Ewch i’r prif gynnwys

Fy mhrofiad i o fod yn fyfyriwr ôl-raddedig rhyngwladol

Maheen Sajid

Mae Maheen Sajid, myfyrwraig ryngwladol o Bacistan, yn rhannu ei phrofiad o fod yn astudio Marchnata Strategol (MSc) yn Ysgol Busnes Caerdydd, oedd meddai yn brofiad trawsnewidiol...

Pam y gwnes i ddewis Prifysgol Caerdydd ar gyfer fy ngradd

Fe ddewisais i Brifysgol Caerdydd ar gyfer fy ngradd MSc ym maes Marchnata Strategol oherwydd bod ganddi enw da eithriadol am gyflwyno gwybodaeth gynhwysfawr ynghylch marchnata, a’r modd mae’n cyfuno fframweithiau damcaniaethol â chymhwyso’r rhain yn y byd go iawn.

Roedd yr amgylchedd bywiog a arweinir gan ymchwil yn addo profiad dysgu ymdrochol, ac roedd y cyfle i ymgysylltu ag academyddion blaenllaw a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn apelio’n fawr. Yn ogystal, roedd cymuned gynhwysol ac amrywiol Caerdydd yn golygu ei fod yn le perffaith ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

Sut mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi fy nghefnogi

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi rhoi cefnogaeth ddigyffelyb drwy gydol fy ngradd, gan gynnig amgylchedd sy’n meithrin ond hefyd yn fy herio i dyfu'n academaidd ac yn bersonol.

O wasanaethau gyrfa ymroddedig a’m helpodd i fireinio fy nyheadau proffesiynol i'r gyfadran hygyrch a chefnogol a oedd bob amser yn barod i roi arweiniad a rhannu o’u profiadau; mae'r ysgol wedi chwarae rhan ganolog yn fy natblygiad. Mae'r gweithdai a'r seminarau niferus hefyd wedi bod yn allweddol wrth ehangu fy nealltwriaeth o'r maes marchnata.

Byw yng Nghaerdydd

Mae byw yng Nghaerdydd wedi bod yn brofiad eithriadol, diolch i'w hawyrgylch cyfeillgar, ei sîn ddiwylliannol gyfoethog, a'i thirweddau hardd. Mae’r ffaith fod y ddinas yn un fechan yn golygu bod modd dod i’w hadnabod yn rhwydd, o’i marchnadoedd prysur a’i phensaernïaeth hanesyddol i’w pharciau tawel a’i glannau. Mae cymuned fywiog y myfyrwyr a'r llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi golygu bod fy amser yma nid yn unig wedi bod yn addysgol, ond yn fwyniant llwyr ac yn gofiadwy.

Yr hyn rydw i wedi'i fwynhau fwyaf am fy ngradd hyd yn hyn

Rwy’ wedi mwynhau'r cyfle i weithio ar brosiectau byw gyda busnesau go iawn. Mae'r profiadau hyn wedi caniatáu imi gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn lleoliadau ymarferol gan fod mwyafrif y cwrs hwn yn seiliedig ar ymarfer er mwyn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o farchnata strategol ar waith.

Mae cydweithio hefyd â chyd-ddisgyblion o amrywiol gefndiroedd wedi cyfoethogi fy nysgu, ac mae wedi sicrhau ystod o safbwyntiau ar heriau a strategaethau ym maes marchnata.

Sgiliau a ddatblygwyd a fydd yn fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol

Rwy’ wedi datblygu sgiliau fel meddwl yn feirniadol, cynllunio strategol, a gwneud penderfyniadau ar sail data, sy'n greiddiol i yrfa lwyddiannus yn y maes marchnata. Bydd y gallu i ddadansoddi senarios cymhleth yn ymwneud â’r farchnad a dyfeisio strategaethau effeithiol yn allweddol wrth lywio'r dirwedd busnes deinamig. A minnau wedi mireinio fy sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm byddaf yn gallu arwain prosiectau a chydweithio'n effeithiol â rhanddeiliaid ar hyd ystod o wahanol swyddogaethau.

Pam y byddwn yn argymell Marchnata Strategol (MSc)

Byddwn yn argymell y rhaglen ar sail ei chwricwlwm cynhwysfawr sy'n paratoi myfyrwyr yn drylwyr ar gyfer heriau'r diwydiant marchnata. Mae'r cyfuniad o astudio damcaniaethol a chymhwyso ymarferol dan ofal y gyfadran o'r radd flaenaf hon a’r adnoddau helaeth sydd ar gael, yn ei gwneud yn rhaglen heb ei ail.

Mae'r cyfle i fod yn rhan o gorff myfyrwyr amrywiol a deinamig yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy ar gyfer myfyrwyr yn y DU wedi gwella fy mhrofiad dysgu cyffredinol.

I grynhoi fy mhrofiad yng Nghaerdydd

O'm darlith gyntaf un i'r prosiect terfynol, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn daith ryfeddol o drawsnewid a dysgu, hyn wedi'i gyfoethogi ag eiliadau bythgofiadwy, cyfeillgarwch parhaol, a'r diwylliant hudolus Cymreig, y cyfan oll mewn dinas a ddaeth yn ail gartref i mi yn gyflym ac yn gymuned a'm hysbrydolodd bob cyfle posib.

Rhagor o wybodaeth

Marchnata Strategol (MSc)

Dewch o hyd i’ch arbenigedd ym maes marchnata byd-eang gyda’n rhaglen sydd â phwyslais ar agweddau ymarferol.

Students talking in break room

Busnes, rheoli a chyllid

Cyfle i gael addysg a allai newid eich gyrfa gan arbenigwyr academaidd ac ymarfer blaenllaw a fydd yn eich herio i ystyried y byd busnes o safbwyntiau amgen.