Prosiect Band Eang Cyflym Iawn
Mae’r Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU) sy’n rhan o Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnal ymchwil ynglŷn â buddion economaidd sy’n gysylltiedig â busnesau Cymru yn defnyddio technolegau band eang cyflym iawn.
Bydd ein hymchwil yn annog busnesau i ddefnyddio gwasanaethau band eang cyflym iawn yn ogystal ag asesu eu heffaith economaidd.
Ein nod yw bod yn brif ffynhonnell ymchwil academaidd perthnasol a safonol ar gyfer busnesau Cymreig, y cyhoedd a'r drydedd sector.
Gallwch helpu hysbysu polisi’r Llywodraeth ar gyfer band eang cyflym iawn yng Nghymru drwy gwblhau ein harolwg ar-lein.