Ewch i’r prif gynnwys

Tystebau

Darganfyddwch beth mae cleientiaid y Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil yn ei ddweud.

"Cyfoeth o wybodaeth a phrofiad."

Dr Marion McAlister
Dr Marion McAlister

Rwyf wedi ceisio cyngor ac arweiniad gan y Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil ynghylch o leiaf tri o geisiadau am arian ymchwil yn y pedair blynedd diwethaf. Mae ymgynghorwyr RDCS bob amser yn gwneud amser i helpu, ac wedi dod yn 'gyfaill beirniadol' amhrisiadwy. Maent yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad o ddulliau ymchwil ac yn cael eu defnyddio ar draws ystod eang o feysydd clinigol, yn ogystal â bod yn gyfarwydd â cheisiadau am arian ymchwil blaenorol llwyddiannus ac aflwyddiannus.

Dr Marion McAlister, Uwch Ddarlithydd mewn Cwnsela Genetig, Prifysgol Caerdydd

"Cynorthwyol, cefnogol, amserol a phroffesiynol."

Dr Liba Sheeran
Dr Liba Sheeran

Fel ymchwilydd gyrfa gynnar sy’n ymdrechu i ddatblygu fy mhroffil ymchwil ar ôl cwblhau fy PhD, roedd y Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil yn hynod o ddefnyddiol ac yn fuddiol. O'r cychwyn, roedd y tîm wedi cymryd diddordeb, dod i adnabod fy ymchwil ac roedd ganddynt brosesau effeithiol ar waith i roi cyngor amserol imi a chymorth i gynllunio a datblygu cynigion y grant. Llwyddais i gael mynediad at yr holl arbenigedd perthnasol mewn dulliau ymchwil megis ystadegwyr treial, data a rheolwyr treial a chymorth â dulliau ansoddol i wella ansawdd fy nghynigion ymchwil. Yna, teimlaf fod cymorth RDCS a ddarparwyd mewn modd hynod o ddefnyddiol, cefnogol, amserol a phroffesiynol, yn gyfryngol i’m llwyddiant hyd yma.

Dr Liba Sheeran, Darlithydd, Dirprwy Arweinydd Thema Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd