Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Graddio’r Ysgol Busnes

Mae ein graddedigion yn ymgymryd ag amrywiaeth o yrfaoedd o sefydliadau mawr, byd-eang i gwmnïau bach boutique.

Yn ôl yr arolwg diweddaraf, roedd 97% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

Mae cyrchfannau cyflogaeth yn cwmpasu’r sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector ar draws y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol. Mae'r cwmnïau a gynrychiolir yn cynnwys Sky, Barclays Corporate, Citibank, Deloitte, KPMG, Microsoft, JP Morgan a BMW.

Mae cyflogadwyedd yn bwysig i ni ac rydym wedi ymrwymo i'ch paratoi ar gyfer bywyd y tu allan i addysg. Rydym hefyd am eich cefnogi i gyflawni eich dyheadau gyrfaol yn y dyfodol mewn marchnad swyddi gystadleuol. P’un a oes gennych syniad clir o’r hyn yr hoffech chi ei wneud ar ôl graddio neu ddim syniad o gwbl, rydym wrth law i’ch helpu, eich arwain a’ch cefnogi ar hyd eich taith.

O fewn yr Ysgol, bydd gennych fynediad at Ganolfan Gyrfaoedd bwrpasol (mae hyn yn ychwanegol at y gwasanaethau cymorth a gynigir gan y Brifysgol) sy'n cynnig gwasanaeth busnes-benodol i'ch cynorthwyo i wireddu eich uchelgeisiau gyrfaol.

Rydym hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd i gynyddu eich profiad gwaith a’ch cyflwyno i fyd ymarferol busnes. Gall y rhain fod yn gyfnodau byr o waith yn gysylltiedig â phrosiect penodol neu flwyddyn ar leoliad proffesiynol.

Cofiwch, nid yw hi byth yn rhy gynnar dechrau cynllunio ar gyfer eich cyflogadwyedd yn y dyfodol, felly manteisiwch ar y cyfleoedd a gynigir a chael y dechrau gorau posibl.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.