Ewch i’r prif gynnwys

Pum munud gyda Rachel Williams

Mae Rachel Williams yn weithiwr proffesiynol Adnoddau Dynol ac yn ddarlithydd profiadol. Cyn ymuno ag Ysgol Busnes Caerdydd, roedd ganddi swyddi AD yn y sector cyhoeddus a phreifat, a bu’n Bennaeth Adnoddau Dynol i Eversheds yng Nghaerdydd am 6 blynedd.

Beth ddaeth â chi i Ysgol Busnes Caerdydd?

Pan anwyd fy merch, penderfynais nad oeddwn bellach eisiau rôl AD lawn. Awgrymodd ffrind y dylwn wneud cais i addysgu ychydig o diwtorialau AD yn yr Ysgol Busnes, a dyna wnes i. Cyn bo hir, roedd prosiect i gyd-fynd â'r sesiynau tiwtorial i ennill achrediad CIPD ar gyfer yr MSc HRM ac yna trodd hwn yn gontract darlithio parhaol. Ar ôl 14 mlynedd, rwy'n credu bod fy rôl academaidd lawn wedi disodli fy rôl AD lawn.

Pam mynd i brifysgol i gael hyfforddiant gweithredol?

Yn y brifysgol rydych chi'n agored i syniadau newydd a gallwch fod yn hyderus bod y deunydd yn seiliedig ar dystiolaeth a'r ymchwil ddiweddaraf. Yn ystod hyfforddiant gweithredol cewch gyfle i drafod y syniadau hyn gyda rheolwyr eraill, rhannu profiadau a myfyrio ar sut y gallant wella eich arferion cyfredol.  Mae cael lle i rannu syniadau yn bwysig iawn.

Beth ydych chi'n gweithio arno ar hyn o bryd?

Mae gen i ddiddordeb mewn AD ar bob cam o'r berthynas gyflogaeth. Rydw i wedi edrych ar sut mae athrawon yn ymdopi â'r heriau o ddechrau yn y proffesiwn, ond mae gen i ddiddordeb hefyd yn y modd rydyn ni'n chwalu'r rhwystrau i gyflogaeth i lawer o gymunedau difreintiedig. Gall arferion AD effeithio ar gymunedau cyfan yn ogystal â gweithwyr unigol.

Pa sgiliau cyfrinachol sydd gennych chi?

Gyda fy nwy ferch yn y brifysgol, rwyf wedi dod yn arbenigwr ar anfon eitemau yn ddiogel trwy'r post. Y llynedd roedd hyn yn cynnwys cacen ben-blwydd wedi'i haddurno'n llawn a gyrhaeddodd yn un darn ar ôl cael ei anfon gyda'r Post Brenhinol!

Rachel Williams

Rachel Williams

Lecturer (teaching and scholarship, Management, work and organization)

Email
williamsr6@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5074