Ewch i’r prif gynnwys

Helpu pobl i wneud synnwyr o'u straeon: lansio'r Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) ym Mhrifysgol Caerdydd

7 Gorffennaf 2023

Professor James Walters, Professor Jeremy Hall, and Cardiff University Vice-Chancellor Professor Colin Riordan
Professor James Walters, Professor Jeremy Hall, and Cardiff University Vice-Chancellor Professor Colin Riordan

Ddydd Mercher yr 28ain o Fehefin croesawon ni westeion i Adeilad Hadyn Ellis i ddathlu ei lansio fel Canolfan Prifysgol Caerdydd ar ôl deng mlynedd o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ac i rannu eu cynlluniau ar gyfer y deng mlynedd nesaf o ymchwil.

Deng mlynedd nesaf y CNGG

Cyflwynodd siaradwyr o bob rhan o'r CNGG sgyrsiau ar draws tair thema ymchwil allweddol: anhwylderau niwroddirywiol, seicosis ac anhwylderau affeithiol mawr, a seiciatreg ddatblygiadol ac fe'i hagorwyd gan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan.

Cyn rhannu llwyddiannau'r ganolfan dros y degawd diwethaf, rhoddodd cyfarwyddwr sefydlu'r CNGG, yr Athro Syr Michael Owen, deyrnged i'r diweddar Athro Lesley Jones a Dr Lesley Bates a fu farw y llynedd.

Soniodd yr Athro Syr Owen am recriwtio'r garfan fwyaf o bobl â chyflyrau genetig niwroddatblygiadol prin ac adnabod dros 280 o enynnau ar draws anhwylderau fel sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn, dementia ac ADHD.

Amlinellodd Cyfarwyddwr CNGG, yr Athro James Walters, y cynlluniau ar gyfer deng mlynedd nesaf y Ganolfan, a fydd yn parhau i ymchwilio i ffactorau risg genetig ar draws hyd oes a datblygu taith well i gleifion drwy gynnal ymchwil gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o'r tu allan i'r DU hefyd.

“Mae cyllid y Ganolfan o dan y Cyngor Ymchwil Feddygol wedi ein galluogi i ddenu'r gwyddonwyr gorau yn y byd, ac rwy'n gobeithio y bydd Canolfan Prifysgol Caerdydd yn ein galluogi i wneud hyn i'r un graddau, ac mae'r cymorth a'r cyllid a gawsom wedi bod yn hanfodol.”
Yr Athro James Walters Clinical Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Cynrychiolodd Dr Samuel Chawner a Dr Joanna Martin waith Niwroddatblygiadol y ganolfan, gan gynnwys ymchwil i genomeg anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) lle darganfuwyd dileadau a dyblygu cromosomaidd prin  mewn pobl ag ADHD am y tro cyntaf yn 2010.

Gan adeiladu ar y canfyddiadau hyn, tynnodd Drs Chawner a Martin sylw at waith ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn y ganolfan a fydd yn parhau ag ymchwil genomig i iechyd meddwl plant a'r glasoed ar draws ystod ehangach o ddiagnosis a chyflyrau, megis anhwylderau bwyta, iselder, ac anawsterau cysgu.

Un genyn ar y tro

Gan ddarlunio ymchwil y canolfannau i seicosis ac anhwylderau affeithiol mawr, trafododd Dr Antonio Pardiñas ffarmacogenomeg a'r defnydd o enynnau i ragweld sut y bydd unigolyn yn ymateb i feddyginiaeth wrthseicotig benodol.

Er mwyn datblygu'r corff hwn o ymchwil, un o amcanion yr ymchwil yw parhau i adeiladu set fawr o ddata trwy gydweithrediadau allanol, fel y prosiect cyfredol gydag Akrivia Health.

Nododd Dr Pardiñas hefyd ymchwil yr Athro Arianna Di Florio i ailddosbarthu seicosis ôl-enedigol trwy nodi genynnau penodol sy'n gwahaniaethu symptomau o anhwylder deubegynol.

“Mae angen i ni hyrwyddo sut y gall y darganfyddiadau hyn yr ydym yn eu gwneud lywio therapiwteg newydd”.
Dr Antonio Pardiñas Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Yn arwain themâu ymchwil niwroddirywiol blaenllaw yn y Ganolfan, nododd Dr Tom Massey a Dr Rebecca Sims ddarganfyddiadau blaenorol sylweddol, megis 92 o enynnau yn ymwneud â chlefyd Alzheimer a oedd yn bosibl o faint sampl o 100,000 o gyfranogwyr

“Yr hyn rydyn ni wir wedi'i gymryd o'r canfyddiadau hyn yw'r fioleg sy'n sail i'r ymchwil hon.”
Dr Rebecca Sims Research Fellow, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Drs Sims and Massey hope that by looking into the biology of other neurodegenerative diagnoses such as Dementia, Parkinson’s and Huntington’s  disease across the Centre will allow researchers to understand how this can translate into clinical use and drug development.

The importance of public involvement

Dr Sarah Rees introduced the ongoing role of public involvement at the centre and in order to demonstrate the importance of public involvement not just from a research perspective but a personal one, she introduced Jacqui Campbell who has lived experience of mental ill-health and has been involved with the Centre’s work for several years.

“My hopes for the future of brain and mental health research are for a better understanding of conditions which will lead to better outcomes in prevention and early intervention.

"Where conditions cannot be delayed or prevented, I would like to see a better functioning system where we don’t see patients like me struggling to receive a diagnosis or the right treatment, or families fighting for a diagnosis and support and feeling isolated when faced with a neurodegenerative diagnosis, like my mum.

