Hysbysebu eich swyddi gwag gyda ni
Gallwch hysbysebu eich swyddi i dros 34,000 o fyfyrwyr gweithredol, uchelgeisiol a graddedigion diweddar Prifysgol Caerdydd drwy ein hysbysfwrdd swyddi ar-lein.
Bwrdd swyddi gwag
Gyda thros 2000 o gliciau ar y botwm cyflwyno bob mis, gallai hi ddim bod yn haws hyrwyddo eich cyfle, ac mae am ddim. Gallwch hysbysebu ar gyfer:
- swyddi parhaol i raddedigion
- contractau tymor byr
- lleoliadau gwaith ac interniaethau
- gwaith prosiect pwrpasol
- pob un o'r uchod yn y DU a thramor.
Gallwn ni helpu i recriwtio hefyd. Rydym yn cynnig:
- platfformau cyfweld digidol
- ystafelloedd grŵp bach ar gyfer sgyrsiau anffurfiol
- gweithgareddau canolfan asesu.
Mae pob swydd wag yn amodol ar gymeradwyaeth y gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr. Darllenwch ein canllawiau ar gyfer cyflogwyr ar hysbysebu swyddi gwag a'n hysbysiad preifatrwydd.
I hysbysebu swyddi gwag rhan amser neu achlysurol dylech gysylltu â’r Siop Swyddi, y gwasanaeth cyflogi myfyrwyr. Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd sy’n berchen a rhedeg y gwasanaeth.
Noddi
O noddi digwyddiadau, cyhoeddiadau, ystafelloedd ac adeiladau neu raglenni digwyddiad fel Gwobr Caerdydd, mae gennym ystod eang o gyfleoedd noddi ar gael i’ch helpu i ehangu ymwybyddiaeth o’ch brand ar y campws ac ar-lein.
Bydd nawdd yn rhoi mynediad arbennig at eich sefydliad at gyfleoedd hysbysebu nad ydynt ar gael i gyflogwyr eraill, a gallwn eich cefnogi mewn uchafu eu potensial.
Noder ein bod yn methu cynnig ebyst wedi’u targedu at fyfyrwyr yn uniongyrchol gan gyflogwyr.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â’r Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr i gael mwy o wybodaeth am ein hystod o becynnau noddi.