Podlediad The Power of Public Value
Mae The Power of Public Value, podlediad a gyflwynir i chi gan Ysgol Busnes Caerdydd, yn datgelu sut i newid ein cymdeithas a’n heconomi er budd cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.
Rydym yn archwilio sut i fynd y tu hwnt i elw, i ddod â dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i'r sector busnes.
Ym mhob pennod, mae gwestai yn rhannu eu straeon pwerus am werth cyhoeddus gyda’r cyflwynydd, yr Athro Peter Wells, y Rhag Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Cewch glywed sut maen nhw'n dehongli, yn diffinio ac yn cynrychioli egwyddorion gwerth cyhoeddus yr ysgol, wedi'u harwain gan eu cymhellion personol, eu gwerthoedd a'u diddordebau ymchwil eu hunain.
Yn llawn sgyrsiau sy’n ysgogi’r meddwl, mae’r podlediad yn eich helpu i feddwl yn wahanol am sut y gall busnes lunio ein cymdeithas a’n heconomi.
Gwyliwch ar YouTube / gwrandewch ar Spotify neu Apple Podcasts.
Penodau
Pennod 1: Creu newid cymdeithasol – Dr Deborah Hann
Ym mhennod gyntaf ein cyfres, mae'r cyflwynydd Peter yn sgwrsio â Dr Deborah Hann. Mae eu trafodaeth yn ymwneud â chreu gwerth cyhoeddus trwy waith ymchwil ac addysgu, gan arwain at newid cadarnhaol yn y byd go iawn.
Mae Deborah, Darllenydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth, yn taflu goleuni ar sut mae ei gwaith wedi ysgogi effaith wirioneddol ar gymdeithas. Maen nhw’n canolbwyntio ar ei gwaith ymchwil i’r Cyflog Byw ac ymgysylltu gweithredol â chymunedau lleol Caerdydd.
Pennod 2: Yr academydd actif: ail-lunio'r diwydiant ffasiwn – Dr Hakan Karaosman
Yn y bennod hon, mae Peter a Dr Hakan Karaosman yn archwilio’r cysyniad diddorol o academydd actif ac yn trafod sut y gall y byd academaidd fod yn gatalydd ar gyfer newid cymdeithasol ac amgylcheddol.
Mae Hakan, Darlithydd mewn Rheoli Cadwyni Cyflenwi, yn rhannu ei waith ymchwil i gymryd camau gweithredu er budd yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi ffasiwn. Maent hefyd yn dadansoddi’r gwerthoedd craidd a'r cymhellion y tu ôl i waith ymchwil Hakan sy'n canolbwyntio ar bobl ac yn siarad am sut i fesur llwyddiant.
Pennod 3: Caffael cynaliadwy a chenedlaethau’r dyfodol – yr Athro Jane Lynch
Ym mhennod 3, mae’r Athro Jane Lynch a Peter yn trafod ymgorffori cynaliadwyedd mewn arferion caffael er budd cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.
Maent yn archwilio rôl Jane fel Cyfarwyddwr y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae’r sgwrs hefyd yn cyffwrdd â phwysigrwydd cydweithio a pham y dylem herio o ble rydym yn prynu pethau.
Pennod 4: Gwerthoedd materol, hapusrwydd, a gor-ddefnydd – Dr Olaya Moldes Andres
Ymunwch â ni ar gyfer y bennod ysgogol hon lle mae Peter yn sgwrsio â Dr Olaya Moldes Andres, gan drafod ei gwaith ymchwil ar werthoedd materol a gor-ddefnydd.
A hithau’n Ddarlithydd mewn Marchnata a Strategaeth, mae Olaya yn dweud wrthym am ei chefndir mewn seicoleg ac yn taflu goleuni ar y synergeddau rhwng busnes a seicoleg. Archwilir hefyd bynciau fel prynwriaeth, defnyddio lles fel ffordd o werthu cynhyrchion, a sut i fesur hapusrwydd.
Pennod 5: Draenogod, addasu dodrefn ac ymgysylltu â'r gymuned – Julia Leath
Ym mhennod 5, mae Peter yn sgwrsio â Julia Leath, y Dirprwy Reolwr Cyfleusterau yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn archwilio sut mae hi'n plethu gwerth cyhoeddus yn ei rôl.
Gan gyfrannu’n gadarnhaol at y gymuned gyfagos (gan gynnwys y bywyd gwyllt lleol!), mae eu trafodaeth yn canolbwyntio ar fentrau, fel y prosiect Campws Cyfeillgar i Ddraenogod, ail-bwrpasu dodrefn, a meithrin ymgysylltiad cymunedol.
Pennod 6:Rhagdybiaeth Calvin: trywydd dyfodol gwerth cyhoeddus – Yr Athro Calvin Jones
Ym mhennod olaf y gyfres, mae Peter yn sgwrsio â'r Athro Economeg, Calvin Jones, lle maen nhw'n trafod sut y gwnaeth Calvin helpu i lunio naratif gwerth cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.
Wrth i'w sgwrs fynd yn ei blaen, mae Calvin yn rhagdybio ynghylch trywydd gwerth cyhoeddus y dyfodol. Mae'n rhannu ei farn bersonol ar beth allai ysgolion busnes ei wneud i hyrwyddo ymhellach, a dangos eu hymrwymiad i werth cyhoeddus a'i hesblygiad. Mae’n cynnwys awgrymiadau ar sut i amharu ar fodelau AU presennol, ailedrych ar ddulliau recriwtio rhyngwladol, a ffyrdd eraill y gall y byd academaidd, o’i safbwynt ef, gwrdd â’r her o greu byd sy’n fwy cynaliadwy.
Manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth
Yr Athro Peter Wells
Professor of Business and Sustainability, Director of the Centre for Automotive Industry Research, Pro Dean Public Value
Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.