“What I would say to anyone who wants to get involved in mental health research, is that you have so much to offer. Your experience is unique and it matters.”

A photo from above of the Hadyn Ellis Building foyer showing lots of people talking and reading posterboards with scientific posters

Mae Drs Sims a Massey yn gobeithio y bydd ymchwilio i fioleg diagnosis niwroddirywiol eraill fel Dementia, Parkinson's a chlefyd Huntington  ar draws y Ganolfan yn caniatáu i ymchwilwyr ddeall sut y gall hyn drosi i ddefnydd clinigol a datblygu cyffuriau.

Pwysigrwydd cynnwys y cyhoedd

Cyflwynodd Dr Sarah Rees rôl barhaus cynnwys y cyhoedd yn y ganolfan ac er mwyn dangos pwysigrwydd cynnwys y cyhoedd nid yn unig o safbwynt ymchwil ond un bersonol, cyflwynodd Jacqui Campbell sydd â phrofiad byw o afiechyd meddwl ac sydd wedi bod yn ymwneud â gwaith y Ganolfan ers nifer o flynyddoedd.

“Fy ngobeithion ar gyfer dyfodol ymchwil i'r ymennydd ac iechyd meddwl yw cael gwell dealltwriaeth o gyflyrau a fydd yn arwain at ganlyniadau gwell o ran atal ac ymyrryd yn gynnar.

Lle nad oes modd oedi neu atal cyflyrau, hoffwn weld system sy'n gweithredu'n well lle nad ydym yn gweld cleifion fel fi yn ei chael hi'n anodd derbyn diagnosis neu'r driniaeth gywir, neu deuluoedd yn ymladd am ddiagnosis a chymorth ac yn teimlo'n ynysig wrth wynebu diagnosis niwroddirywiol, fel fy mam.”

“Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan mewn ymchwil iechyd meddwl yw bod gennych chi gymaint i'w gynnig. Mae eich profiad yn unigryw ac mae'n bwysig.”

Genomeg swyddogaethol a dilyniannu DNA — beth nesaf?

Cyflwynodd yr Athro Nick Bray a Dr Elliott Rees ymchwil CNGG i astudiaethau dilyniannu a genomeg swyddogaethol, a sut y bydd hyn yn effeithio ar ein dealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl dros y deng mlynedd nesaf drwy'r gallu i archwilio bioleg a mecanweithiau sylfaenol.

Defnyddio dilyniannu DNA a all helpu i adnabod mwtaniadau prin sydd ag effaith sylweddol trwy ddarparu mewnwelediad gwerthfawr i fioleg cyflyrau iechyd meddwl a'r gobaith i hyn lywio ymarfer clinigol.

“Wrth feddwl am y mathau prin hyn o fwtaniadau, dim ond newydd grafu'r wyneb yr ydym o ran darganfod genynnau.”
Dr Elliott Rees Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Dros y deng mlynedd nesaf, pwysleisiodd Dr Rees yr angen am fwy o gydweithrediadau byd-eang i gynyddu maint y samplau ac, yn ei dro, darganfyddiadau genynnau prin.

O ran genomeg swyddogaethol, amlinellodd yr Athro Nick Bray gynlluniau'r ganolfan sy'n cynnwys technolegau un gell a fydd yn caniatáu gwell dealltwriaeth o fecanweithiau cellog moleciwlaidd anhwylderau a chyflyrau eang.

Cyfieithu darganfyddiadau: o'r labordy i'r clinig

Yn dilyn darganfyddiadau Amrywiolyn Rhif Copi (CNV ) y ganolfan, trafododd Dr Kimberley Kendall sut y gellir trosglwyddo'r canfyddiadau genetig hyn yn ôl i'r unigolion sy'n eu cario, trwy ddatblygu Gwasanaeth Genomeg Seiciatrig Cymru Gyfan.

Dros y degawd blaenorol, mae llawer o'r ymchwil a gynhaliwyd yn edrych ar CNVs, a'r risg o sgitsoffrenia wedi'i wneud yn y CNGG, gyda thua 10 yn cael eu hadnabod.

Mae Gwasanaeth Genomeg Seiciatrig Cymru Gyfan yn darparu cwnsela genetig i'r rhai y mae cyflyrau genetig prin neu etifeddol yn effeithio arnynt, gan gynnwys teuluoedd.

Ers ei lansio ym mis Mehefin 2022, mae'r gwasanaeth wedi derbyn 35 o atgyfeiriadau, sy'n cynnwys 20 o atgyfeiriadau iechyd meddwl y GIG, a dyma'r clinig cyntaf o'i fath yn y DU.

Ei roi yn ei gyd-destun — dyfodol ymchwil CNGG ym Mhrifysgol Caerdydd

Fe wnaeth yr Athro Jeremy Hall gloi’r trafodaethau drwy roi trosolwg o'r sefydliadau y mae'r CNGG eisoes yn gweithio gyda nhw, megis y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl sy'n cysylltu â'r GIG a Sefydliad Hodge.

"Drwy bartneriaethau presennol ac yn y dyfodol, bydd Caerdydd yn cael ei hystyried yn ganolfan ar gyfer buddsoddi a datblygu mewn ymchwil iechyd meddwl ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithgarwch clinigol ar gyfer cyflyrau sydd heb eu trin.”
Yr Athro Jeremy Hall Director, Neurosciences & Mental Health Research Institute

Os ydych yn aelod o staff ym Mhrifysgol Caerdydd, mae recordiadau cyflwyniadau ar gael i'w gwylio ar Panopto. Cysylltwch â: psychmedcomms@cardiff.ac.uk

Rhannu’r stori hon