Ewch i’r prif gynnwys

Dewch yn un o arweinyddion y dyfodol drwy’r rhaglen MBA rhan-amser yng Nghaerdydd

Cewch addysg fydd yn newid eich gyrfa, a hynny ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau eraill drwy ein cwrs sydd wedi’i achredu gan AMBA.

Dyma Gyfarwyddwr y Rhaglen MBA yng Nghaerdydd, Dr Saloomeh Tabari, yn dweud mwy wrthym...

Ar gyfer pwy y mae'r rhaglen MBA rhan-amser yn addas..

Mae ein rhaglen yn addas i weithwyr proffesiynol sy'n chwilio am brofiad heriol a fydd yn eu paratoi at fod yn uwch-arweinydd sy'n gyrru newidiadau cadarnhaol mewn busnes yn eu blaen.

Mae’n addas ar gyfer y rheiny sy'n dymuno rhoi hwb i’w gwybodaeth a'u sgiliau, a hynny ochr yn ochr â'u hymrwymiadau eraill.

Sut rydym yn herio myfyrwyr i ddod yn arweinwyr y dyfodol ac ysgogi newidiadau cadarnhaol mewn busnes

A hwythau’n cael eu haddysgu gan arbenigwyr blaenllaw, rydym yn rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr ar ystod amrywiol o ddamcaniaethau a fydd yn eu grymuso i gyfuno eu profiadau eu hunain â damcaniaethau perthnasol. Drwy herio’r wybodaeth, strwythurau, tybiaethau, gwerthoedd a sgiliau sydd gan fyfyrwyr ar hyn o bryd, rydyn ni’n eu hysgogi i ailystyried eu dealltwriaeth gyfredol, gan drin a thrafod materion o sawl persbectif.

Rydyn ni’n trafod amryw o astudiaethau achos mewn amgylchedd lle caiff myfyrwyr, sy'n dod o gefndiroedd proffesiynol eang, eu hannog i rannu a thrafod eu syniadau er mwyn datrys senarios cymhleth.

Gwerth cyhoeddus

Gan ei bod yn rhan o ysgol busnes gwerth cyhoeddus, mae'r rhaglen MBA yn ystyried yr effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar fyd busnes. Rydym am ddod â dyngarwch, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i’r sector busnes.

Rydym yn falch bod ein rhaglen MBA wedi’i llywio gan weledigaeth werth cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Caiff y rhaglen hon ei haddysgu mewn blociau o amser neilltuol ar gyfer ymdrwytho. Ym mhob bloc dysgu, ceir amrywiaeth o weithgareddau megis siaradwyr gwadd o’r byd diwydiant, datrys problemau yn ôl amserlen, sefyllfaoedd chwarae rôl ac efelychiadau. Ar ddiwedd pob modiwl, rydyn ni’n defnyddio ystod o ddulliau asesu er mwyn cael y gorau allan o bob unigolyn.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen MBA, rhoddir y cyfle i bob myfyriwr gymryd rhan mewn prosiect byw yn y byd go iawn. Byddan nhw’n gweithredu’n ymgynghorwyr ar ran cwmni penodol, ac yn cyflwyno adroddiad sy'n ymdrin â her benodol a gafodd ei nodi gan y cwmni partner.

Cymuned yr MBA yn Ysgol Busnes Caerdydd

Rydyn ni’n ymfalchïo’n fawr yn ein cymuned gref a chyfeillgar.

Mae ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr MBA yn ymgysylltu'n dda iawn â'r rhaglen, ac mae gennym ni lu o weithgareddau y tu allan i'r amserlen addysgu. Rydyn ni hefyd yn cynnal gweithdai, siaradwyr gwadd, ymweliadau gan gwmnïau, a chyfarfodydd blynyddol.

Fy hoff ran o’r rhaglen MBA yng Nghaerdydd

Yr agosatrwydd ymysg y myfyrwyr  Fe ddown ni’n deulu am flwyddyn neu ddwy, ac weithiau hyd yn oed am oes!

Yn ogystal, rydyn ni hefyd yn rhannu'r un gwerthoedd â’n gilydd ac rydyn ni’n frwd dros greu byd gwell ar gyfer y dyfodol.

Fy nghyngor i i rywun sy'n ystyried yr MBA rhan-amser

Breuddwydiwch yn fawr, a chofiwch nad yw hi byth yn rhy hwyr i roi hwb i’ch gwybodaeth. Os gallwch chi ei freuddwydio, gallwch chi ei gyflawni. Ymunwch â theulu MBA Caerdydd i ehangu eich rhwydwaith a bod yn rhan o'r newid.

Gyfarwyddwr y Rhaglen MBA yng Nghaerdydd, Dr Saloomeh Tabari.

Dyma ragor o wybodaeth am yr MBA rhan-amser

Athro mewn Gweinyddiaeth Fusnes (MBA)

Taclwch heriau arweinyddiaeth ac ystyried effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol busnes byd-eang ar ein rhaglen MBA hyblyg a rhan-amser.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, cysylltwch â ni. Byddwn wrth fy modd yn clywed gennych chi:

Saloomeh Tabari profile image

Dr Saloomeh Tabari

Darlithydd mewn Marchnata a Strategaeth

Email
mba-enquiries@caerdydd.ac.uk