Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Cymru ar gyfer Gofal sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth: Canolfan Rhagoriaeth JBI

Mae JBI yn sefydliad byd-eang sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi penderfyniadau a wneir yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n gwella iechyd a darpariaeth gwasanaethau iechyd.

Rydym yn hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy ddatblygu a gwerthuso systemau rhyngwladol rhagorol ar gyfer arfarnu, cyfieithu a defnyddio tystiolaeth.

Fel Endid Cydweithredu'r JBI, mae gennym ymagwedd gynhwysol at dystiolaeth er mwyn cynhyrchu canllawiau clinigol "byd go iawn" y gellir eu defnyddio.

Rydym yn cynnig ymgynghoriaeth ac arweiniad ar gynhyrchu adolygiadau systematig a phrosiectau gweithredu gan ddefnyddio offer gwerthuso, gweithredu a rheoli JBI.

Mae'r rhain wedi'u cynllunio'n benodol i gynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i weithredu ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a darparu'r gofal gorau posibl i gleifion. Gallwn ddarparu rhaglen hyfforddi undydd bwrpasol, ar gyfer o leiaf chwe chynadleddwr, 'Cyfieithu tystiolaeth i Ymarfer', y gellir ei chyflwyno yn eich gweithle.

Cydweithio

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r sefydliadau canlynol:

Cwrdd â'r tîm

Staff academaidd

Cwestiynau

Cysylltwch â Deborah Edwards gydag unrhyw gwestiynau.

Y cyfleoedd hyfforddiant rydym yn eu cynnig

Rhaglen Hyfforddiant JBI ar gyfer Gweithredu Tystiolaeth

Mae Rhaglen Hyfforddiant JBI ar gyfer Gweithredu Tystiolaeth yn cyflwyno dulliau profedig i glinigwyr, rheolwyr, llunwyr polisïau a rheolwyr ansawdd ym maes gofal iechyd, o roi tystiolaeth ar waith yn eu hymarfer. Gellir cyflwyno’r hyfforddiant mewn modd sydd wedi’i lunio’n bwrpasol ar eich cyfer, ac yn ystod y rhaglen bydd cyfranogwyr yn:

  • datblygu eu sgiliau a’u cryfderau o ran arweinyddiaeth glinigol ymhellach
  • cynnal archwiliadau clinigol ac yn ymgymryd â phrosesau gwella ansawdd
  • ymgyfarwyddo â fframweithiau a meddalwedd i roi ymchwil a thystiolaeth glinigol ar waith yn ymarferol
  • datblygu a gweithredu strategaethau i roi ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar waith yn eu hamgylchedd gwaith eu hunain.

Dyddiad: Ar gais
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd (rhithwir)
Pris: I’w gadarnhau

Gweithdy JBI ar gyfer Arweinyddiaeth Glinigol

Mae'r Gweithdy Arweinyddiaeth Glinigol yn weithdy undydd deinamig a rhyngweithiol sy'n seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ynghylch arweinyddiaeth glinigol. Mae’r gweithdy trawsnewidiol hwn gan JBI yn agored i arweinwyr clinigol a darpar arweinwyr o bob disgyblaeth gofal iechyd. Mae’n cyflwyno gwybodaeth a thechnegau ymarferol i weithwyr gofal iechyd, er mwyn meithrin diwylliant mwy cadarnhaol, personol a phroffesiynol yn y gweithle.

Lleoliad: Prifysgol Caerdydd
Pris: £230

Rhaglen Hyfforddiant JBI ar gyfer Adolygu Systematig Cynhwysfawr (CSR)

Mae Rhaglen Hyfforddiant JBI ar gyfer Adolygu Systematig Cynhwysfawr (CSR) wedi'i chynllunio i baratoi ymchwilwyr a chlinigwyr i ddatblygu a chynnal adolygiadau systematig cynhwysfawr o dystiolaeth ansoddol a meintiol, a chreu adroddiadau yn eu cylch, gan ddilyn dull JBI.

Dyddiadau:

Modiwl 1 (Cyflwyniad i adolygiadau systematig): 10 Mehefin 2024
Modiwl 2 (Synthesis o dystiolaeth feintiol): 11-14 Mehefin 2024
Modiwl 3 (Synthesis o dystiolaeth feintiol): 17-18 Mehefin 2024

Pris: £1045
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd (Rhithwir)

Gweithdy JBI ar gyfer Creu Adolygiadau Cwmpasu

Mae'r gweithdy undydd hwn yn galluogi cyfranogwyr i archwilio'r damcaniaethau a'r cysyniadau sy'n ymwneud a chreu adolygiadau cwmpasu a mathau eraill o synthesisau o dystiolaeth, ac mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth a'r offer y bydd cyfranogwyr eu hangen ar gyfer cynllunio a chynnal adolygiadau cwmpasu llwyddiannus yn dilyn y dull JBI.

Dyddiad: 24 Medi 2024
Pris: £240
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd (Rhithwir)

Adnoddau

WCEBC Centre Report 2022

WCEBC Centre Report 2022

Ysgolion

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Rydym yn ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.