Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr De Cymru a De-orllewin Lloegr yn derbyn £4.3 miliwn ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf i salwch meddwl difrifol

27 Chwefror 2024

Brain scan

Bydd Prifysgol Caerdydd yn rhan o Ganolfan Ymchwil Llwyfan Iechyd Meddwl Newydd. Mae Hwb Llwyfan Iechyd Meddwl newydd ac arloesol wedi derbyn grant o £4.3miliwn gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC). Bydd yr Hwb yn gwella dealltwriaeth o salwch meddwl difrifol yn ogystal â sut y cynhelir diagnosis ohono a’r driniaeth ar ei gyfer.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn rhan o Ganolfan Ymchwil Llwyfan Iechyd Meddwl Newydd. Mae Hwb Llwyfan Iechyd Meddwl newydd ac arloesol wedi derbyn grant o £4.3miliwn gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC). Bydd yr Hwb yn gwella dealltwriaeth o salwch meddwl difrifol yn ogystal â sut y cynhelir diagnosis ohono a’r driniaeth ar ei gyfer.

Bydd Hwb De Cymru a De-orllewin Lloegr (SW²) yn dod â rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr sy’n arwain y byd ynghyd. Daw’r rhain o brifysgolion Cynghrair GW4 (Caerdydd, Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg), Prifysgol Abertawe, Adferiad Recovery, Bipolar UK, yn ogystal â chleifion â phrofiad bywyd, a’r nod yw datblygu ymchwil effeithiol i gyflyrau meddwl difrifol yn gyflymach, a’r triniaethau ar eu cyfer.

Bydd tîm Hwb SW² yn ceisio newid y sefyllfa hon a gwella bywydau pobl ag anhwylderau seicotig drwy gyfuno a dadansoddi data a gasglwyd ar raddfa fawr, â dysgu peiriannol a dulliau clystyru. Y nod fydd datblygu dealltwriaeth o’r hyn sy’n achosi salwch meddwl difrifol i ddatblygu.

Ar ben hynny, bydd yr ymchwil a wneir yn yr Hwb yn ceisio gwella’r systemau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer gwneud diagnosis o anhwylderau seicotig. Ar hyn o bryd, mae’r systemau hyn yn seiliedig yn gyfan gwbl ar ddisgrifiadau o symptomau ac ymddygiad. Bydd y tîm yn datblygu dulliau mwy gwrthrychol o ddiagnosis drwy ddefnyddio mesurau bioseicogymdeithasol megis geneteg, tasgau gwybyddol, delweddu’r ymennydd, marcwyr yng ngwaed pobl, yn ogystal ag asesiadau o’u datblygiad a’u cefndir cymdeithasol a diwylliannol. Bydd y diagnosisau manylach hyn yn golygu bod modd datblygu triniaethau sydd wedi'u targedu'n well, gyda'r nod o ailadrodd y datblygiadau a wnaed ym maes triniaethau ar gyfer gofal canser.

Bydd Hwb SW2 yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i ymchwilwyr ar draws de Cymru a de-orllewin Lloegr i gynnal ymchwil hanfodol i feysydd pwysig gwyddor iechyd meddwl. Bydd cydweithio â Phrifysgol Abertawe a sefydliadau Cynghrair GW4, yn ogystal â thimau yn Bipolar UK ac Adferiad Recovery, yn caniatáu inni harneisio arbenigedd cyfunol ein rhanbarthau i wella ein dealltwriaeth o salwch meddwl difrifol.
Yr Athro James Walters Clinical Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Bydd cydweithio â sefydliadau cynrychioli cleifion, Adferiad Recovery a Bipolar UK, yn ogystal â charfan o gleifion â phrofiad bywyd (PWLE) o sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, ac anhwylder sgitsoaffeithiol, yn elfen ganolog o waith Hwb SW². Y nod fydd mynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth ar hyn o bryd mewn astudiaethau ymchwil a ganiatawyd, yn ogystal â sicrhau bod canlyniadau ymchwil iechyd meddwl yn cynrychioli'r boblogaeth gyfan ac yn berthnasol i bawb.

Mae iechyd meddwl a salwch meddwl yn feysydd ffocws allweddol ym mlaenoriaeth strategol GW4, sef hybu ymchwil ac arloesedd iechyd a lles i bawb. Mae datblygu Hwb SW² yn gyfle gwych i ddod â rhwydwaith bywiog, cefnogol a chynhyrchiol o ymchwilwyr ynghyd. Mae’n harneisio’r cyfoeth o arbenigedd sydd gennym ym maes ymchwil iechyd meddwl ar draws Cynghrair GW4, ac mae hefyd yn datblygu arbenigwyr iechyd meddwl y dyfodol. Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid allweddol yn y diwydiant ac elusennau, yn ogystal â’n cydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn edrych ymlaen at gynnal ymchwil o’r radd flaenaf fydd yn gwella dealltwriaeth o salwch meddwl difrifol a’r driniaeth ar ei gyfer.
Dr Joanna Jenkinson MBE Cyfarwyddwr Cynghrair GW4

Bydd Hwb SW² yn rhan o rwydwaith sy’n cynnwys pum Canolfan Llwyfan Iechyd Meddwl ledled y DU sydd wedi’u hariannu gan UKRI. Bydd y rhain yn cydweithio i fynd i’r afael â heriau a rennir ac yn datblygu dulliau cyffredin o ddeall salwch meddwl, gan nodi’r triniaethau cynnar a’r rhai mwyaf effeithiol, ymyriadau a chymorth.

Bydd Hwb SW² yn rhan o blatfform iechyd meddwl newydd gwerth £22.5 miliwn a sefydlwyd gan UKRI i fynd i’r afael â heriau penodol salwch meddwl difrifol. Bydd y platfform yn dwyn ynghyd ymchwilwyr o ystod eang o ddisgyblaethau a sefydliadau meddygol ac anfeddygol.

Ei nod yw dod â nhw at ei gilydd i sicrhau bod eu hymdrechion yn canolbwyntio ar feithrin dealltwriaeth fanwl o’r rhai y mae salwch meddwl difrifol yn effeithio arnyn nhw, a hynny er mwyn helpu i nodi dulliau newydd o wneud diagnosis ohono a’i drin, gan gynnwys dulliau newydd o roi cymorth.

Mae’r fenter hon yn cael ei chefnogi gan gyllid o dan y thema Sicrhau Gwell Iechyd, Heneiddio a Lles – un o bum thema UKRI sy’n ceisio harneisio grym llawn system ymchwil ac arloesedd y DU i fynd i’r afael â heriau mawr a chymhleth.

Mae angen i ni wybod llawer mwy am yr hyn sy’n achosi salwch meddwl difrifol er mwyn i ni allu datblygu triniaethau newydd. Bydd y buddsoddiad newydd hwn gan UKRI yn cynnig gobaith ac anogaeth i bawb y mae’n effeithio arnyn nhw. Mae Sicrhau Gwell Iechyd, Heneiddio a Lles yn un o bum thema strategol UKRI sy'n harneisio grym llawn system ymchwil ac arloesedd y DU i fynd i'r afael â heriau mawr a chymhleth fel yr un hon. Gan weithio gydag eraill, ein nod yw gwella iechyd y boblogaeth, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd sy’n effeithio ar bobl a chymunedau a hyrwyddo ymyriadau sy’n ein cadw’n iachach am gyfnod hirach.
Athro Patrick Chinnery Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Feddygol

Rhannu’r stori hon