Ewch i’r prif gynnwys

Sut y gwnaeth angerdd am gynaliadwyedd siapio fy llwybr gyrfaol

Amy Boote

Wedi’i hysbrydoli gan angerdd am gynaliadwyedd, astudiodd Amy Boote MSc mewn Rheoli Cadwyni Cyflenwi yn Gynaliadwy yn Ysgol Busnes Caerdydd. Yna, dilynodd yrfa yn y diwydiant ffasiwn moethus, gan gymhwyso'r wybodaeth a ddysgodd trwy'r cwrs. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn ymchwilio i arferion ffasiwn cynaliadwy ymhellach wedi denu Amy yn ôl i Brifysgol Caerdydd, lle mae ar fin cychwyn PhD.

Mae Amy yn dweud mwy wrthym…

Yr ysbrydoliaeth ar gyfer astudio Rheoli Cadwyni Cyflenwi yn Gynaliadwy (MSc)

“Astudiais ar gyfer fy BSc mewn Rheolaeth Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd ac roeddwn i’n caru Caerdydd fel dinas, felly doedd gwneud MSc yn rhywle arall ddim yn opsiwn.

Yn ystod fy BSc, des i wyneb yn wyneb â’r heriau difrifol y mae cymdeithas yn eu hwynebu o ran datblygu cynaliadwy yn y maes busnes.

Yn sgil y cynnydd anthropogenig yn lefel y môr ac mewn allyriadau carbon, mae'r angen i frandiau ffasiwn cyflym gymryd cyfrifoldeb am eu cyfraniad at yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn hollbwysig. Yn lle hynny, mae brandiau'n dweud celwydd trwy ymgyrchoedd hysbysebu gwyrddgalchu mewn ymdrech i wneud cyfrif bychan o drosiant dillad cyflym, defnydd cemegol niweidiol, a gorddefnydd o danwyddau ffosil.

Rydw i wedi dod i ddeall y gall tryloywder yn y diwydiant ffasiwn cyflym ond ddod i’r amlwg os caiff defnyddwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y dyfodol eu grymuso drwy wybodaeth academaidd, ac felly roeddwn yn argyhoeddedig y byddai MSc mewn Rheoli Cadwyni Cyflenwi yn Gynaliadwy, sydd ond yn cael ei gynnig gan Brifysgol Caerdydd, yn fy ngalluogi i ymchwilio'n fanwl i'r agenda ymchwil a'm diddordebau.

Pam y byddwn yn argymell yr MSc mewn Rheoli Cadwyni Cyflenwi yn Gynaliadwy

Mae'r rhaglen yn rhoi'r set sgiliau angenrheidiol i chi ar gyfer y gweithle. Mae cynaliadwyedd hefyd wedi ffynnu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda llawer iawn o fuddsoddiad a chorfforaethau nodedig yn deffro i'r ffaith bod angen iddynt newid eu ffyrdd presennol o weithredu, sy’n ei wneud yn faes cyffrous iawn i fod ynddo.

Fy ngyrfa

Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fel Cynorthwy-ydd Marchnata a Rheolwr Cynaliadwyedd yn RIXO, label dillad merched moethus. O fewn fy rôl marchnata, rwy'n gyfrifol am ddadansoddi gwerthiannau ffasiwn ac adroddiadau perfformiad i nodi tueddiadau a phatrymau masnachu sy'n berthnasol i'r tymor.

Cododd fy rôl fel Rheolwr Cynaliadwyedd drwy angerdd personol am ffasiwn cynaliadwy. Cysylltais â Phrif Weithredwyr RIXO gyda 'Map Ffordd Cynaliadwyedd', ac o ganlyniad rydw i nawr yn arwain Strategaeth Gynaliadwyedd gyntaf RIXO.

Rydw i’n bendant wedi ymuno â'r brand ar adeg gyffrous lle mae gan ffasiwn moethus y pŵer i greu newid catalytig yn y maes effaith amgylcheddol.

Sut helpodd yr MSc fi yn fy ngyrfa

Heb y cwrs, ni fyddwn wedi gallu mynd at Brif Weithredwyr RIXO gyda map ffordd gwybodus o sut y gall busnes symud tuag at gynaliadwyedd heb wyrddgalchu neu or-bwysleisio eu hymrwymiadau 'gwyrdd'.

Cyhoeddi fy nghanfyddiadau

Ers i mi gwblhau fy ngradd meistr, mae Dr Maryam Lotfi o Ysgol Busnes Caerdydd wedi cysylltu â mi i ofyn a hoffwn gyhoeddi canfyddiadau traethawd hir fy MSc yn Lampoon Magazine. A minnau erioed wedi ystyried fy hun yn academydd, neidiais ar y cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd a chael cynulleidfa ehangach i ddarllen fy ngwaith. Aeth Maryam yr ail filltir drwy gydol y broses ac mae'r erthygl, 'the unsustainable impact of patriarchy on the industry', yn ddarlleniad hynod dreiddgar.

A large amount of clothing items hung on rails

Fy hoff beth am fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd

Yn ystod fy 4 blynedd yng Nghaerdydd, bûm yn Ysgrifennydd Cymdeithasol, Ysgrifennydd Merched ac Is-lywydd Cymdeithas Golff Prifysgol Caerdydd (CUGC), gan chwarae’n rheolaidd yn nhîm BUCS ac yn Varsity. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu cydbwyso chwaraeon ochr yn ochr â’m MSc mewn unrhyw brifysgol arall; mae Caerdydd wir yn gwerthfawrogi'r unigolyn ac yn eich adeiladu i lwyddo ym mhob agwedd ar eich bywyd fel myfyriwr.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol a dychwelyd i Gaerdydd

Yn ddiddorol, rydw i'n mynd yn ôl i Brifysgol Caerdydd ar ôl derbyn cynnig i astudio Doethur mewn Athroniaeth (Astudiaethau Busnes) gydag ysgoloriaeth fawreddog gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Byddaf yn ymchwilio i bwnc fy nhraethawd hir: ‘Environmental Impact and Gender Inequality in the Fast Fashion Supply Chain: An Ecofeminist Perspective’.

Rwy’n obeithiol y bydd y naid hon i mewn i raglen ddoethuriaeth yn caniatáu i mi gyfrannu canfyddiadau arloesol i’r maes ymchwil astudiaethau busnes proffesiynol. Ac yn bwysig iawn bydd yn fy rhoi mewn safle i hybu tryloywder yn y diwydiant ffasiwn cyflym a sicrhau newidiadau ym mholisi presennol y diwydiant. Rwy’n anelu at dynnu sylw at berthynas ecsbloetiol menywod â ffasiwn cyflym, trwy archwilio’n benodol seiliau diwylliannol casineb at ferched a gormes mewn ffatrïoedd gweithgynhyrchu a’r gwrthwynebiad i adnoddau naturiol y mae menywod yn dibynnu arnynt i’w defnyddio mewn dillad ffasiwn cyflym.”

Dysgwch fwy am Reoli Cadwyni Cyflenwi yn Gynaliadwy (MSc)