Seminarau'r Ysgol
Rydyn ni’n cynnal seminarau rheolaidd yn yr Ysgol i drafod ystod eang o bynciau ymchwil cyffrous sy'n ysgogi'r meddwl.
Ymhlith y siaradwyr mae aelodau o’r staff a siaradwyr gwadd. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i un o'n seminarau, ebostiwch enginresearch@caerdydd.ac.uk. Dylech nodi dyddiad a theitl y digwyddiad ac esbonio pam mae o ddiddordeb i chi.
Dyddiad | Digwyddiad | Siaradwr gwadd | Pwnc |
---|---|---|---|
11 Hydref 2023 11:00 | Peirianneg Sero Net | Yr Athro Meysam Qadrdan | Peirianneg Sero Net (MSc) ym Mhrifysgol Caerdydd Agor i myfyrwyr rhyngwladol a chartref |
26 Ebrill 2023 | Cyfres o Seminarau Ymchwil ENGIN 2023 | Yr Athro Cathy Holt Ysgol Peirianneg y Brifysgol | Profiad gyda phanel adolygu REF2021 UoA 12 Dolen Panopto |
19 Ebrill 2023 | Cyfres o Seminarau Ymchwil ENGIN 2023 | Yr Athro Philip Bowen Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd | REF: gofynion ar gyfer effaith Dolen Panopto |
30 Mawrth 2023, 11:00 i 13:00 | Canolfan Ymchwilio i Ynni, Gwastraff a'r Amgylchedd | Yr Athro Yi-Bing Cheng, Labordy Foshan Xianhu, Dinas Foshan, Talaith Guangdong, Tsieina Yr Athro Agustin Valera-Medina, Canolfan Rhagoriaeth Peirianneg Amonia, Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd, y DU | Seminar ar Raglenni Ynni Amonia |
28 Mawrth 2023 11:00 tan 12:00 | Cyfres o Seminarau Ymchwil ENGIN 2023 | Yr Athro Caroline Lear Athro Gwyddorau’r Ddaear, Cyfarwyddwr Ymchwil, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd | Y profiad yn sgîl panel adolygu Uned Asesu 7 REF2021 Dolen Panopto |
22 Mawrth | Cyfres o Seminarau Ymchwil ENGIN 2023 | Mrs Jennifer Hulin, Jennifer Hulin, Uwch-gynghorydd Cynllunio, Prifysgol Caerdydd | Cyflwyniad i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil Dolen Panopto |
9 Mawrth 2023: 12:00 tan 13:00 | Y Grŵp Gweithgynhyrchu Gwerth Mawr (HVM) | Dr Lucas Hof, PhD, École de technologie supérieure, Université du Québec, Canada | Tuag at broses gweithgynhyrchu cylchol ddeallus: Gweithgynhyrchu Cylchol 4.0 |
22 Chwefror 2023, 15:30 tan 16:30 | Y Grŵp Gweithgynhyrchu Gwerth Mawr (HVM) | Dr Carolina Guerra Figueroa, Universidad Católica de Chile, Chile | Manteision cynhyrchu deunyddiau â nodweddion clyfar yn sgil gweithgynhyrchu adiol |
22 Chwefror 2023, 10:30 | Y Ganolfan Ymchwil Hydroamgylcheddol (HRC) | Yr Athro Songdong Shao, Prifysgol Technoleg Dongguan, Tsieina | Datblygu meddalwedd peirianneg i’w defnyddio ym myd diwydiant |
15 Chwefror 2023, 13:00 | Y Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel (CHFE) | Dr Jung Han Choi, Sefydliad Fraunhofer (Sefydliad Heinrich-Hertz), Berlin, yr Almaen | Ymchwil ddiweddar ym maes amledd radio cyflym at ddibenion cyfathrebu optegol yn Sefydliad Heinrich-Hertz Sefydliad Fraunhofer |
1 Chwefror 2023, 13:00 | Y Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel (CHFE) | Yr Athro Michela Meo, Politecnico di Torino, yr Eidal | Heriau cynaliadwyedd rhwydweithiau mynediad drwy radio |
16 Tachwedd 2022, 12:00 tan 13:00 | Y Ganolfan Ymchwil Geo-amgylcheddol (GRC) | Yr Athro Rao Martand Singh, Adran Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol NTNU, Norwy | Sylfeini pyst geothermol i wresogi ac oeri adeiladau |
2 Tachwedd 2022, 15:00 tan 16:00 | Roboteg a Pheiriannau Deallus Ymreolaethol (RAIM) | Dr Yuanchang Liu (Coleg Prifysgol Llundain) | Ymreolaeth uwch robotiaid morol |
19 Hydref 2022 | Y Ganolfan Ymchwil Geo-amgylcheddol (GRC) | Joanne Kwan, Uwch-reolwr Ymchwil, CIRIA | Digwyddiadau tywydd eithafol a thir halogedig – heriau’r presennol a’r dyfodol |
