Tîm Rasio Caerdydd
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Bob blwyddyn, mae tîm Rasio Caerdydd yn dylunio, yn profi ac yn adeiladu car i rasio yng nghystadleuaeth Formula Student yn Silverstone.
Mae'r tîm yn cynnwys myfyrwyr o bob un o'n disgyblaethau peirianneg a'n blynyddoedd, yn ogystal â myfyrwyr ar gyrsiau eraill, fel newyddiaduraeth a chyfrifiadureg.
Mae myfyrwyr, Jordan ac Ellie, yn rhan o Dîm Rasio Caerdydd. Ymunodd Ellie yn ei blwyddyn gyntaf ac yn ddiweddarach daeth yn Arweinydd Tîm Gwirfoddoli.
“Mae rôl i bawb yn Rasio Caerdydd ac rydym yn annog aelodau’r tîm i weithio yn ôl eu cryfderau a’u diddordebau. Mae gan y tîm fyfyrwyr o'r flwyddyn gyntaf i'r flwyddyn olaf gyda lefelau amrywiol o ymrwymiad a gwybodaeth dechnegol.”
Ymunodd Jordan â'r tîm yn ei flwyddyn gyntaf a dechrau cymryd rhan go iawn yn ystod modiwl prosiect yn y drydedd flwyddyn lle edrychodd ar optimeiddio’r car o safbwynt aerodynamig.
“Mae ymuno â’r tîm yn gyfle i fod yn ymarferol â phrosiectau peirianneg fecanyddol. Ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf, mae mor ddefnyddiol cael cyfle i drafod â myfyrwyr sydd wedi gwneud eich cwrs cyfan yn barod ac sy'n gallu rhoi rhywfaint o gyngor i chi ar eich gwaith a beth sydd i ddod ar y cwrs.”
Datblygu sgiliau i'ch helpu chi i fod yn unigryw yn y farchnad swyddi
Mae myfyrwyr peirianneg fecanyddol yn dechrau gweithio ar ddyluniad y car yn eu trydedd flwyddyn fel rhan o'r modiwl Dylunio Modurol, lle maen nhw'n defnyddio meddalwedd dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) i ddatblygu modelau 3D o'r car rasio.
Mae'r tîm o wirfoddolwyr yn adeiladu ac yn profi'r car wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth ac yn arwain strategaethau marchnata, y cyfryngau a rheoli’r tîm. Gall myfyrwyr ymuno â'r tîm fel gwirfoddolwyr ar unrhyw adeg yn ystod eu cwrs ac ymrwymo cymaint o amser ag y gallant.
Mae'r prosiect yn ymdrech ar y cyd rhwng y tîm dylunio a'r tîm gwirfoddol.
Rôl Ellie fel Arweinydd Tîm Gwirfoddol yw sicrhau bod y sesiynau adeiladu yn unol â'r amserlen a helpu gydag unrhyw faterion a allai ohirio cynnydd y tîm.
“Rydw i wedi dysgu cymaint o sgiliau – o arferion gweithio diogel, datrys problemau a gwaith ymarferol i reoli tîm, fel dysgu sut i reoli pobl a datrys gwrthdaro. Dysgais hefyd sgiliau trydanol na fyddwn wedi eu datblygu pe na bawn i'n rhan o'r tîm – eleni fe wnes i wifro mwyafrif y car!”
Mae Jordan wedi cefnogi Ellie i reoli'r tîm gwirfoddol ac roedd hefyd yn un o'r gyrwyr yn Silverstone.
“Mae bod yn rhan o’r tîm wedi helpu i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu a rheoli tîm. Ceir llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’ch gwybodaeth beirianyddol a datblygu sgiliau ymarferol nad ydyn nhw'n cael sylw ar y cyrsiau.
Cwblheais leoliad gwaith yn Nissan y llynedd ac rwy'n bwriadu gweithio mewn rôl debyg pan fyddaf yn graddio. Mae Rasio Caerdydd a Formula Student yn uchel eu parch wrth wneud cais am leoliadau a rolau i raddedigion.”
Cystadleuaeth Formula Student
Mae Rasio Caerdydd yn rhoi cyfle gwych i fyfyrwyr roi eu hunain ar brawf trwy gystadlu yn erbyn rhai o'r myfyrwyr peirianneg gorau o bob cwr o'r byd yn y digwyddiad Formula Student.
Yn ystod y gystadleuaeth, rhaid i'r car gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau statig a deinamig, gan brofi diogelwch, cyflymder, cyflymiad a chydbwysedd ceir. Rhaid i'r tîm hefyd gyflwyno achos busnes hyfyw i banel o feirniaid, sy'n ymdrin â dyluniad, cost a chynaliadwyedd y car. Nid y tîm sydd â’r car cyflymaf yn unig sy’n ennill y gystadleuaeth; y tîm sydd â'r pecyn cyffredinol gorau o adeiladu, perfformio a chynllunio busnes sy’n cyrraedd y brig.
Tîm Rasio Caerdydd oedd enillydd cyntaf y DU yn y digwyddiad Formula Student yn 2017. Yn 2021, enillodd y tîm y wobr gyntaf yn y digwyddiad cyflymu a dod yn ail yn y digwyddiad pad sgidio, gan orffen yn y pedwerydd safle yn gyffredinol yn y gystadleuaeth.
“Mae yna fwrlwm gwych yn Silverstone ar ddiwrnod y ras. Gweld y car yn rhedeg am y tro cyntaf a sylweddoli mai ‘ni wnaeth adeiladu hwnnw’ yw'r teimlad gorau.”
Cewch ragor o wybodaeth am Rasio Caerdydd ar eu gwefan a dilynwch eu sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddariadau tîm diweddaraf @cardiffacing ar Instagram, TikTok, Twitter a LinkedIn.