwladol yn gwella eich CV a hefyd yn cynnig sgiliau gwerthfawr i chi. Yn anad dim, mae'n ddechrau ar antur newydd.

Cysylltu â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Denise Davies

Swyddog Cefnogi Rhyngwladol ac Ymgysylltu