28 Medi 2022 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Md Atiqur Rahman Ahad, SMIEEE, SMOPTICA | Deall Gweithgarwch yn seiliedig ar Olwg a Synwyryddion: Rhai Safbwyntiau o ran Gofal Iechyd |
10 Awst 2022 | Y Ganolfan Ymchwil Geo-amgylcheddol (GRC) | Yr Athro Deyi Hou Ysgol yr Amgylchedd Prifysgol Tsinghua, Tsieina | Adfer pridd wedi’i halogi mewn ffordd gynaliadwy: Y gorffennol, y presennol a’r dyfodol |
13 Gorffennaf 2022 | Triboleg a Pherfformiad Peiriannau, Strwythurau a Deunyddiau (TPMSM) | Dr Riccardo Maddalena, Prifysgol Caerdydd | Dyfodol deunyddiau adeiladu: gwydnwch a chynaliadwyedd |
6 Gorffennaf 2022 | Y Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel (CHFE) | Yr Athro Kangwoo Cho, Is-adran Gwyddorau’r Amgylchedd a Pheirianneg, Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Pohang (POSTECH) | Electrocemeg amgylcheddol i drin dŵr a chynaeafu ynni |
24 Mehefin 2022 | Strwythurau Gwydn a Deunyddiau Adeiladu (RESCOM) | Yr Athro Tomoya Nishiwaki a Tomoya Asakawa | Argraffu 3D a sbectrosgopeg THz concrid @ Prifysgol Tohoku |
16 Mehefin 2022 | Y Ganolfan Ymchwil Hydroamgylcheddol (HRC) | Clay Walden a Daniel Carruth, Prifysgol Talaith Mississippi, UDA | Ymchwil ymreolaeth oddi ar y ffordd yng Nghanolfan Uwch-systemau Cerbydol Prifysgol Talaith Mississippi |
16 Mehefin 2022 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Yr Athro Ah-Hwee Tan, Athro Cyfrifiadureg, Prifysgol Rheolaeth Singapore | Cyfrifiadura gwybyddol: Damcaniaethau, modelau a chymwysiadau |
15 Mehefin 2022 | Triboleg a Pherfformiad Peiriannau, Strwythurau a Deunyddiau (TPMSM) | Yr Athro Gao Min, Magneteg a Deunyddiau, Ysgol Peirianneg Caerdydd | Datblygu deunyddiau thermodrydanol perfformiad uchel i gasglu ynni thermol |
15 Mehefin 2022 | Y Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel (CHFE) | Dr Jin Li, Canolfan Peirianneg Amledd Uchel, Ysgol Peirianneg Caerdydd | Datblygu celloedd synthetig yn facromoleciwlaidd gan ddefnyddio platfform microhylifol integredig |
9 Mehefin 2022 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Yr Athro George Huang, Athro Peirianneg Ddiwydiannol a Systemau, Prifysgol Hong Kong | Y Rhyngrwyd seiber-ffisegol (CPI) ym maes logisteg cynnyrch a weithgynhyrchir |
7 Mehefin 2022 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Dr Rob Deaves, Pensaer Systemau Robotig, Dyson UK | Dyfodol Roboteg Ymreolaethol |
18 Mai 2022 | Triboleg a Pherfformiad Peiriannau, Strwythurau a Deunyddiau (TPMSM) | Dr Samuel Bigot, Pensaer Systemau Robotig, Dyson UK | Dysgu Peirianyddol ac Uwch-weithgynhyrchu – Safbwynt Personol |
4 Mai 2022 | Triboleg a Pherfformiad Peiriannau, Strwythurau a Deunyddiau (TPMSM) | Dr Peter Theobald, MedEng, Ysgol Peirianneg Caerdydd | Tuag at broses gweithgynhyrchu adiol aml-ffisegol |
20 Ebrill 2022 | Triboleg a Pherfformiad Peiriannau, Strwythurau a Deunyddiau (TPMSM) | Adriana a Johanna, Ysgol Peirianneg Julio Garavito, Colombia | Gwerthuso effaith ychwanegu haearn ocsid at aloi Al-Mg-Si o ran microstrwythur a chaledwch: cyfansawdd alwminiwm-haearn ocsid newydd gan ddefnyddio sgil-gynnyrch diwydiannol |
13 Ebrill 2022 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Reda Mansy, Prifysgol Caerdydd, Cyfrifiadureg | Rhyngweithio rhwng pobl a robotiaid: Llyfrgelloedd ym maes canfod bodau dynol ac adnabod gwrthrychau |
8 Mehefin 2022 | Cyfres Seminarau Ymchwil ENGIN | Cymrawd Ymchwil yr Academi Beirianneg Frenhinol-Sêr Cymru Canolfan Ymchwil Hydroamgylcheddol, Prifysgol Caerdydd, y DU | Sut mae boncyffion mewn afonydd yn arafu'r llif? Rhagweld sut y bydd boncyffion yn codi lefel merddyfroedd i fyny’r afon ac yn newid llif yr afon Dolen Panopto |
9 Mawrth 2022 | Cyfres Seminarau Ymchwil ENGIN | Yr Athro David Wallis, Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd | Galiwm nitrad: Lled-ddargludydd gwyrdd |
9 Chwefror 2022 | Cyfres Seminarau Ymchwil ENGIN | Dr Lorenzo Morini, Grŵp Ymchwil Mecaneg Gymhwysol a Chyfrifiadurol, Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd | Rheoli dirgryniadau a hidlo tonnau drwy ddefnyddio strwythurau ffonig lled-grisialaidd Dolen Panopto |
12 Ionawr 2022 | Cyfres Seminarau Ymchwil ENGIN | Dr Daniel Zabek, Grŵp Ymchwil Magneteg a Deunyddiau, Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd | Hylifau a deunyddiau fferodrydanol a fferofagnetig Dolen Panopto |
8 Rhagfyr 2021 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Dr Abdullah Alhusin Alkhdur, Prifysgol Caerdydd | Defnyddio signalau’r ymennydd mewn electroenseffalogram (EEG) i hwyluso’r broses o gyfosod rhwng pobl a robotiaid |
17 Tachwedd 2021 | Cyfres Seminarau Ymchwil ENGIN | Dr Ameya Rege, Sefydliad Ymchwil ar Ddeunyddiau, Canolfan Awyrofod yr Almaen, Cologne | Modelu deunyddiau mandyllog nanostrwythuredig yn gyfrifiadurol drwy ddefnyddio dull aml-raddfa Dolen Panopto |
21 Gorffennaf 2021 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Dr Ze Ji, Prifysgol Caerdydd | Dysgu a synhwyro gweithredol gan robotiaid |
7 Gorffennaf 2021 | Y Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel (CHFE) | Dr Tommaso Cappello, Prifysgol Bryste | Gwella'r cyfaddawd o ran llinoledd-effeithlonrwydd ym maes is-systemau amledd radio |
23 Mehefin 2021 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Dr Emmanuel Senft, Prifysgol Wisconsin-Madison | Dylunio technolegau robotig at ddibenion rhyngweithio’n naturiol â bodau dynol |
16 Mehefin 2021 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Yr Athro Daniel Polani, Prifysgol Swydd Hertford | Grymuso: Thema ac amrywiadau |
9 Mehefin 2021 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Dr Jos Elfring, TomTom | Mapio, lleoleiddio, a modelu'r byd ym maes gyrru awtomataidd |
2 Mehefin 2021 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Dr Cristian Vergara, KU Leuven | Chorrobot: Gweithrediadau heriol gan ddefnyddio dulliau rheoli robotig ymatebol |
2 Mehefin 2021 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Dr Ziad Salem, Joanneum Research | I4RC (goleuo ym maes rheoli robotig): Potensial cyfathrebu, lleoli a synhwyro â golau gweladwy ym maes roboteg |
26 Mai 2021 | Y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dynol-Beiriannol (IROHMS) | Dr Tom Carlson, Coleg Prifysgol Llundain | Rheolaeth a rennir ar gyfer roboteg gynorthwyol a rhyngwynebau peiriant-ymennydd |
12 Mai 2021 | Dr Juan D Hernández Vega, Ysgol Peirianneg Caerdydd | Cynllunio mudiant yn achos systemau ymreolaethol amlbwrpas | |
11 Mai 2021 | Grŵp Strwythurau Waliau Tenau (TWS) Prifysgol Caerdydd | Dr Bing Zhang, Sefydliad Cyfansoddion Bryste (ACCIS) | Atal a rhagfynegi pryd y bydd deunyddiau cyfansawdd yn dilaminadu |
5 Mai 2021 | Y Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel (CHFE) | Yr Athro George Dimitrakis, Adran Peirianneg Gemegol ac Amgylcheddol, Prifysgol Nottingham | Sbectrosgopeg ddeuelectrig; adnodd addas i fonitro ac optimeiddio prosesau |