Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth Aber Hafren

Gwylio fideo am Bartneriaeth Aber Hafren

Sefydlwyd Partneriaeth Aber Afon Hafren yn 1995, ac mae'n fenter annibynnol ar hyd yr aber, nad yw’n statudol, dan arweiniad awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol. Rydym ni'n gweithio gyda phawb sy'n ymwneud â rheoli’r aber, o gynllunwyr i awdurdodau porthladdoedd, pysgotwyr, ffermwyr a llawer yn rhagor sydd â diddordeb yn nyfodol yr aber.

Mae ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith allgymorth yn rhan ganolog o'r Bartneriaeth. Gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, lansiodd y Bartneriaeth Darganfod Aber Hafren ym mis Gorffennaf 2018.

Darganfod Afon Hafren

Prosiect cymunedol yw hwn a'i nod yw cysylltu – neu ailgysylltu – cymunedau arfordirol ag arfordir aber afon Hafren er mwyn hyrwyddo ffyrdd mwy iachus o fyw, gwell mynediad at natur ac addysg sy’n seiliedig ar natur, a lles personol. Lleolwyd y prosiect mewn tair cymuned yn ne Cymru:

  • Castleland yn y Barri
  • Grangetown yng Nghaerdydd
  • Pilgwenlli yng Nghasnewydd.

Ceir digonedd o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden ar hyd aber afon Hafren, o chwaraeon dŵr i deithiau cerdded hanes, chwilio pyllau glan môr i dynnu ffotograffau o’r dirwedd. Nod Darganfod Afon Hafren oedd hyrwyddo mynediad a hamdden ar hyd Aber Afon Hafren mewn sawl ffordd.

Daeth y prosiect i ben ym mis Rhagfyr 2019, ond mae'r holl weithgareddau a gynhyrchwyd drwy gydol Darganfod Afon Hafren i'w gweld ar y wefan.

Arfordir a Môr Di-sbwriel Gwlad yr Haf

Mae Arfordir a Môr Di-sbwriel Gwlad yr Haf yn ymgyrch cymunedol sy’n cael ei ariannu gan Dŵr Wessex i ddiogelu ansawdd dŵr nofio a lleihau sbwriel ar y traeth a'r môr ar hyd arfordir Aber Hafren drwy annog a grymuso unigolion, cymunedau lleol, busnesau ac ysgolion i wneud penderfyniadau gwybodus sy'n lleihau effaith amgylcheddol.

Mae LFCSS wedi datblygu nifer o ymgyrchoedd a phrosiectau cymunedol i fynd i'r afael â'r materion hyn:

Digwyddiadau

Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal ein digwyddiad Glanhad Gwanwyn Aber Hafren rhwng 2 a 10 Ebrill 2022. Gan ymuno â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol Cadwch Cymru’n Daclus a Chadwch Prydain yn Daclus a’i hymgyrchoedd cenedlaethol, rydym yn galw ar bob grŵp casglu sbwriel, unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau i ymuno â ni i leihau llif sbwriel i'n moroedd.

Yn 2018 a 2019, buom yn cydweithio ag ystod enfawr o lanhawyr traeth o amgylch Aber Hafren i nodi'r digwyddiad blynyddol a gwnaethom lwyddo i gofnodi dros 1000 o oriau glanhau traeth gwirfoddol yn ystod 31 o ddigwyddiadau glanhau traethau o amgylch yr aber. Eleni byddem wrth ein bodd yn gwneud yr un peth, gyda'r gobaith o ysbrydoli hyd yn oed mwy o drigolion, ymwelwyr a busnesau i ymuno â ni wrth i ni weithio ar y cyd i #SpruceUpTheSevern!

Rydym yn awyddus i dynnu sylw nid yn unig at y gwaith sy'n mynd i mewn i lanhau ein harfordir, ond hefyd y gwaith sy'n mynd i mewn i lanhau ein strydoedd ac afonydd mewndirol o amgylch ardal Aber Hafren.

Os hoffech chi ymuno â digwyddiad glanhau, cofrestrwch eich grŵp casglu sbwriel ar gyfer y digwyddiad, neu os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy e-bost yn severn@caerdydd.ac.uk, neu drwy ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol @SevernEstuary.

Prosiectau

  • Cynllun Gwobrau Busnes - Cynllun achredu gwirfoddol i fusnesau sy'n archwilio amrywiol agweddau ar fusnesau lleol gyda golwg ar leihau eu heffaith ar yr amgylchedd arfordirol.
  • Cynghrair Llysgenhadon Arfordirol Ysgolion - Cynllun achredu gwirfoddol i ysgolion, gan weithio gydag ysgolion lleol i wneud newidiadau er budd natur leol, cyrsiau dŵr ac amgylcheddau arfordirol.

Ymgyrchoedd

  • 'Don’t Feed the Locals' – ymgyrch i annog unigolion i beidio â bwydo'r gwylanod gan fod eu carthion yn gallu effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi.
  • #OnlyRainDowntheDrain - annog pobl i beidio â gwaredu dim i lawr draeniau dŵr storm a all arwain yn uniongyrchol at afonydd a llynnoedd, gan gyrraedd y môr yn y pen draw.
  • Fats Oils and Greases – ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o effaith arllwys brasterau, olew neu saim i lawr y sinc a all arwain at 'fatberg', rhwystrau ac yn y pen draw ddigwyddiadau llygru.
  • Baw Cŵn – annog pobl i godi a bagio eu baw cŵn a'i waredu'n briodol.
  • #BinYourButt – ymgyrch i annog unigolion i waredu eu stympiau sigarét yn gyfrifol.
  • #KeepItClean – ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i annog unigolion i gadw eu traeth lleol yn lân a mynd â'u sbwriel adref.
  • #BringYourBeachHome – ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i gadw cysylltiad pobl gyda'u traethau lleol a mannau glas drwy gyfnod clo COVID-19.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am ein digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol, cysylltwch â:

Tîm Ymgysylltu Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd