Ewch i’r prif gynnwys

Ffeiriau a digwyddiadau gyrfaoedd

Rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn gallu croesawu cyflogwyr yn ôl ar y campws. Estynnwn wahoddiad ichi gwrdd â'n myfyrwyr a thrafod gyda nhw yn ein hadeilad eiconig newydd wrth ganol y brifysgol, sef Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Rydyn ni’n trin gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr mewn ffordd gyfunol ac rydyn ni’n gallu cynnig ystod o gyfleoedd fydd yn cefnogi eich ymgyrchoedd recriwtio. Bydd hyn yn golygu y gallwch chi hyrwyddo cyfleoedd a meithrin eich brand yn rhithiwr neu wyneb yn wyneb.

Mae ein ffeiriau a’n digwyddiadau gyrfaoedd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gwrdd â chyn-fyfyrwyr a chyflogwyr a chael cipolwg a rhagor o wybodaeth am swyddi i raddedigion, cyfleoedd am interniaethau a lleoliadau gwaith, a’u helpu i ddod o hyd i’w gyrfa yn y dyfodol drwy gynnig sesiynau sgiliau, sgyrsiau a gweithdai.

Ffair Gyrfaoedd a Lleoliadau

Dydd Mawrth 17 Hydref 2023, 11:00 – 15:00

Cadw eich lle

Yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Cyfle i ddod o hyd i dalent a chwrdd â myfyrwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau sy'n chwilio am leoliadau gwaith a chyfleoedd i raddedigion

Cyfle i hwyluso ymgysylltiad cynnar â myfyrwyr blwyddyn gyntaf, ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf ond un a datblygu ymwybyddiaeth o’ch brand yn gynnar.

Ffair Peirianneg a Ffiseg

Dydd Llun 9 Hydref 2023, 10:00 – 15:00 a

Dydd Mawrth 10 Hydref 2023 10:00 – 15:00

Cadw eich lle

Wedi'i leoli yn y Fforwm, yr Ysgol Peirianneg, ac yn para deuddydd.

Delfrydol ar gyfer sefydliadau sy'n awyddus i ganfod talent a chwrdd â myfyrwyr o ddisgyblaethau STEM, yn enwedig Peirianneg a Ffiseg.

Cyfle i hwyluso ymgysylltiad cynnar â myfyrwyr blwyddyn gyntaf, ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf a datblygu ymwybyddiaeth o’ch brand yn gynnar.

Ffair y Gyfraith, Caerdydd

Dydd Mercher 1 Tachwedd 2023, 13:00 – 16:00

Cadw eich lle

Ymunwch â ni yn ein ffair gyrfaoedd y Gyfraith ar y campws yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Mercher 1 Tachwedd 2023.

Mae hwn yn ddigwyddiad y mae'n rhaid mynd iddo ar gyfer sefydliadau'r Gyfraith sydd am adeiladu ymwybyddiaeth brand a hyrwyddo cyfleoedd i raddedigion ymhlith ein myfyrwyr amrywiol a thalentog yn y Gyfraith.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn rhagor o gyfleoedd marchnata?

Beth bynnag fo'ch cyllideb, mae gennym opsiynau ychwanegol i ddiwallu eich anghenion:

  • Nawdd
  • Pecynnau i Brif Arddangoswyr
  • Cyfleoedd hysbysebu ychwanegol

Sylwer bod cynnal digwyddiadau ar y campws yn amodol ar ganllawiau'r Llywodraeth a'r Brifysgol.

Digwyddiadau o dan sylw

Dyluniwyd ein digwyddiadau panel wyneb yn wyneb i roi cipolwg i fyfyrwyr ar yr ystod o yrfaoedd cyffrous sydd ar gael iddyn nhw ar ôl graddio. Dyma'ch cyfle i chwalu rhai o'r mythau a allai fod ynghlwm wrth eich diwydiant, yr heriau allweddol y bydd myfyrwyr yn eu hwynebu hwyrach wrth ddewis yr yrfa hon ac yn seiliedig ar eich profiad, y ffactorau pwysicaf y dylai myfyrwyr eu hystyried wrth feddwl am eu gyrfaoedd ar ôl graddio.

Dyma rai o'n digwyddiadau blaenorol a gynhaliwyd yng Ngwanwyn 2022:

  • Dewch o hyd i'ch dyfodol ym maes yr amgylchedd
  • Dewch o hyd i'ch dyfodol ym maes technoleg
  • Dewch o hyd i'ch dyfodol creadigol
  • Digwyddiadau amrywiaeth 'cwrdd â'r gweithwyr proffesiynol'
  • Ffair Gyrfaoedd MBA

Os hoffech chi glywed rhagor am y digwyddiadau uchod, cysylltwch â'r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr drwy employerservices@caerdydd.ac.uk.

Rhagor o wybodaeth

Mae croeso ichi gysylltu â'r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr i drafod eich anghenion recriwtio.

Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr