Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau Trosglwyddo Ynni CMT

Mae ein Hysgol yn cyfrannu at Ganolfan y DU ar gyfer Hyfforddiant Gradd Meistr mewn Trosglwyddo Ynni (CMT). Cydweithrediad yw hwn sy'n hyrwyddo mynediad at adnoddau addysgu rhagorol prifysgolion yn y DU sydd â hanes cryf ym meysydd geowyddoniaeth a pheirianneg sy'n gysylltiedig ag ynni.

hydrothermal vents

Nod y CMT yw rhannu'r adnoddau a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar y genhedlaeth nesaf o geowyddonwyr a pheirianwyr. Dyma’r genhedlaeth fydd yn wynebu'r heriau dybryd a rhyng-gysylltiedig o liniaru allyriadau, darparu ynni cynaliadwy, cynnal mynediad at adnoddau naturiol, a diogelu'r amgylchedd.

Heriau o’r fath sydd wrth wraidd gwyddor y ddaear ac maent yn cael sylw yn ein hystod o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig amrywiol. Eu nod yw paratoi myfyrwyr ar gyfer yr heriau unigryw ac arwyddocaol y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Seminarau wedi'u recordio

Ailddefnyddio Cymhlygion Awyru Hydrothermol ar gyfer Llif Hylif â Ffocws

Mae Dr Tiago Alves yn trafod ailddefnyddio systemau awyru hydrothermol ar ymylon cyfandirol a'u pwysigrwydd economaidd.

Gwyliwch seminar ar Ailddefnyddio Cymhlygion Awyru Hydrothermol ar gyfer Llif Hylif â Ffocws

Arwyddocâd Systemau Pwysedd a Llithro

Mae Dr Lucy Lu yn cyflwyno canlyniadau newydd ar gyfundrefnau ymgripiad tectonig a’r rôl sydd ganddynt mewn anffurfio cyfandirol-lithosffer.

Gwyliwch seminar ar Arwyddocâd Systemau Pwysedd a Llithro

Haenu mewn Ymwthiadau Cefnforol Cyfandirol VS

Mae’r Athro Wolfgang Mair yn cyflwyno syniadau newydd am y Bushweld Complex yn Ne Affrica a chreigiau wltrabasig cysylltiedig.

Gwyliwch seminar ar Haenu mewn Ymwthiadau Cefnforol Cyfandirol VS

Procsi ar gyfer Presenoldeb Ffynonellau Hydrocarbon

Mae Qiang Zhang yn trafod ffawtiau crwm (listric) a'u pwysigrwydd yn nhermau bod yn farcwyr strwythurol a dangosyddion creigiau ffynhonnell.

Gwyliwch seminar ar Procsi ar gyfer Presenoldeb Ffynonellau Hydrocarbon

Reolaethau Metamorffig ar Holltau Brau (Brittle Fracturing) mewn Parthau Cywasgu Ar hyd Rhyngwyneb Islithriadau

Mae Chris Tulley yn trafod parthau croeswasgu sydd wedi'u datgladdu a'u claddu mewn cymhlygion islithriadau, gyda phwyslais ar eu pwysigrwydd geodynamig.

Gwyliwch seminar ar Reolaethau Metamorffig ar Holltau Brau (Brittle Fracturing) mewn Parthau Cywasgu Ar hyd Rhyngwyneb Islithriadau

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth am ein digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol, cysylltwch â:

Tîm Ymgysylltu Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd